Swydd Wag -- PENODI AELOD CYMREIG I’R AWDURDOD MEINWEOEDD DYNOL

Manylion y swydd

Awdurdod Meinweoedd Dynol
Llundain
Mae gan yr Aelod Cymreig hawl i gael tâl trethadwy o £7,883 y flwyddyn.
3
mis

Rôl y corff

Mae'r HTA yn un o ddau awdurdod cymwys sydd â chyfrifoldeb ledled y DU dros reoleiddio meinweoedd a chelloedd ar gyfer triniaeth cleifion yn unol â Chyfarwyddebau Ewropeaidd. Ef hefyd yw awdurdod cymwys y DU at ddibenion y Gyfarwyddeb Rhoi Organau sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer ansawdd a diogelwch rhoi a thrawsblannu organau ledled yr UE 

Mae'r HTA yn trwyddedu mwy nag 800 o sefydliadau sy'n storio ac yn defnyddio meinweoedd dynol mewn cysylltiad â'r gweithgareddau a gwmpesir gan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004, Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a Chyfarwyddebau Ewropeaidd 

Mae gan yr HTA rôl gyffredinol o oruchwylio cydymffurfiaeth â Deddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i bobl sy'n cyflawni gweithgareddau a gwmpesir gan y Deddfau hyn, aelodau o'r cyhoedd a Gweinidogion. Er enghraifft, mae'r HTA yn rhoi cyngor i aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi eu cyrff i ysgolion meddygol i'w harchwilio'n anatomegol ar ôl eu marwolaeth (yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei alw'n "gadael eich corff ar gyfer gwyddoniaeth feddygol”). Mae'r HTA hefyd yn cyhoeddi codau ymarfer sy'n rhoi arweiniad ymarferol i weithwyr proffesiynol sy'n cyflawni gweithgareddau sydd o fewn ei gylch gwaith, gan gynnwys rhoi organau.

Mae rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhodd o organau gan bobl fyw, a rhoddion o fêr esgyrn a bôn-gelloedd gwaed amgantol (PBSCs) gan blant ac oedolion nad oes ganddynt alluedd, gael eu cymeradwyo gan yr HTA. Mae hyn er mwyn sicrhau na roddwyd unrhyw wobr amdanynt, nad oes unrhyw bwysau na gorfodaeth yn gysylltiedig â’r rhoi, a bod cydsyniad dilys ar waith. Mae aelodau'r Awdurdod yn chwarae rhan allweddol yn y broses gymeradwyo. Mae'r HTA hefyd yn asesu achosion o roi organau byw yn yr Alban o dan gytundeb â Llywodraeth yr Alban.

Disgrifiad o'r swydd

Mae'r Aelod Cymreig yr HTA yn un o nifer o aelodau annibynnol sy'n gyfrifol am ddwyn yr HTA i gyfrif am ei weithgareddau a sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion strategol. Bydd yr Aelod hefyd yn sicrhau atebolrwydd yr HTA i Weinidogion Cymru a bod polisïau Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried yng ngwaith yr HTA.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Gwybodaeth a Phrofiad – rhowch sylw i'r rhain yn eich datganiad personol

 

  • Profiad o fod yn ymrwymedig i amcanion Bwrdd neu Bwyllgor a'r diddordeb a'r ymroddiad i wneud cyfraniad gwirioneddol i Fwrdd neu Bwyllgor;
  • Profiad o graffu a herio Bwrdd neu Bwyllgor yn effeithiol, ac o’i ddwyn i gyfrif am ei berfformiad neu am gyflawni ei strategaeth;
  • Profiad o feddwl yn strategol ac arfer barn gadarn ar faterion cymhleth a sensitif;
  • Profiad o ddangos y safonau uchaf o briodoldeb personol mewn perthynas â llywodraethu, atebolrwydd, risg a rheolaeth ariannol.

Profiad neu sgiliau mewn un neu fwy o'r canlynol:

  • Profiad proffesiynol yn unrhyw un o'r sectorau a reoleiddir gan yr HTA;
  • Profiad o roi a thrawsblannu organau naill ai o safbwynt claf neu ymarferydd;
  • moeseg feddygol, clinigol neu ymchwil;
  • Data a dadansoddeg fel sbardunau ar gyfer trawsnewid digidol.

 

 

Priodoleddau a Sgiliau Personol – rhowch sylw i'r rhain yn eich datganiad personol

 

  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol, gyda sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i fod yn glir ac yn gryno a hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth tra'n dangos parch at farn pobl eraill;
  • Y gallu i gymryd i mewn lawer o wybodaeth ac i werthuso tystiolaeth gymhleth o fewn cyfnod byr o amser;
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:

 

  • Dealltwriaeth eglur o faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol ac ymrwymiad iddynt;
  • Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.

 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a dangos arweiniad i gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.

 

Dyddiadau cyfweliadau

28 Chwefror 2021
12 Mawrth 2021

Dyddiad cau

01/02/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus 
penodiadaucyhoedduss@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl yr Aelod Cymraeg i'r HTA, cysylltwch â:

Yr Athro Chris Jones – Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Rhif ffôn: 03000 257143

E-bost: Chris.Jones@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.