Swydd Wag -- Penodi Is-Gadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Manylion y swydd
Rôl y corff
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae ganddo boblogaeth o tua 390,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd yr Is-gadeirydd yn:-
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Disgwylir iddynt ddwyn barn annibynnol i'r Bwrdd ar faterion perfformiad, penodiadau allweddol, edrych ymlaen ac atebolrwydd;
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
- Yn dod, ymhen amser, i ddeall y busnes y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol
- Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
- Cefnogi’r Cadeirydd, a gallu dirprwyo yn ei habsenoldeb.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Gwybodaeth a Phrofiad
Profiad o arwain a datblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol;
Profiad o gyfrannu'n effeithiol ar lefel Bwrdd ac i gefnogi datblygiad bwrdd unedol;
Profiad o gadeirio pwyllgorau, sicrhau craffu cadarn tra'n cynnal agenda glir ac ymdeimlad o bwrpas;
Profiad o oruchwylio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth yn effeithiol a dealltwriaeth o pryd a sut i ofyn am fwy o fanylion heb golli persbectif aelod annibynnol (anweithredol);
Y gallu i ddadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn
Y gallu i weithio gyda'r cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle y bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y cyfarwyddwyr gweithredol i gyfrif am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
Y gallu i gyfrannu at brosesau Llywodraethu'r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau
Profiad o weithio mewn cymunedau a thimau amlddisgyblaethol ac â rhanddeiliaid allweddol mewn llywodraeth leol.
Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r gallu i ddangos a hyrwyddo arweinyddiaeth gynhwysol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol. Ffôn: 03000 255454, e-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: (01639 683379 E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/home
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.