Swydd Wag -- Penodi Aelod - Bwrdd Cynghori Gweinidogol (BCG)

Manylion y swydd

Bwrdd Cynghori Gweinidogol
Yn rhithwir drwy Teams
Nid fydd tâl am y swyddi hyn, ond caiff Aelodau hawlio costau teithio a chostau eraill o fewn terfynau rhesymol.
6
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Bwrdd Cynghori Gweinidogol yn cael ei sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol allanol ar faterion penodol o fewn portffolio Gweinidog yr Economi, yn ogystal â chynnig bwrdd seinio ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol.  Gwaith aelodau'r Bwrdd fydd llunio cyngor a'i gyflwyno i Weinidog yr Economi.   Cytunir ar waith y Bwrdd mewn rhaglen flynyddol, ond bydd gan aelodau’r hyblygrwydd i reoli'r ffordd maent yn cyflawni’r rhaglen honno.  Mae’n bosibl hefyd y gofynnir i aelodau'r Bwrdd ddarparu darnau unigol o gyngor arbenigol pan fydd yr amgylchiadau’n gofyn am hynny.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd aelodau'r Bwrdd yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Darparu cyngor rheolaidd, creadigol ac o ansawdd uchel i Weinidog yr Economi i helpu i wella llesiant economaidd yng Nghymru.
  • Sganio’r gorwel i dynnu sylw at feysydd lle bydd heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, gan ddefnyddio arbenigedd unigol a chyfunol i godi ymwybyddiaeth o faterion a fydd yn helpu i lunio rhaglen waith y Bwrdd.
  • Ymateb i geisiadau gan y Gweinidog ac uwch swyddogion am gyngor ar bolisïau a phrofi cynigion fel y bo'n briodol.
  • Bod yn rhagweithiol wrth nodi’r arferion gorau a dysgu oddi wrth wledydd a rhanbarthau eraill y DU ac yn rhyngwladol; a dangos sut y gellid defnyddio enghreifftiau o'r fath i lywio’r meddwl yng Nghymru.
  • Nodi materion penodol a fyddai ar eu hennill o gael adolygiadau byr a sydyn gan grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol, neu arbenigwyr ychwanegol efallai y bydd angen i’r Bwrdd eu cyfethol o bryd i'w gilydd, yn dibynnu ar ei raglen waith.

Rôl a chyfrifoldebau’r Cadeirydd/Dirprwy Gadeirydd

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd y bwrdd, bydd disgwyl iddynt weithredu fel y cynrychiolydd blaenllaw a chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd. Mewn perthynas â’r olaf bydd hyn yn cynnwys: penderfynu ar drefn yr agenda; sicrhau bod y Bwrdd yn derbyn gwybodaeth gywir, amserol a chlir; cadw golwg ar gyfraniad aelodau unigol a sicrhau eu bod i gyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau a’r broses o wneud penderfyniadau. Ym mhob cyfarfod, dylai'r Cadeirydd arwain y trafodaethau er mwyn cyrraedd consensws, a chrynhoi trafodaethau fel bod pawb yn deall yr hyn y cytunwyd arno. Dim ond os nad yw'r Cadeirydd ar gael y bydd y dirprwy yn cymryd ei le. Gofynnir hefyd i'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fynychu'r Grŵp Partneriaeth Gymdeithasol i roi adborth ar y penderfyniadau a'r cyngor a roddir gan aelodau’r Bwrdd Cynghori Gweinidogol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Aelodau'r bwrdd :

  • Fod yn gynhwysol, gwrando ar farn aelodau eraill a chadw at unrhyw addasiadau hygyrchedd sydd wedi cael eu rhoi ar waith.
  • Parchu aelodau eraill a sicrhau bod eich cyfraniadau at drafodaethau’n parchu eraill.
  • Herio eraill a’u hannog i gyfrannu at drafodaethau.
  • Cyfrannu eich sgiliau a'ch profiad eich hun fel unigolyn (ynghyd â’ch profiad bywyd personol).
  • Ymgynghori ag eraill i lywio eich cyfraniadau at drafodaethau, gan barchu sensitifrwydd a natur gyfrinachol y materion sy'n cael eu hystyried.

Cadeirydd/Dirprwy Gadeirydd :

  • Bod yn arweinydd cynhwysol, gan osod naws cyfarfodydd a sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u gradd, yn cael eu trin fel aelodau cyfartal.
  • Sicrhau bod aelodau’n trin ei gilydd â pharch.
  • Sicrhau bod pob aelod yn cael cyfle i gymryd rhan ac i fynegi ei farn, a chael y cyfle i ystyried barn pobl eraill.
  • Deall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn hoffi cyfrannu mewn cyfarfodydd, a sicrhau bod addasiadau rhesymol y cytunwyd arnynt ar waith ac yn cael eu cynnal fel y gallant gyfrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
  • Sicrhau bod trafodaethau’r Bwrdd ar bapurau yn dod i gasgliad, hyd yn oed os yw hyn yn golygu nodi amrywiaeth o safbwyntiau os nad oes modd cyrraedd consensws.

Dyddiadau cyfweliadau

15 Rhagfyr 2021
31 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

29/11/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus / Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: publicappointments@llyw.cymru

Am ragor o wybodaeth am rôl y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar gyfer Polisi Economaidd cysylltwch ag economicpolisi@llyw.cymru           

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â  publicappointments@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru ewch i  https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.