Swydd Wag -- Swydd Wag -- Amgueddfa Cymru - Is Gadeirydd

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru
Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Is-gadeirydd yn cael eu cynnal yn ardal Caerdydd fel arfer, ond bydd gofyn iddo ymweld ag Amgueddfeydd Cenedlaethol eraill a lleoliadau eraill. Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 4 gwaith y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y De
Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd ddi-dâl ond caiff pob ymddiriedolwr hawlio costau teithio a chynhaliaeth. 
12
blwyddyn

Rôl y corff

Rolau a Chyfrifoldebau Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.9 miliwn o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn.

Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arweinydd ym myd addysg a chyfranogiad diwylliannol.

Mae safleoedd Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerleon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol 

Noddir Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer pennu cyfeiriad strategol y sefydliad, a sicrhau bod ei hadnoddau’n cael eu rheoli’n iawn. Fel Amgueddfa, rydym yn atebol hefyd i’r wlad a wasanaethwn am ddefnyddio’n casgliadau a’n hadnoddau.

 

Gweledigaeth Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn eiddo i ni i gyd. Ein nod yw defnyddio'n hamgueddfeydd a'n casgliadau i ysbrydoli pobl i ymdeimlo â’u lles a’u hunaniaeth, i ddarganfod, i fwynhau ac i ddysgu'n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol ei gymunedau a’i wlad.  Rydym wedi datblygu strategaeth deng mlynedd ar gyfer yr Amgueddfa - Amgueddfa Cymru 2030 - sy’n cynnwys chwe ymrwymiad clir. Byddwn yn gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, trwy gasgliadau, rhaglenni cyhoeddus a phartneriaethau i:

  • wneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli pawb
  • ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes
  • helpu i ddiogelu ac adfer natur a'n hamgylchedd
  • cefnogi llesiant drwy ofodau a phrofiadau sy’n ysbrydoli
  • darganfod ac archwilio'r amgueddfa'n ddigidol
  • meithrin cysylltiadau byd-eang.

Bydd gan ein His-gadeirydd newydd rôl hanfodol i'w chwarae wrth wireddu'r ymrwymiadau hyn ac wrth helpu i gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru y mae'r Amgueddfa'n brif bartner neu’n bartner allweddol iddi, yn enwedig o ran yn datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd, Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol, Strategaeth Ddiwylliant newydd ac ymrwymiadau i greu Cymru Wrth-hiliol.

 

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau'r Bwrdd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru.

Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol.  Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol  â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru. 

 Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau yn unol â chyfraith elusen a nodir yn y Siarter Brenhinol i Lywodraeth Cymru, ac i Senedd Cymru a’r Comisiwn Elusennau.

Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (rhyw £25.4 miliwn o gyllid refeniw a £4.75m o arian cyfalaf yn 2022/23) oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant. Mae’r sefydliad yn cyflogi dros 600 o staff ar draws ei safleoedd.

Mae Adolygiad Teilwredig wrthi’n cael ei gynnal a disgwylir ei argymhellion yng Ngwanwyn 2023.  Y Bwrdd fydd yn gyfrifol am gadw golwg bod yr argymhellion y cytunir arnynt yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.

 

Ymddiriedolwyr y Bwrdd

Mae’r Ymddiriedolwyr yn goruchwylio ac yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, ac yn ei ddwyn i gyfrif, wrth iddo wireddu’r weledigaeth strategol a chyflawni’r amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn Llythyr cylch gwaith Amgueddfa Cymru

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

  • fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • gwasanaethu ar is-bwyllgorau;
  • cefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
  • cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
  • rhoi o’u profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • hwyluso'r cysylltiadau gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
  • cyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn elusen gofrestredig.  Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau a'r Amodau sy'n gysylltiedig â'r arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa. 

I fod yn effeithiol, mae angen Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd sydd ag amrywiaeth eang o arbenigeddau a phrofiadau.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl Is-gadeirydd

Mae Amgueddfa Cymru wedi’i chorffori drwy Siarter Frenhinol ac mae'n elusen gofrestredig a reoleiddir gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Mae gan yr Is-gadeirydd felly gyfrifoldebau o dan y Siarter ac, fel pob Ymddiriedolwr, rhaid cydymffurfio â chyfraith elusennau a chanllawiau'r Comisiwn Elusennau.

Mae'r Is-gadeirydd yn atebol i Weinidog/Gweinidogion Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru sy’n darparu tua 80% o gyllid yr Amgueddfa) a gall Senedd Cymru ei ddwyn hefyd i gyfrif.

Yn ogystal â’i gyfrifoldebau fel Ymddiriedolwr, bydd yr Is-gadeirydd yn;

  • helpu’r Cadeirydd i dywys cyfeiriad cyffredinol y Bwrdd, gan ymgymryd â rôl Cadeirydd pan fydd y Cadeirydd yn absennol, ac eirioli ar ran Amgueddfa Cymru;

  • cadeirio Pwyllgorau eraill Amgueddfa Cymru yn absenoldeb y Cadeirydd a benodir;

  • gyda'r Cadeirydd, yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng y Bwrdd a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip a swyddogion y Llywodraeth;

  • cefnogi'r Cadeirydd fel sy'n ofynnol wrth drafod â swyddogion eraill ac aelodau’r Bwrdd, a chydag uwch-dîm gweithredol yr Amgueddfa;

  • herio a chefnogi'r weithrediaeth, a chraffu arni, wrth gyflawni nodau, amcanion a thargedau Amgueddfa Cymru;

  • cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol ;

  • dirprwyo ar ran y Cadeirydd fel sy'n ofynnol wrth gynrychioli Amgueddfa Cymru yn ei hymwneud â'r Senedd a Llywodraeth Cymru;

  • mynd ati i hyrwyddo manteision y sector treftadaeth ddiwylliannol amrywiol yng Nghymru a thu hwnt;

  • cael gweledigaeth glir ynghylch sut y gall Amgueddfa Cymru barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisïau treftadaeth ddiwylliannol Llywodraeth Cymru;

  • meddu ar ddealltwriaeth o sut mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio;

  • cymryd rhan weithredol wrth annog aelodau’r bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o Ymddiriedolwyr;

  • Sicrhau bod Amgueddfa Cymru'n rhoi gwerth ei harian gan gadw at fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;

  • arfer safonau uchel o safbwynt priodoldeb ac wrth ymdrin ag arian cyhoeddus;

  • bod yn wleidyddol annibynnol.

 

Meini prawf hanfodol

Yn eich cais, rhaid ichi ddangos eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol. Profir hynny ymhellach yn y cyfweliad:

  • profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad cymhleth, aml-ddisgyblaeth;

  • dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a llesiant, economaidd-gymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

  • profiad o ddatblygu partneriaethau strategol;

  • prawf eich bod wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb a dealltwriaeth o weithio gyda chymunedau neu gynulleidfaoedd amrywiol o safbwynt ethnigrwydd, economaidd-gymdeithasol neu eraill, a phrofiad o hynny,

  • yn gallu profi bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd, a chyfrifoldeb ariannol, gan gynnwys o ddewis cyllid sector cyhoeddus; a

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Dyddiadau cyfweliadau

23 Mai 2023
24 Mai 2023

Dyddiad cau

11/04/23 17:00

Gwybodaeth ychwanegol

Y Gymraeg

Mae'r rôl hon yn cael ei hysbysebu yr un pryd â swydd Cadeirydd. Bydd angen i un o'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer un o’r swyddi hyn fod yn siaradwr Cymraeg neu ymrwymo i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg ar ôl ei benodi. Byddwn yn eich cefnogi'n llawn gyda phecyn hyfforddi pwrpasol. Fel gyda gofynion eraill, gellir trafod addasiadau rhesymol.

Mae'r Amgueddfa yn sefydliad dwyieithog ac yn cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn ffordd broactif. Mae'n ofynnol i'r Amgueddfa gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, fel a bennwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.

Polisi prif noddwr yr Amgueddfa, Llywodraeth Cymru, yw cefnogi'r iaith Gymraeg, ac mae ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg) yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Sut i wneud cais

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.