Swydd Wag -- Penodi Aelodau Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid - Cymraeg yn Hanfodol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Caiff y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid (‘y Bwrdd Gweithredu’) ei sefydlu i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ar 16 Medi 2021, sef ‘Sicrhau Model Cyflawni Cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’. Mae ei argymhellion yn bellgyrhaeddol ac wedi’u hystyried gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sydd wedi amlinellu’r argymhellion sy’n flaenoriaeth iddo ef, y mae angen eu gweithredu ar unwaith, ac mae wedi ymrwymo i ymgymryd â’r gwaith pellach y mae angen ei wneud er mwyn asesu sut i fwrw ymlaen â chynigion y Bwrdd yn ehangach.
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Gweithredu weithio gyda phobl ifanc a gyda’r sector gwaith ieuenctid a Llywodraeth Cymru i drafod yr argymhellion ymhellach, gan ddechrau gweithio tuag at roi’r argymhellion hynny ar waith drwy gynllun gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Mae datganiad ysgrifenedig Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar yr argymhellion ar gael yma.
Disgrifiad o'r swydd
- Cefnogi’r Cadeirydd yn y broses o gyflawni cylch gwaith y Bwrdd.
- Chwarae rôl weithredol ar y Bwrdd, gan gynnwys cyfrifoldeb dros arwain gwaith is-grŵp (yn ôl y gofyn) i gefnogi cynllun gwaith y Bwrdd a chyrraedd targedau cyflawni.
- Cyfrannu at sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i waith y Bwrdd.
- Cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion i’w gweithredu gyda’r nod o sicrhau gwaith ieuenctid cynaliadwy yng Nghymru, arferion gorau, a gwerth am arian, gan wneud yn siŵr bod y gwaith yn gydnaws â blaenoriaethau eraill y llywodraeth.
- Hyrwyddo gwaith ieuenctid ar draws sectorau eraill, gan dynnu sylw at fanteision egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid fel dull o weithio gyda phobl ifanc, er mwyn eu galluogi a’u grymuso i ffynnu.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini prawf hanfodol
Arbenigedd a dealltwriaeth eang o ran darparu gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol ar lefelau cymunedol, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys yr heriau sy'n wynebu'r sector gwaith ieuenctid
- Parch at egwyddorion atebolrwydd a llywodraethiant da, gan gynnwys ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan' a dealltwriaeth glir ohonynt
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, a record o greu cydberthnasau effeithiol dros ben ag ystod o randdeiliaid ar wahanol lefelau
- Profiad o roi cyngor ar ddatblygu polisi yn eich maes arbenigedd eich hun, ond yn gyffyrddus a hyderus hefyd yn trafod ystod eang o faterion
- Gallu a brofwyd i wneud dyfarniadau cadarn wrth wneud penderfyniadau strategol
- Profiad penodol o gyfrannu at ac ymgysylltu â phrosiectau sy’n ymwneud â hawliau
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ddarparu gwaith ieuenctid a sut mae’n berthnasol i Cymraeg 2050
- Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt ac i herio arferion gwahaniaethol.
Meini prawf dymunol
Yn ogystal, rydym yn chwilio am bobl sydd ag un neu fwy o’r sgiliau canlynol a/neu wybodaeth ar lefel uwch:
- Profiad o ddatblygu polisi ar sail tystiolaeth ac o ddefnyddio data yn effeithiol i ddatblygu strategaeth
- Dealltwriaeth o reoli newid yn effeithiol
- Gwybodaeth am waith ieuenctid digidol ac egwyddorion cynllunio gwasanaeth, a phrofiad o hyn
- Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar waith ieuenctid yng Nghymru
- Profiad o gyllid, darparu adnoddau a chomisiynu
- Gwybodaeth am faterion iechyd meddwl a lles, a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r canlynol:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a rôl aelodau’r Bwrdd, cysylltwch â dareth.edwards005@llyw.cymru
I gael rhagor o gymorth i ymgeisio am y swydd hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i Penodiadau cyhoeddus | LLYW.CYMRU
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i Penodiadau cyhoeddus | LLYW.CYMRU
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.