Mae fy e-bost wedi newid
Os nad yw'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru yn dal gennych, gallwch newid eich manylion yn y Ganolfan Ceisiadau.
Sut i newid eich cyfeiriad e-bost
Y Ganolfan Ceisiadau yw ble y gwnaethoch wneud cais. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'r manylion y gwnaethoch eu defnyddio'n wreiddiol a chlicio ar 'Golygu Manylion Personol'. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi newid a diweddaru eich manylion personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad cartref Cofiwch: os ydych wedi newid eich cyfeiriad e-bost ni fydd eich cyfrinair yn newid.
Fel arall, cewch adael inni wybod beth yw eich cyfeiriad e-bost drwy lenwi'r ffurflen gymorth. Bydd yn rhaid ichi nodi pwy ydych drwy ateb o leiaf dau o'r canlynol: enw defnyddiwr, cyfrinair neu god post cartref. Am resymau diogelwch a chyfreithiol nid yw'n bosib inni newid manylion unrhyw gyfrif heb i chi ddarparu dull adnabod ac awdurdodi iawn. I anfon e-bost, ewch i dudalen Cymorth Technegol Cysylltu â Chymorth Technegol. Cofiwch y gallai'r newid hwn gymeryd hyd at 48 awr.