Swydd Wag -- Aelodau (6) - Cyfoeth Naturiol Cymru

Manylion y swydd

Cyfoeth Naturiol Cymru
Gellir lleoli'r swydd mewn unrhyw le yng Nghymru
Mae'r tâl yn seiliedig ar £350 y diwrnod ynghyd â threuliau rhesymol.
36
blwyddyn

Rôl y corff

Mae’r adnoddau naturiol sydd gennym yng Nghymru – ein coed, moroedd, bryniau, caeau, dŵr a bywyd gwyllt – yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Hebddynt, ni fyddai gennym aer glân i’w anadlu na dŵr i’w yfed. Maent yn un o brif ysgogwyr ein heconomi ac yn helpu i gynnal iechyd a llesiant ein pobl ac yn denu ymwelwyr i Gymru.

Mae galw cynyddol ar yr adnoddau hyn – gan ffactorau amgylcheddol fel newid yn yr hinsawdd, a chan ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Mae’n hanfodol felly sicrhau y caiff ein hadnoddau amgylcheddol eu rheoli yn y modd gorau posibl, i sicrhau gwerth am arian a chyflawni’r canlyniadau gorau. Mae angen gwneud hyn mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy, er mwyn peidio â gwastraffu asedau naturiol Cymru ac er mwyn eu cynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Atebolrwydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru trwy’r Gweinidogion Noddi (Y Gweinidog Newid Hinsawdd), Ynni a Materion Gwledig ar hyn o bryd) ac yn destun craffu gan Bwyllgorau perthnasol y Senedd. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am sut y mae’n cyflawni yn erbyn  llythyr cylch gwaith y Gweinidog.

 

Bwrdd CNC

Mae’r Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd ac un ar ddeg o aelodau, ac un ohonynt yw’r Prif Weithredwr. Wrth ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r sefydliad, mae’r Bwrdd, ar y cyd ac yn unigol, yn glynu at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.

Yn ogystal ag egwyddorion Nolan, bydd angen i’r Bwrdd sicrhau hefyd bod y sefydliad yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn rhoi ar waith ddyletswydd llesiant, sef i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Ar y cyd, dylai’r Bwrdd feddu ar gyfuniad o sgiliau sy’n diwallu anghenion busnes presennol CNC a’u nodau ar gyfer y dyfodol. Yn ddelfrydol, mae aelodau’r Bwrdd yn bobl ymarferol a strategol, a chanddynt feddwl cadarn, sy’n gallu cynnig adolygiad beirniadol, ac sy’n fedrus wrth roi arweiniad ac adborth uniongyrchol, yn ogystal â chefnogaeth pan fo’i hangen. Maen nhw’n mynegi eu barn ac yn cwestiynu yn hytrach na derbyn; maen nhw’n ddigon dewr i ofyn cwestiynau anodd mewn modd adeiladol ond gan fod yn ymwybodol bod CNC yn sefydliad mawr a chymhleth y mae angen ei arwain o ddydd i ddydd gan y Weithrediaeth. Felly, mae’n rhaid i aelodau’r Bwrdd fod â diddordeb mewn gwneud cyfraniad ystyrlon i ddatblygiad sefydliadol a gallu ymdopi â’r pwysau o weithredu yn llygad y cyhoedd.


Dylai’r Bwrdd weithredu fel tîm a phan fydd penderfyniadau wedi’u gwneud mae’n rhaid i aelodau unigol ymddwyn yn golegol a chefnogi penderfyniadau’r Bwrdd yn ei gyfanrwydd a’r swyddogion Gweithredol wrth iddyn nhw roi cyfarwyddyd y Bwrdd ar waith, ni waeth beth fo’r heriau.

Disgrifiad o'r swydd

Rydym yn chwilio am dri aelod o'r Bwrdd i ddechrau o fis Medi 2022:

  1. Aelod o'r Bwrdd sy'n gymwys i’w benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Cyllid y Bwrdd;
  2. Aelod o'r Bwrdd sy’n gymwys i'w benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd y Bwrdd;
  3. Aelod o’r Bwrdd sy’n gyfarwydd â’r marchnadoedd pren ac ynni adnewyddadwy

 

Un aelod o'r Bwrdd i ddechrau ar 01 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o'r Bwrdd yn gymwys i'w benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

 

A dau aelod o'r Bwrdd i ddechrau ar 09 Tachwedd 2022:

  1. Aelod o'r Bwrdd sydd â phrofiad o ymgysylltu cymdeithasol/cymunedol ac ymgysylltu â'r trydydd sector a/neu fentrau cymdeithasol.
  2. Aelod o'r Bwrdd sy'n gymwys i'w benodi'n aelod o Fforwm Rheoli Tir Cymru.

 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer un neu fwy o’r rolau sy’n cael eu hysbysebu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi yn eich datganiad personol pa rôl / rolau yr ydych cyn dymuno cael eich ystyried ar ei chyfer/eu cyfer.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Mae angen i bob ymgeisydd ddangos y sgiliau a'r ymddygiadau hanfodol canlynol:

 

Meini prawf hanfodol: ar draws pob rôl:

 

  • Parchu a deall egwyddorion atebolrwydd a llywodraethu da
  • Crebwyll wrth wneud penderfyniadau cymhleth
  • Y gallu i ddehongli a herio adroddiadau ariannol a materion perfformiad ehangach
  • Ffocws ar genedlaethau'r dyfodol: meddwl am effaith hirdymor penderfyniadau a chamau gweithredu
  • Ymrwymiad amlwg i ddeall a hyrwyddo materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y gweithle, mewn rôl arwain, a/neu wrth ddarparu gwasanaethau

 

Bydd ceisiadau ymgeiswyr yn cael eu cryfhau drwy ddangos rhai o'r sgiliau ac ymddygiadau dymunol canlynol neu bob un ohonynt:

 

Meini prawf dymunol: ar draws pob rôl:

  • Ymrwymiad angerddol i fynd i'r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ac i fynd ar drywydd rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol a’i hyrwyddo
  • Naill ai proffil cyhoeddus neu brofiad ym maes cyfathrebu a/neu’r maes digidol
  • Profiad o rolau a/neu gyfrifoldebau cyfrifyddu neu gyllid (gan gynnwys ar lefel bwrdd neu bwyllgor)
  • Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (ac eithrio Rôl 6 (hanfodol fel y nodir))

 

  • Deall: yn gallu deall rhannau o sgwrs sylfaenol;
  • Siarad: yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn Gymraeg;
  • Darllen: yn gallu darllen rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol gyda dealltwriaeth;
  • Ysgrifennu: yn gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd.

Manylebau rôl

Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r sgiliau a ganlyn a dylai pob ymgeisydd ddangos y sgiliau a'r ymddygiadau canlynol sy'n berthnasol i'r rôl (neu'r rolau) y maent yn dymuno gwneud cais amdanynt. Nodwch yn glir pa rôl neu rolau yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer:

 

Rôl 1 – Aelod o'r Bwrdd sy'n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus wrth ddehongli a herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion ehangach sy’n gysylltiedig â pherfformiad
  • Byddai dealltwriaeth dda o gyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddymunol

 

Rôl 2 – Aelod o'r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus wrth ddehongli a herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion ehangach sy’n gysylltiedig â rheoli llifogydd
  • Byddai dealltwriaeth dda o’r risgiau a'r materion sy'n gysylltiedig â rheoli llifogydd yn ddymunol

 

Rôl 3 – Aelod o'r Bwrdd: pren ac ynni adnewyddadwy

  • Gwybodaeth am y marchnadoedd pren ac ynni adnewyddadwy.
  • Byddai profiad yn y sector preifat yn ddymunol, gan gynnwys gweithgarwch masnachol a gwerth cymdeithasol

Rôl 4 – Aelod o'r Bwrdd sy’n gymwys i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor
  • Yn gyfforddus yn dehongli ac yn herio adroddiadau a rhagolygon ariannol a materion perfformiad ehangach
  • Byddai dealltwriaeth dda o archwilio a risg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddymunol

 

Rôl 5 – Aelod o'r Bwrdd: ymgysylltu cymdeithasol/cymunedol

  • Profiad o ymgysylltu cymdeithasol a/neu gymunedol, o safbwynt amgylcheddol os oes modd
  • Gwybodaeth am y trydydd sector a/neu fentrau cymdeithasol

Rôl 6 – Aelod o'r Bwrdd sy'n gymwys i fod yn aelod o Fforwm Rheoli Tir Cymru

  • Profiad o gadeirio uwch bwyllgor neu grŵp ac arno ystod eang o randdeiliaid allanol
  • Profiad ym maes rheoli tir, y dirwedd, coedwigaeth neu’r amgylchedd
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
  • Deall: yn gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith;
  • Siarad: yn gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith;
  • Darllen: yn gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur;
  • Ysgrifennu: yn gallu paratoi deunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda, a’r gwaith hwnnw’n cael ei wirio

 

Sylwer: mater i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yw penodi aelodau'r Bwrdd i swyddi ar Bwyllgorau a Fforymau. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais i gael eich penodi’n aelod o Fwrdd CNC, mater i Fwrdd CNC fydd penodi i'r swyddi ychwanegol hyn. Ar hyn o bryd, mae Cadeiryddion Is-bwyllgorau yn cael mwy o ddyddiau o gydnabyddiaeth ariannol.

Dyddiadau cyfweliadau

5 Medi 2022
23 Medi 2022

Dyddiad cau

27/06/22 12:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Os oes gennych ymholiadau am y swydd, anfonwch e-bost at Uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

 

I gael manylion y digwyddiadau gwybodaeth sydd ar gael i ddarpar ymgeiswyr, cliciwch ar y ddolen hon sy’n mynd â chi at dudalennau’r asiantaeth chwilio gweithredol trydydd parti sy’n cefnogi’r broses hon, sef Green Park Interim & Executive Ltd.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad i'r ffurflen gais.  I wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol. Y cyntaf, dogfen sy'n amlinellu sut mae eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiadau yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl fel yr amlinellir yn y wybodaeth ar gyfer ymgeiswyr. Cadwch y ddogfen hon o fewn 1,500 o eiriau, efallai na fydd y panel yn ystyried unrhyw beth mwy na hyn (er y bydd disgresiwn y panel yn cael ei ddefnyddio os byddwch yn gwneud cais am fwy nag un rôl a byddem yn awgrymu 500 gair ychwanegol fesul rôl ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â'r meini prawf hanfodol penodol ar gyfer y rôl ychwanegol honno yn rhesymol).

Mae'r ail ddogfen yn CV llawn, cyfoes.  Dylid lanlwytho'r ddwy ddogfen i adran 'Rhesymau dros wneud cais' y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus


Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.