Swydd Wag -- Comisiynydd y Gymraeg

Manylion y swydd

Comisiynydd y Gymraeg
Hyblyg. Er gwybodaeth, ar hyn o bryd, mae mwyafrif y staff y Comisiynydd yn gweithio yn swyddfeydd Caerdydd a Chaernarfon
Telir cyflog o ryw £95,000. Caiff treth ac yswiriant 
gwladol eu tynnu o'r gyflog a chyfrennir at bensiwn.
5
wythnos

Rôl y corff

Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur") yn cadarnhau statws swyddogol 
y Gymraeg yng Nghymru, yn creu system newydd i reoleiddio safonau'r Gymraeg, ac 
yn creu rôl Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd"). Mae’r Comisiynydd yn cael ei 
benodi gan Brif Weinidog Cymru.

Saith mlynedd yw hyd swydd y Comisiynydd ac nid oes modd ymestyn y cyfnod.

Disgrifiad o'r swydd

(i) Hybu a hwyluso cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg a chyfleoedd 
eraill i ddefnyddio’r Gymraeg

(ii) Gweithio tuag at sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r 
Saesneg a bod unigolion yng Nghymru yn gallu byw eu bywydau drwy'r 
Gymraeg os ydynt yn dymuno

(iii) Hyrwyddo arfer gorau a chynnig cymorth i gyrff i brif-ffrydio'r Gymraeg wrth 
ddatblygu polisi, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, cynyddu 
cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r 
Saesneg. 

(iv) Bod yn gyfrifol am reoleiddio system safonau'r Gymraeg. Mae'n ofynnol i tua 
120 o gyrff gydymffurfio â'r safonau ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

 rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gyrff sy’n dod o dan safonau, gan ymgynghori 
ar fersiwn drafft o’r hysbysiad 
 monitro perfformiad cyrff yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt ac 
adolygu hysbysiadau cydymffurfio yn rheolaidd, gan eu hamrywio a'u dirymu 
fel y bo'n briodol
 cyhoeddi codau ymarfer er mwyn rhoi arweiniad ymarferol i'r cyrff ynghylch 
gofynion y safonau
 dyfarnu ar geisiadau i'r Comisiynydd benderfynu p'un a yw'r gofyniad i 
gydymffurfio â'r safonau perthnasol yn afresymol neu'n anghymesur
 cyhoeddi hysbysiadau penderfynu yn dilyn ymchwiliadau i gwynion am 
achosion lle na chydymffurfiwyd â'r safonau perthnasol, yn unol â’r polisi 
gorfodi
 delio ag achwynwyr, darparwyr gwasanaethau, Tribiwnlys y Gymraeg ac 
unrhyw bartïon eraill sy'n rhan o weithdrefn apelio 
 creu a chynnal cofrestr o gamau gorfodi yn nodi manylion pob ymchwiliad, 
canlyniadau’r ymchwiliadau ac unrhyw apeliadau i Dribiwnlys y Gymraeg

(v) Yn dilyn cais gan unigolyn, ystyried ymchwilio i achosion honedig o geisio 
ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd a 
dyfarnu ar achosion yr ymchwilir iddynt

(vi) Adolygu'n rheolaidd ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith o ran y 
Gymraeg a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw newidiadau a 
allai fod yn ofynnol

(vii) Cydweithio ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac 
ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill fel y bo'n briodol 

(viii) Cyfrannu at y broses o benodi Panel Cynghori ac ymgynghori â'r Panel wrth 
gyflawni ei ddyletswyddau
(ix) Llunio adroddiad 5-mlynedd yn canolbwyntio ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y 
cyfnod hwnnw. Rhaid gosod copi o'r adroddiad gerbron Senedd Cymru

(x) Llunio adroddiad blynyddol yn cynnwys, ymhlith elfennau eraill, grynodeb o'r 
camau a gymerwyd wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd a'i gynigion 
ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn ganlynol. Rhaid gosod copi o'r adroddiad 
blynyddol gerbron Senedd Cymru

(xi) Comisiynu a gwneud gwaith ymchwil i sefyllfa'r Gymraeg 

(xii) Chwarae rôl weithredol o fewn y rhwydwaith rhyngwladol o gomisiynwyr iaith, 
a rhannu a gweithredu arferion gorau gwledydd eraill lle bo'n briodol 

(xiii) Gwneud argymhellion neu sylwadau, neu roi cyngor, i unrhyw berson gan 
gynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw un o'i 
swyddogaethau

(xiv) Arwain a rheoli Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a phenodi Dirprwy 
Gomisiynydd y Gymraeg

(xv) Gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu a bod yn gyfrifol am sicrhau bod Swyddfa'r 
Comisiynydd yn cael ei rheoli'n effeithlon yn ariannol, a pharatoi cyfrifon 
gwariant ac amcangyfrifon o incwm a chostau yn ôl y gofyn. Bydd y 
Comisiynydd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol o tua £3miliwn

(xvi) Creu a chynnal cofrestr o fuddiannau ar gyfer pob deiliad swydd perthnasol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

 Gallu profedig i arwain 

 Profiad o gynllunio a datblygu sefydliadau

 Gwybodaeth am faterion polisi yn ymwneud â'r Gymraeg; dealltwriaeth o'r 
materion sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg a'r rheini sy'n dysgu Cymraeg; ac 
ymrwymiad i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg

 Sgiliau rhyngbersonol gwych yn y Gymraeg a'r Saesneg a'r gallu i weithio'n 
effeithiol drwy'r Gymraeg mewn bob math o sefyllfaoedd, gan gynnwys 
gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl, ee Gweinidogion, uwch 
gynrychiolwyr o gyrff preifat a chyhoeddus, ac ymgysylltu gydag aelodau o'r 
cyhoedd

 Profiad o ddelio a siarad gyda’r wasg a’r cyfryngau

 Hygrededd ar lefel a fydd yn ennyn hyder a pharch Llywodraeth Cymru, 
Aelodau'r Senedd, llywodraeth leol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector 
preifat, y trydydd sector a'r cyhoedd

 Gallu profedig i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a chyrff 
allanol i ddatrys materion anodd yn foddhaol

 Profiad helaeth o reoli cyllid a phobl ac o lywodraethiant 

 Dealltwriaeth glir o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac o Saith 
Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

12 Medi 2022
12 Medi 2022

Dyddiad cau

17/06/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.