Swydd Wag -- Is-Lywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Manylion y swydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’n bosibl yBydd adegau pan fydd yn ofynnol i’r Is-lywydd deithio i gyfarfodydd a digwyddiadau.
Mae rôl yr Is-lywydd yn ddi-dal  ar hyn o bryd.  Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill a allai godi wrth gyflawni'r rôl oddi wrth y Llyfrgell.
18
blwyddyn

Rôl y corff

Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb i ddysgu, ymchwilio a mwynhau. 

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, bydd y Llyfrgell yn derbyn £12.8m mewn cyllid refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn 2021-2022.  Mae'r Llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Goruchwylir ei reolaeth a'i weithrediadau gan Fwrdd Ymddiriedolwyr.  

Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Iaith Gymraeg 2010 ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. 

I gael rhagor o fanylion am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y Llyfrgell, ewch i: https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Cynllun_Strategol_TERFYNOL.pdf

Disgrifiad o'r swydd

  • Bydd yr Is-lywydd yn cynorthwyo'r Llywydd i arwain cyfeiriad cyffredinol y Bwrdd ac yn ymgymryd â rolau'r Llywydd os yw'n absennol. 
  • Cadeirio Pwyllgorau Llyfrgell eraill a/neu yn absenoldeb y Cadeirydd penodedig. 
  • Ynghyd â'r Llywydd, gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng y Bwrdd a'r Gweinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a Phrif Chwip a swyddogion y Llywodraeth. 
  • Cefnogi'r Llywydd fel sy'n ofynnol wrth gysylltu â swyddogion eraill ac aelodau'r Bwrdd, a chydag uwch dîm gweithredol y Llyfrgell. Bydd gan yr Is-lywydd rôl bwysig i'w chwarae hefyd o ran craffu, herio a chefnogi'r weithrediaeth i gyflawni nodau, amcanion a thargedau'r Llyfrgell. 
  • Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol; 
  • Dirprwyo ar ran y Llywydd fel sy'n ofynnol wrth gynrychioli'r Llyfrgell wrth ddelio â'r Senedd a Llywodraeth Cymru. 
  • Mynd ati i hyrwyddo manteision y sector treftadaeth ddiwylliannol amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.
  • Bod â gweledigaeth glir o ran sut y gall y Llyfrgell barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi treftadaeth ddiwylliannol y Llywodraeth 
  • Deall sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu. 
  • Cymryd rhan weithredol mewn annog aelodau bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o ymddiriedolwyr. 
  • Sicrhau bod y Llyfrgell yn cael gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra ac eiddo. 
  • Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cywirdeb a chyllid cyhoeddus. 
  • Bod yn wleidyddol annibynnol. 
  • Meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i "Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus" Nolan.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Dim sgiliau
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Manyleb y Person - Dymunol 

Rydym yn chwilio am rywun sy'n: 

  • dangos dealltwriaeth, ymrwymiad, a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell ac ar gyfer sector diwylliannol Cymru;
  • ymwybyddiaeth o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a sut maent yn dylanwadu ar waith y Llyfrgell a'r sector diwylliant yn gyffredinol;
  • meddu ar sgiliau arwain helaeth a phrofiad o sbarduno newid;
  • ymrwymo i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion gwahaniaethol;
  • yn ymrwymo i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life; ac
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd y Llyfrgell yn y Gymraeg a'r Saesneg. 

Manyleb y Person - Hanfodol:

  • Yn dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwerthfawrogiad o'i rôl a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a lles, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid cryf, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol;
  • Yn ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan nodi profiad perthnasol i ddatblygu Bwrdd cynhwysol ac amrywiol;
  • Yn meddu ar brofiad o ddatblygu partneriaethau strategol, a gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu a fydd yn llywio'r agenda o sicrhau bod y Llyfrgell yn gwasanaethu ac yn cynrychioli cymunedau a rhanbarthau amrywiol Cymru;
  • Yn dangos sgiliau arwain uwch a'r gallu i ddarparu cymorth a her effeithiol i sefydliad uchel ei broffil;
  • Yn dangos y gallu i feddwl a gweithredu'n strategol;
  • Yn dangos dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da;
  • Yn dangos craffter busnes a masnachol a phrofiad o weithgareddau cynhyrchu incwm (gan gynnwys codi arian);
  • Yn meddu ar brofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol.

Dyddiadau cyfweliadau

1 Rhagfyr 2021
31 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

20/10/21 18:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.