Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Penodi Is-Gadeirydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Ynglŷn â’r Bwrdd Iechyd:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu ac yn comisiynu ystod lawn o wasanaethau iechyd poblogaeth, mewn ysbytai ac yn y gymuned, ar gyfer trigolion y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol; Practisau Meddygon Teulu, Practisau Deintyddol, Practisau Optometreg a Fferylliaeth Gymunedol a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd a thimau iechyd cymunedol. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy arbenigol lle na ddarperir y rhain o fewn ffin y Bwrdd Iechyd.
Poblogaeth o tua 450,000 (Stats Cymru) sydd gan y Bwrdd Iechyd ac mae’n cynnwys Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Gyda thua 12,000 o staff, mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal (10,500 o staff cyfwerth ag amser llawn). Mae nifer sylweddol o'n gweithlu yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn. Ceir gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau a ddarparwn a'n cyfleusterau ar ein gwefan yn yr adran 'Gwasanaethau'. Mae'r Bwrdd Iechyd yn adrodd yn rheolaidd ar ei berfformiad gan gynnwys targedau’r Fframwaith Cyflawni a bennwyd gan Lywodraeth Cymru sydd i'w gweld yno hefyd.
Yn ystod 2020, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Fodel Gweithredu newydd sy'n nodi sut y trefnir y Bwrdd Iechyd i helpu i ddarparu’r cymorth gorau i gadw pobl yn iach a gofalu am ein poblogaeth. Mae'r 'Model Gweithredu' newydd yn cefnogi ffocws ar brofiadau cymunedau a chleifion o wasanaethau'r bwrdd iechyd. Mae'n ei gwneud yn haws i bobl yn y bwrdd iechyd weithio gyda’r cleifion eu hunain, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol ac mae'n ei helpu i ganolbwyntio ar gadw pobl yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol, yn hytrach na dim ond trin pobl pan fyddant yn sâl.
Y Gwasanaethau rydym yn eu cynnal:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am gynnal y sefydliadau canlynol ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru:
- Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
- Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC).
- Academi Delweddu Genedlaethol
Y Partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewn amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys cyrff iechyd eraill, awdurdodau lleol, y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub a'r sector gwirfoddol/elusennol.
Rôl y Bwrdd
Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosibl. Mae'r Bwrdd, sy'n cynnwys y Cadeirydd, Is-gadeirydd, 9 Aelod Annibynnol, 3 Aelod Cyswllt, y Prif Weithredwr ac 8 Cyfarwyddwr Gweithredol yn rhoi arweiniad a chyfeiriad, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethiant cadarn ar waith.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a chyfrifoldebau
- Yn ogystal â bod yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd sy’n rhannu cyfrifoldeb dros holl gyfrifoldebau’r Bwrdd, mae’r Is-gadeirydd hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb arweiniol penodol dros wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol yng Nghwm Taf Morgannwg. Yn hynny o beth, bydd disgwyl i’r Is-gadeirydd ddeall yr heriau a’r cyfleoedd yn y gwasanaethau penodol hynny, a sicrhau bod y Bwrdd yn hollol ymwybodol o’r materion hyn, yn ei holl drafodion, fel y gall gyflawni ei gyfrifoldebau yn llawn ym mhob maes.
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol;
- Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg;
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd;
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;
- Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
- Gallu cyfrannu at brosesau ansawdd, llywodraethiant ac ariannu’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith, drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y person
Mae'n hanfodol bod Aelodau Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
- Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
- Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR);
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb a chynhwysiant ac ymrwymiad i hyrwyddo materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn enwedig o ran y modd y maent yn ymwneud â'r sector iechyd
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â'r Athro Marcus Longley, Cadeirydd.
Rhif ffôn: 01443 744922
E-bost: marcus.longley@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.