Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg : Penodi Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol)

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob deufis mewn amrywiol leoliadau ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
£13,344 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Ar 1 Ebrill 2019, newidiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei enw. Bellach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw ei enw wedi iddo gymryd cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn awr yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, a gwasanaethau ysbyty ac iechyd meddwl i'r 450,000 o bobl sy'n byw ym Mwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Amcangyfrifir mai poblogaeth preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yw tua 450,000 (StatsCymru 2016).

Amcangyfrifir y bydd y cynnydd mwyaf yn ein grwpiau 65 i 84 ac 85+ erbyn 2036, pan amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru yn 65 oed a hŷn.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn arwain at oblygiadau sylweddol ar y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau iechyd (ac yn gynyddol felly gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig). Gyda phoblogaeth sy'n tyfu, ac yn enwedig gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n bwysicach fyth ein bod yn helpu'r bobl yn ein cymunedau i fyw bywydau hir ac iach, yn rhydd rhag effeithiau cyfyngol amrywiol gyflyrau cronig.

A ninnau mewn lleoliad delfrydol rhwng Caerdydd - prifddinas Cymru - i'r de, tref arfordirol Porthcawl i'r gorllewin, a golygfeydd syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r gogledd, rydym yn gweithredu o fewn cymuned fywiog, gyda hanes a threftadaeth gyfoethog.

Gyda bron i 13,500 o staff, ein gweithlu yw enaid nid yn unig y Bwrdd Iechyd Prifysgol, ond hefyd y llu o gymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn cymryd ein rôl fel un o gyflogwr mwyaf yr ardal o ddifrif ac mae hyn yn amlwg yn ein gwaith partneriaeth eang, ein hymroddiad i'n cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol a'r pwys yr ydym yn ei roi ar feithrin perthynas â'n staff a'r gymuned.

Rydym yn credu mewn arloesi i wneud gwelliannau i ofal clinigol. Rydym yn arbennig o falch o'n Canolfan Academaidd ym Merthyr Tudful sy'n helpu i hyfforddi meddygon y dyfodol mewn meddygaeth gymunedol.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:-

Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithgar mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd o ran materion allweddol; 

Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;

Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;

Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;

Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn; 

Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Mae'n rhaid ichi fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd angen ichi ddangos:- 

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion awdurdod lleol o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 
  • Y gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion awdurdod lleol mewn cyd-destun bwrdd strategol.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Hydref 2019
11 Hydref 2019

Dyddiad cau

13/09/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus  PublicAppointments@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch â'r Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ffôn: 01443 744803, E-bost: marcus.longley@wales.nhs.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, efallai yr hoffech fynd i wefan y Bwrdd Iechyd: https://cwmtaf.wales/

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar publicappointments@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.

Ar ôl cofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael ichi ei llenwi. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Dogfen sy'n ateb y cwestiynau isod yw'r gyntaf, sef 'datganiad personol'. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn hirach na dwy dudalen A4. Mae’n bosib y caiff eich cais ei wrthod os ydych yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. 

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.