Swydd Wag -- Aelodau - Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Y Gymraeg yn ddymunol)

Manylion y swydd

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Sefydliad cenedlaethol yw AaGIC, gyda chylch gwaith sy’n cynnwys Cymru gyfan. Bydd yn ofynnol i'r chwe ymgeisydd llwyddiannus deithio i bob rhan o Gymru. Er hynny, bydd nifer sylweddol o gyfarfodydd eraill a digwyddiadau sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn cael eu cynnal yn y pencadlys. Efallai y bydd angen aros dros nos fel rhan o'r swydd.
£9,360 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Ym mis Ebrill 2018, bydd corff statudol newydd yn dod i fodolaeth yn GIG Cymru. Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gweithio ochr yn ochr â Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd a hwn fydd yr unfed aelod ar ddeg o deulu GIG Cymru.

Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig manwl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Gorffennaf 2017 a oedd yn rhoi manylion bras statws, swyddogaethau'r corff newydd:

• Comisiynu addysg broffesiynol yn y sector iechyd yn y meysydd hynny y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru, a'i goruchwylio.
• Bod yn gyfrifol am gymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i fyfyrwyr sy'n dilyn addysg broffesiynol yn y sector iechyd.
• Bod yn gyfrifol am gyllid ar gyfer sefydliadau sy'n cefnogi hyfforddiant ac addysg o'r fath, gan gynnwys byrddau iechyd a gwasanaethau cyflenwi nad ydynt yn perthyn i'r GIG.
• Cynllunio ar gyfer anghenion y gweithlu yn y sector iechyd.
• Cadw gwybodaeth am y gweithlu, a datblygu'r wybodaeth honno.
• Cynllunio swyddogaethau sefydliadol a phennu'r disgwyliadau ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithwyr proffesiynol ar draws GIG Cymru.
• Rhoi arweiniad i'r gweithlu iechyd a'i ddatblygu.
• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd ac ehangu mynediad i'r proffesiynau iechyd.
• Gwella'r gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

Diben ffurfio AaGIC yw cynnig gwerth ychwanegol sylweddol i ddarparu gofal i gleifion drwy roi addysg a chymorth gwella i gyrff iechyd. Er enghraifft, disgwylir i'r corff newydd gynnig dull cenedlaethol o ddatblygu arweiniad yn y GIG yng Nghymru, gan annog mwy o symudedd ymhlith staff ar draws GIG Cymru wrth i'r galwadau newid.

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru i arwain dull gwell a strategol i gynllunio a chomisiynu gweithlu'r dyfodol. Bydd AaGIC yn ystyried pob rhan o'r sector iechyd yn ei waith, gan sicrhau bod y cynllunio'n cael ei wneud mewn modd integredig ar draws cyflenwyr cyhoeddus a phreifat yn ogystal â phartneriaid allweddol fel gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cydnabod gwerth yr holl bobl broffesiynol yn y sector, gan weithio i ddarparu safonau uwch o ran hyfforddiant a sgiliau i bob myfyriwr neu hyfforddai.

Disgwylir hefyd i AaGIC ddatblygu, dros amser, arbenigedd sylweddol mewn gwybodaeth am y gweithlu a ffurf ein gweithlu, gan gynnig arweiniad i gyrff iechyd eraill, yn ogystal â chyngor ar gynllunio swyddogaethau a thimau i sicrhau'r perfformiad gorau posibl. Bydd AaGIC yn cydweithio'n agos â chyrff partner megis CCAUC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn y meysydd gwaith perthnasol i ddatblygu safbwynt integredig o anghenion y gweithlu nawr ac yn y dyfodol, ar draws y maes iechyd a’r maes gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth a datblygiad parhaus o ran cyfleoedd gyrfa ar y cyd i weithwyr yn y ddau sector.

Yn hanfodol, bydd y corff newydd hefyd yn cael y dasg o arwain ein gwaith i hyrwyddo'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru fel dewis cyntaf o ran gyrfa, ar draws pob swyddogaeth ac ar draws yr holl amrywiaeth yng Nghymru.

Llywodraethu

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu AaGIC fel Awdurdod Iechyd Arbennig gan ddefnyddio pwerau a bennir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Caiff deddfwriaeth ei chyflwyno dros y misoedd nesaf i ganiatáu inni sefydlu'r corff. Mae hyn yn golygu y bydd yn endid cwbl ar wahân gyda'i Fwrdd annibynnol ei hun. Bydd ei Brif Weithredwr yn eistedd ochr yn ochr â Phrif Weithredwyr eraill ar Fwrdd Gweithredol GIG Cymru. Bydd gwaith a chyllideb y sefydliad yn cael eu pennu drwy gyfarwyddydau a llythyr cylch gwaith blynyddol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd cyfansoddiad Bwrdd AaGIC yn ddeuddeg o ran ei nifer, gyda saith o Aelodau Annibynnol, gan gynnwys y Cadeirydd a phum aelod o'r Tîm Gweithredol, gan gynnwys y Prif Weithredwr. Er mwyn cyfyngu ar y posibilrwydd o orfod recriwtio'r holl Aelodau Annibynnol yr un pryd yn y dyfodol, mae'n fwriad cynnig swydd am naill ai ddwy flynedd neu bedair blynedd. Bydd hyn yn caniatáu cyfnod graddedig yn y swydd ac yn rheoli'r posibilrwydd o golli gwybodaeth a sgiliau.

Er na fydd rôl yr Is-gadeirydd yn rôl statudol, bydd y rheoliadau'n caniatáu i aelodau AaGIC benodi Is-gadeirydd. Os dewisant wneud hynny, gall aelodau'r Bwrdd benodi Is-gadeirydd o blith yr Aelodau Annibynnol. Bydd rôl yr Is-gadeirydd yn denu taliad cydnabyddiaeth uwch am gynnydd sylweddol mewn diwrnodau bob mis.

Mae Dr Chris Jones wedi'i benodi'n Gadeirydd interim o 1 Hydref ymlaen, i arwain y broses o sefydlu AaGIC, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth y mae sydd ei hangen i sefydlu AaGIC. Swydd am gyfnod cyfyngedig o 12 mis yw hon, gyda'r broses o recriwtio'r Cadeirydd yn dechrau yn haf 2018.

Bydd AaGIC wedi ymrwymo i sicrhau bod amrywiaeth lawn Cymru a'i chymunedau'n cael ei hadlewyrchu yn ei chynlluniau a'u cyflawni. I sicrhau hyn, bwriedir i aelodaeth y Bwrdd adlewyrchu hyn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyn bo hir ar y broses o recriwtio aelodau ar gyfer y Prif Weithredwr newydd. Bydd hyn yn caniatáu i drefniadau llywodraethu gael eu sefydlu cyn i'r sefydliad newydd ddechrau ar ei waith yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd. Disgwylir mai ar ddechrau Chwefror 2018 y bydd hynny.

Disgrifiad o'r swydd

Dyma gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i helpu i greu dull strategol o ddatblygu gweithlu iechyd Cymru yn awr ac yn y dyfodol gan feithrin ymagwedd amlddisgyblaethol at ein gwasanaeth iechyd.

Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod cyfeiriad strategol AaGIC yn canolbwyntio ar nodau llesiant Cymru, ac felly dylai allu rhoi tystiolaeth am yr egwyddorion ar y cyd ac yn unigol. Disgwylir i'r Bwrdd hefyd gadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan.

Rôl a chyfrifoldebau

Ar y cyd â'r Cadeirydd a'r Uwch Dîm Gweithredol, bydd Aelodau Annibynnol y Bwrdd yn gyfrifol am:

• sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion strategol AaGIC yn gyson â'i diben cyffredinol ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon;

• sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol AaGIC neu ar gyflawni ei thargedau, ac am y camau y mae eu hangen i ddelio â newidiadau o'r fath;

• sicrhau cydymffurfiad ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus; ei bod yn gweithredu o fewn terfynau ei hawdurdod statudol ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunir ag ef â Llywodraeth Cymru, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud ag arian cyhoeddus; a'i bod, wrth wneud penderfyniadau, yn cymryd i ystyriaeth canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru;

• sicrhau ei bod yn cael, yn adolygu, ac yn craffu'n rheolaidd ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr wybodaeth ariannol ac ansawdd gweithredu yn AaGIC; ei bod yn cael gwybod yn amserol am unrhyw bryderon am weithgareddau AaGIC; a'i bod, lle bo'n gymwys, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon trwy'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon o'r fath;

• dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys trwy helpu Pwyllgorau priodol i helpu'r Bwrdd i dderbyn sicrwydd ac i fynd i'r afael â risgiau ariannol a risgiau eraill;

• sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad i'r sefydliad a'r staff;

• penodi'r Prif Swyddog Gweithredol i'r sefydliad;

• penodi'r Aelodau Gweithredol i'r Bwrdd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych brofiad o un o'r meysydd canlynol o leiaf;

• Profiad o'r sector
• Arweinyddiaeth strategol
• Llywodraethiant
• Busnes /cynllunio strategol
• Cyllid/cyfrifyddu
• Dysgu/addysg
• Adnoddau dynol/cynllunio'r gweithlu
• Gwaith gwella
• Cyfathrebu/marchnata

Yn ogystal dylai fod gennych:

• Ddealltwriaeth o'r materion a'r blaenoriaethau a fydd yn bwysig i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith Byrddau;

• Y gallu i ddwyn eraill i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

• Y gallu i feddwl yn strategol ac i arfer barn gadarn ar faterion cymhleth a sensitif;

• Y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth fanwl, er enghraifft, gynigion polisi manwl neu wybodaeth ystadegol.

• Y gallu i ddangos dealltwriaeth gadarn o Werthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un ac ymrwymiad iddynt

• Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio mewn partneriaeth â staff, cynrychiolwyr staff a rhanddeiliaid.

Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, dylech allu deall a chyfrannu at sgyrsiau Cymraeg.

Y Meini Prawf sy'n Ddymunol:

Y Gymraeg ac amrywiaeth

Nid oes rhaid i aelodau Bwrdd AaGIC allu gwneud y canlynol, ond byddai'n ddefnyddiol pe gallent:

• siarad Cymraeg;

• dangos ymwybyddiaeth o broffil y Gymraeg yng Nghymru a phwysigrwydd cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru;

• gafael cadarn ar faterion amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyddiadau cyfweliadau

20 Tachwedd 2017
24 Tachwedd 2017

Dyddiad cau

13/10/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am rôl AaGIC a rôl yr Aelodau Annibynnol, cysylltwch â David Pritchard, Cyfarwyddwr Rhaglen AaGIC, Llywodraeth Cymru

Ffôn: 0300 025 0172
E-bost: heiw@wales.gsi.gov.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.