Swydd Wag -- Aelod - Career Choices Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Ar hyn o bryd, mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gael i fyfyrwyr ysgol a myfyrwyr addysg bellach yn ogystal ag i bobl ifanc nad ydynt yn dilyn cwrs addysg ac i oedolion.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu drwy Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) sy'n gweithredu o dan yr enw Gyrfa Cymru. Mae CCDG yn is-gorff i Lywodraeth Cymru ac mae'n perthyn yn gyfan gwbl iddi.
Bydd 4 aelod newydd yn cael eu penodi i'r Bwrdd i ddechrau ar 17 Tachwedd 2017. Gwneir y penodiadau hyn drwy broses benodi gyhoeddus deg ac agored.
Mae gan Gyrfa Cymru gyllideb o £18.8m o Gyllid Refeniw Craidd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017-2018. Bydd y cwmni'n cyflawni ei ddarpariaeth yng nghyd-destun setliad ariannol heriol yn y dyfodol.
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am yrfaoedd sy'n ddiduedd ac am ddim.
Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau ac yn integreiddio platfformau ar-lein, ffôn ac wyneb yn wyneb i ysgogi effeithlonrwydd gan fewngorffori newidiadau i'r gwaith o gyflawni gwasanaethau drwy ddefnyddio technolegau newydd.
Mae Gyrfa Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol ar lefelau lleol a chenedlaethol gyda'r sectorau preifat a chyhoeddus i helpu i gyflawni strategaethau economaidd, addysg, sgiliau a chymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Gyrfa Cymru yn rhan o'r canlynol:
• Cymwys am Oes
• Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
• Strategaeth Tlodi Plant Cymru
• Llwybrau Dysgu 14-19
• STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)
• Cymorth i ysgolion sy'n gyfrifol am gyflawni’r Cwricwlwm Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith statudol
• Mentrau Sgiliau a Hyfforddiant, ee y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau
Mae gan Gyrfa Cymru bedwar maes gweithredol, a chaiff pob un ei arwain gan Gyfarwyddwr sy'n atebol i Brif Weithredwr CCDG sy'n gyfrifol am reoli'r sefydliad.
Y pedwar maes gweithredu yw: datblygu gwasanaethau; darparu gwasanaethau; gwella perfformiad a rheoli busnesau / adnoddau.
O dan bob un o'r Cyfarwyddwyr hyn mae swyddogaethau polisi a gweithredol allweddol ee adnoddau dynol, ymchwil a gwerthuso, rheoli risg, hyrwyddo a gweithio mewn partneriaeth.
Rôl Gyrfa Cymru
Prif nod Gyrfa Cymru fydd sicrhau bod unigolion yn llwyddo i gynllunio eu gyrfaoedd yn effeithiol, yn ymdopi'n dda â'r cyfnod pontio i addysg bellach, yn llwyddo i gael gwaith neu hyfforddiant ac yn datblygu'n barhaus. Bydd y canlyniadau hyn yn cael effaith amlwg, ee llai o bobl ifanc yn ymddieithrio rhag cyflogaeth, addysg a hyfforddiant.
Yr her i'r gwasanaeth gyrfaoedd yw:
• Gweithio gydag ysgolion, colegau ac amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau eraill i helpu pobl ifanc i fynd drwy'r system addysg i mewn i ddysgu pellach neu gyflogaeth (11-14, 14-16).
• Cefnogi pobl ifanc 16-18 oed i gymryd y cam nesaf, gan gynnwys y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n ddi-waith;
• Cefnogi oedolion sy'n wynebu diswyddiadau neu sydd wedi'u diswyddo.
• Cynorthwyo oedolion diwaith 25 oed a hŷn drwy'r Porth Sgiliau.
• Darparu cymorth mwy penodol a dwys i grwpiau cleientiaid â blaenoriaeth fel y nodwyd yn y llythyr cylch gwaith blynyddol:- http://gov.wales/topics/educationandskills/pathways/careers/?skip=1&lang=cy
Mae disgwyl i Gyrfa Cymru lunio cynllun busnes cynhwysfawr o ansawdd mewn ymateb i lythyr cylch gwaith blynyddol gan Weinidogion. Rhaid i'r cynllun busnes blynyddol gynnwys digon o fanylion i roi sicrwydd bod blaenoriaethau yn cael eu datblygu.
Rôl y Bwrdd
Rôl y bwrdd yw:
• arwain yn effeithiol; pennu a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol;
• hyrwyddo safonau uchel ar gyfer cyllid cyhoeddus, cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
• sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol;
• monitro perfformiad y CCDG er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ei nodau a'i dargedau perfformiad ac yn cyflawni ei amcanion.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelod o Fwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru) yn:
• Chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gyflawni cylch gwaith CCDG a sicrhau bod CCDG mor effeithiol â phosibl. Bydd hyn yn cynnwys rhannu ei arbenigedd o ran yr hyn sy'n gweithio, herio'r sefyllfa bresennol ac awgrymu atebion i broblemau;
• Sicrhau y cydymffurfir â'r rheolau caffael perthnasol, mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer CCDG (fel is-gorff i Lywodraeth Cymru sy'n perthyn yn gyfan gwbl iddi a chwmni Teckal) a gwariant CCDG fel awdurdod contractio sy'n ddarostyngedig i'r rheolau caffael.
• Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
• Bod yn barod i wasanaethu ar is-bwyllgorau;
• Arwain rheolwyr a staff CCDG i gyflawni Gweledigaeth Strategol Gyrfa Cymru, sef Newid Bywydau – Gweledigaeth ar gyfer Gyrfa Cymru;
• Herio a chynorthwyo rheolwr a staff CCDG wrth eu gwaith a chynnal cydbwysedd rhwng y swyddogaethau hyn;
• Cynrychioli'r CCDG mewn digwyddiadau cyhoeddus;
• Hyrwyddo proffil CCDG; a
• Hwyluso cysylltiadau â rhanddeiliaid CCDG.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae CCDG am benodi pedwar aelod newydd i'r bwrdd sy'n meddu ar amrywiaeth o arbenigedd ar draws ystod eang o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol. Byddem yn falch o gael ceisiadau gan unigolion sydd ag arbenigedd masnachol. Yn benodol, hoffem gael ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir yn unrhyw rai o’r sectorau canlynol:
• deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch;
• proffesiynol ac ariannol;
• bwyd a diod;
• TGCh a thechnolegau newydd;
• twristiaeth;
• gwyddorau bywyd.
Byddem hefyd yn falch o gael ceisiadau gan unigolion sy'n meddu ar sgiliau yn un o’r meysydd canlynol:
• Llywodraethu corfforaethol;
• Caffael a thendro;
• Rheoli corfforaethol neu fusnes;
• Cynrychioli cyflogwyr;
• Entrepreneuriaeth.
Meini Prawf Hanfodol
Yn ogystal â hyn, bydd aelodau'r bwrdd yn arddangos y rhinweddau canlynol:
• Hanes llwyddiannus o feithrin perthynas gydag ystod o randdeiliaid, yn enwedig gyda chyflogwyr;
• Gwybodaeth am ddysgu a materion gwaith ar lefelau cymunedol, lleol a rhanbarthol neu genedlaethol, a dealltwriaeth ohonynt.
• Sgiliau cyfathrebu gwych, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno wrth egluro materion cymhleth, gan barchu safbwyntiau pobl eraill.
• Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd CCDG a rôl Aelodau'r Bwrdd, cysylltwch â Vicky Green, Rheolwr Cymorth Ieuenctid, yn y Gangen Cymorth a Chanllawiau i Ieuenctid:
Ffôn: 0300 025 0234
E-bost: vicky.green@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.