Swydd Wag -- Penodi Aelodau Annibynnol y Panel Cynghori Amaethyddol (Sgiliau Cymraeg yn sgiliau hanfodol) - Panel Cynghori Amaethyddol

Manylion y swydd

Panel Cynghori Amaethyddol
Fel arfer cynhelir cyfarfodydd yn y Canolbarth
£250 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol
12
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Panel Cynghori Amaethyddol Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar gyfraddau cyflog teg a thelerau ac amodau cyflogaeth eraill i weithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, datblygu gweithlu â sgiliau priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r polisi Isafswm Cyflog Amaethyddol( AMW), yn cynnig yr holl newidiadau sy'n angenrheidiol ac yn ymgynghori ar eu cynigion cyn cyflwyno Gorchymyn Cymru Amaethyddol (AWO) drafft i Weinidogion Cymru i'w ystyried. Ar ôl iddo gael ei basio gan y Senedd, mae gan y Gorchymyn awdurdod cyfreithiol yng Nghymru.

Wrth wneud eu penderfyniadau, mae'r Panel yn defnyddio eu harbenigedd ac yn ystyried yr amodau economaidd yn y diwydiant ar y pryd, yn ogystal â'r holl ofynion cyfreithiol (fel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol). Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn cael cyflogau a lwfansau teg, a adolygir yn rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Cefnogir y Panel gan is-bwyllgor gorfodol sy'n rhoi cyngor ar faterion sy'n ymwneud â datblygu sgiliau, cyfleoedd hyfforddi a dilyniant gyrfa. Gall y Panel sefydlu is-bwyllgorau eraill ar faterion penodol yn ôl y gofyn.

Mae is-adran nawdd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol y Panel, ac mae cwmni cyfreithiol allanol yn cynghori'r Panel ar unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi gan gynnwys Gorchmynion drafftio.

Gall y Panel hefyd gomisiynu astudiaethau ac ymchwil ar unrhyw feysydd penodol y maent am gael rhagor o wybodaeth yn eu cylch er mwyn llywio eu penderfyniadau. Mae angen derbyn cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn derbyn unrhyw gyngor a allai arwain at gostau.

Disgrifiad o'r swydd

Penodir yr aelodau annibynnol ar sail eu didueddrwydd a'u harbenigedd, eu gwybodaeth a/neu eu profiad mewn amaethyddiaeth neu feysydd addysgol. Bydd yr Aelodau'n cymryd rhan ym mhob trafodaeth ar y Panel, gan gynnwys adolygu polisïau a thrafodaethau cyflogau Isafswm Cyflogau Amaethyddol Cymru, lle byddant yn rhoi safbwyntiau a chyngor arbenigol annibynnol ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Bydd yr aelodau hefyd yn gweithio ar y cyd â'r is-bwyllgor parhaol ar ddatblygu sgiliau a hyfforddiant ac yn rhoi cyngor i'r Panel ynghylch ei gylch gwaith i wella sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth o fewn y diwydiant.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol:

  • Tystiolaeth o ddadansoddi tystiolaeth a materion cymhleth er mwyn llunio barn gytbwys ac annibynnol;
  • Profiad a gwybodaeth ym maes addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau neu faes cysylltiedig a/neu amaethyddiaeth ;
  • Y gallu i herio barn pobl eraill yn adeiladol tra'n gweithio tuag at nod cyffredin.
  • Bod â'r gallu i wneud penderfyniadau anodd o dan bwysau, tra'n cynnal annibyniaeth meddwl;
  • Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt a’r parodrwydd i herio arferion gwahaniaethol pryd bynnag y bo’n briodol;

 

Meini Prawf Dymunol

  • Y gallu i gydweithio'n adeiladol ac ar y cyd â chyd-Aelodau'r Panel a rhanddeiliaid ehang;
  • Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu rhagorol;
  • Diddordeb yn y diwydiant amaethyddol a/neu wybodaeth am y diwydiant amaethyddol a materion sy'n ymwneud â chyflogaeth o fewn y sector.

Dyddiadau cyfweliadau

18 Ionawr 2021
29 Ionawr 2021

Dyddiad cau

04/12/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Uned Cyrff cyhoeddus

E-bost: publicappointments@gov.wales

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Panel Cynghori Amaethyddol a rolau'r Aelodau, cysylltwch â Ryan Davies, Amaethyddiaeth - yr Is-adran Datblygu Cynaliadwy

Ffôn: 07743 046673

E-bost: Ryan.Davies@llyw.cymru 

 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch wrth ichi wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â mailto:publicappointments@gov.walesPublicAppointments@llyw.cymru  

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.