Swydd Wag -- Penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol (2 swydd) - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi esblygu dros y ddau ddegawd diwethaf, i fod yn un o'r Gwasanaethau Ambiwlans mwyaf datblygedig yn glinigol yn y byd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cychwyn ar esblygiad cyffrous o'i strategaeth. Gan weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid, byddwn yn newid yn sylfaenol y ffyrdd y mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gofal brys ac argyfwng, gan alluogi poblogaeth Cymru i gael gofal yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, ble bynnag a phryd bynnag y bo hynny. Bydd y newid hwn yn gweld gostyngiad mewn trawsgludiadau i'r ysbyty, a chynnydd mewn gofal a ddarperir yn y cartref neu'n agosach ato gan amrywiaeth o ymarferwyr arbenigol mewn amrywiaeth o foddau.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwasanaethu dros dair miliwn o bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ystod amrywiol o gymunedau ar draws ardal o ryw 8,000 milltir sgwâr.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymateb i 2000 o alwadau brys bob dydd, ac yn ychwanegol at ddefnyddio'r ambiwlans argyfwng traddodiadol neu gerbyd ymateb cyflym, mae'n gallu cynnig cyngor yn fwyfwy dros y ffôn neu driniaeth yn y lleoliad neu yn y cartref. Mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd dimau sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau mwy cymhleth neu ddigwyddiadau mawr.
Mae eu staff trin galwadau a staff y canolfannau cyswllt clinigol yn gweithio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r Ymddiriedolaeth ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau, gan sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor a'r cymorth iawn gan y bobl iawn.
Mae'r Ymddiriedolaeth ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gofal clinigol heb ei gynllunio ac yn gynyddol mae'n darparu cyngor, cefnogaeth a chyfeirio at y ddarpariaeth gywir trwy ei gwasanaethau “clywed a thrin” sy'n cynnwys Galw Iechyd Cymru a'i olynydd - sef y gwasanaeth 111. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn mynd â bron hanner miliwn o gleifion y flwyddyn i le gofal, neu o le gofal, trwy ei wasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys (NEPTS).
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n barhaus i wella'r hyn y mae'n ei wneud a sut. I helpu i wireddu'r uchelgais hwn, mae'r Ymddiriedolaeth yn bwriadu penodi tri Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth, o gefndiroedd mor amrywiol â phosibl. Mae'r Ymddiriedolaeth yn arbennig o awyddus i wella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar ei Bwrdd ac i ddenu aelodau o wahanol gefndiroedd ethnig er mwyn inni allu teilwra’r hyn rydym yn ei gynnig i’n poblogaeth. Mae'r cyfraniad y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol ei wneud at yr Ymddiriedolaeth trwy dynnu ar eu profiadau eu hunain yn arbennig o werthfawr.
Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:
Strategaeth: Datblygu’r strategaeth, y weledigaeth a diben yr Ymddiriedolaeth. Nodi blaenoriaethau, sefydlu nodau ac amcanion, dod o hyd i adnoddau, a dyrannu arian i gefnogi'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud ynghylch cynllunio strategol.
Ymgorffori Ymddygiad Moesegol: Mae'r Bwrdd yn llunio diwylliant yr Ymddiriedolaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys y ffordd y mae'n ymgysylltu â staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid, y ffordd y mae'n rheoli ei hagenda, yn ôl natur y ddadl yn y Bwrdd a'r pwyslais cymharol a roddir i feini prawf perfformiad gwahanol, gan amlygrwydd ei aelodau yn y sefydliad, a ble mae'n dewis buddsoddi amser ac adnoddau. Rhaid i aelodau'r Bwrdd fodloni'r safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a gonestrwydd.
Rheoli risg: Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am reoli risg a sicrhau bod system gadarn o reolaethau mewnol ar waith a'u bod yn cael eu gweld ar y camau lliniaru sydd ar waith ar gyfer y prif risgiau i gyflawni'r strategaeth.
Cael Sicrwydd ar Gyflawni Strategaeth a Pherfformiad: Dwyn i gyfrif, a chael ei ddwyn i gyfrif, am gyflawni'r strategaeth yn unol â'r fframweithiau strategol a pherfformiad a ddatblygwyd gan y Bwrdd
Disgrifiad o'r swydd
Fel Cyfarwyddwr Anweithredol, byddwch yn:
- Cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn, herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol y mae’n atebol amdanynt.
- Rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n berthnasol i'ch sgiliau, eich arbenigedd a’ch profiad eich hun.
- Dod â phrofiad, gwybodaeth a dylanwad y gorffennol i waith y Bwrdd i hyrwyddo arloesedd, herio'r normau a sicrhau llywodraethu da.
- Canolbwyntio ar ganlyniadau a sicrhau bod y Cyfarwyddwyr Gweithredol yn cyflawni eu hamcanion allweddol.
- Cefnogi'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol i lywodraethu a stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth.
- Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn rheoli risg yn effeithiol.
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn. Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd rheolaidd Bwrdd y Cyfarwyddwyr a chyfarfodydd eraill Is-bwyllgorau’r Bwrdd fel y bo'n briodol, yn ogystal â sesiynau datblygu rheolaidd y Bwrdd.
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
- Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau ein poblogaeth yn caniatáu inni lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Hanfodol
- Y gallu i gyfrannau at y weledigaeth strategol ar gyfer dyfodol yr Ymddiriedolaeth.
- Y gallu i ddarparu her a chraffu annibynnol tra'n cynnal perthnasoedd adeiladol.
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth.
- Dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac ymrwymiad iddynt.
- Ymrwymiad i gadw at y safonau moesegol a nodir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).
Dymunol
- Deall problemau a blaenoriaethau iechyd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r system iechyd ehangach yng Nghymru.
- Dod i gysylltiad â newid sefydliadol trawsnewidiol ac atebion digidol yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
- Profiad o ymgysylltu â'r sector cyhoeddus neu'r trydydd sector.
- Dealltwriaeth o reoli risg, a systemau rheolaeth a sicrwydd mewnol.
- Profiad o weithredu ar lefel uwch neu fwrdd o fewn sefydliad sector cyhoeddus neu breifat mawr a chymhleth sydd â chefndir mewn cydweithio.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth am rôl Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
a rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol, cysylltwch â
Ffôn: 07508-279533
E-bost: Trish.Mills@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.