Swydd Wag -- 1 x Penodi Aelod (Hanfodol Cymraeg) - Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Manylion y swydd
Rôl y corff
Beth yw Parciau Cenedlaethol?
Mae Parciau Cenedlaethol yn dirluniau o bwysigrwydd rhyngwladol. Er eu bod yn barciau gwledig yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol ac mae posibilrwydd sylweddol yno i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr â Chymru, ac i gyfrannu’n bositif at economi Cymru. Tasg allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau bod yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lefydd sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach, mwy amrywiol nac sydd ganddynt heddiw, sy’n cael ei fwynhau gan drawsdoriad llawn o’r gymdeithas.
Beth yw eu Rôl?
Mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddau bwrpas statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:
diogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol;
hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau.
Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau bwrpas statudol, mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol wrth ymlid y ddau bwrpas statudol.
Os yr ymddengys bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir mwy o flaenoriaeth i ddiogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.
Dulliau o weithio
Mae’n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol. Mae’r Cynllun yn pennu polisïau ar gyfer rheoli’r Parc a threfnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnwys polisïau i reoli’r tir o fewn y Parc Cenedlaethol ac yn sail ar gyfer cydweithio, nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda pherchnogion tir eraill cyhoeddus a phreifat. Mae ymgynghori yn ystod y cyfnod o baratoi’r Cynllun yn caniatâu i bobl gyfrannu at bolisïau ymarferol, ac mae’n hollbwysig i sicrhau bod perthynas dda rhwng trigolion y Parc a buddiannau o fewn y Parc.
Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys prif randdeiliaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol, a bydd yn chwarae rhan allweddol i ddatblygu y Cynllun Datblygu Lleol. Awdurdodau y Parc Cenedlaethol yw awdurdod cynllunio eu hardal, sy’n gyfrifol am greu cynlluniau datblygu a rheoli datblygu
Beth yw eu Strwythur a’u Haelodaeth?
O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae tri Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig. Maent yn gyrff corfforaethol gyda phwerau gweithredol. Yr un pwrpas sydd i’r Parciau yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ym mhob gwlad yn wahanol.
Yng Nghymru, mae dwy ran o dair o’r seddi yn cael eu llenwi gan gynghorwyr Awdurdodau Lleol cyfansoddol i adlewyrchu buddiannau lleol ac un rhan o dair gan benodiadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru i gynrychioli buddiannau cenedlaethol. Wrth benodi aelodau i eistedd ar Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol, mae Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio cynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau sydd naill ai’n gyfan-gwbl neu’n rhannol o fewn ffin y Parc.
Ble mae Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol yn cael eu harian?
Mae Gweinidogion Cymru yn rhoi mwyafrif eu cyllid i Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant Parc Cenedlaethol. Daw dwy ran o dair o’r Grant gan Weinidogion Cymru yn uniongyrchol, gyda’r un rhan o dair sy’n weddill yn cael ei gasglu gan Awdurdodau’r Parc o’u Hawdurdodau Lleol cyfansoddol. Mae grant ychwanegol ar gael gan Weinidogion Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf penodol. Caiff Awdurdodau y Parc Cenedlaethol incwm o, er enghraifft, weithgareddau masnach, ffioedd meysydd parcio a ffioedd ceisiadau cynllunio. Mae Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn anfon llythyr grant strategol pob blwyddyn yn pennu’r blaenoriaethau a’r amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn a ddaw.
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad o'r rôl a manyleb y person
Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei bolisi ac am sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, a’r fframwaith polisi ac ariannol sydd wedi ei baratoi ar ei gyfer. Mae gan aelodau ddyletswydd i weithredu o fewn y gyfraith, yn onest ac er budd y Parc Cenedlaethol, ac i sicrhau ei fod yn gwasanaethu’r cyhoedd bob tro heb gael ei ddylanwadu gan fuddiannau preifat, neu unrhyw amheuaeth fod hynny wedi digwydd.
Rôl y Pwyllgor
Mae’n ofynnol i Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i neilltuo’r amser sydd ei angen i fod yn bresennol yn rheolaidd yng nghyfarfodydd llawn yr Awdurdod a chyfarfodydd y pwyllgor, yn ogystal â digwyddiadau i ddatblygu aelodau (o leiaf 6 pob blwyddyn), gweithgorau, digwyddiadau, a chynrychioli yr Awdurdod ar gyrff allanol.
Prif Dasgau:
Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn benodol wrth ddiffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol ac wrth bennu amcanion heriol;
Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a’u hybu mewn ffordd mor effeithlon ac effeithiol â phosib;
Sicrhau bod strategaethau’n cael eu datblygu ar gyfer bodloni amcanion a dyletswyddau cyffredinol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru;
Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn bodloni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformio;
Sicrhau bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau unrhyw gyrff eraill y mae’n eu noddi neu’n eu cefnogi, mewn ffordd sy’n rhoi gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer da, rheoleidd-dra a phriodoldeb ac i gymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol;
Hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
I gael eich ystyried bydd yn rhaid ichi ddangos bod gennych y rhinweddau, sgiliau a phrofiad i fodloni’r meini prawf ar gyfer penodiad. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb brofiad blaenorol o weithio ar fwrdd sector cyhoeddus. Caiff unigolion eu dewis ar y meini prawf hanfodol yn hytrach na’u bod yn cynrychioli sefydliad neu grwpiau penodol.
Er mwyn llwyddo yn y swydd hon mae’n bwysig eich bod yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni y dibenion statudol a ddynodwyd i’r Parciau Cenedlaethol (gweler yr ail baragraff yn Atodiad B).
Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn elwa o ddefnyddio yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd gan ei aelodau a bydd angen ichi allu dod â chyd-destun cenedlaethol i waith Awdurdod y Parc sydd yn cydnabod ei rôl a chyfraniad at ddyheadau Cymreig (yn arbennig ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol) tra’n adnabod cyfraniad y Parc at fywyd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Gallai helpu os oes gennych brofiad o weinyddu cyhoeddus ar lefel uwch, wedi rhedeg busnes, bod yn ymddiriedolwr neu weithio i elusen neu wybodaeth arall mewn maes sy’n uniongyrchol berthnasol i waith amrywiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Yn y cylch penodi hwn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â phrofiad eang a sgiliau mewn cadeirio, busnes, cyllid, partneriaethau strategol, cyfathrebu a llywodraethu, ond bydd profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol hefyd yn fuddiol:
gwarchod yr amgylchedd naturiol, hanesyddol, adeiledig ac / neu ddiwylliannol;
cyfathrebu a materion cyhoeddus (technoleg ddigidol yn benodol);
rheoleiddio a llywodraethu;
y celfyddydau;
hamdden a chwaraeon;
ynni adnewyddadwy;
addysg;
datblygu cynaliadwy;
sector busnes;
amaethyddiaeth; neu
gweithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol.
Meini Prawf Hanfodol
Y gallu i wneud cyfraniad cadarn i’r broses o arwain yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu raglenni gan ddefnyddio’r wybodaeth briodol o ran perfformiad i hybu gwelliant a sicrhau cyflawni;
Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn swyddogaeth strategol neu genedlaethol sy’n dylanwadu ac yn sicrhau bod polisïau yn cael eu gweithredu; Y gallu i adeiladu a chyfrannu at dimau effeithiol, gyda’r gallu i gyfathrebu’n glir gydag amrywiol gynulleidfaoedd fel llysgennad i’r Awdurdod; Gwerthfawrogiad o’r polisi ac arferion presennol a gwaith Awdurdodau Parc Cenedlaethol;
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i’r deg egwyddor yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (gweler Atodiad D);
Mae’r Awdurdod yn cynnal ei waith yn electronig a disgwylir i aelodau fod yn ddigon hyfedr mewn TG i fedru rheoli calendrau, i ddelio ag ebyst a phob agenda a phapurau drwy system rheoli pwyllgor electronig;
Dod â phrofiadau eich hun sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 0300 025 5454
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a rôl Aelodau cysylltwch â:
Geraint Evans, Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth, Llywodraeth Cymru
Ffôn: 0300 062 2097
E-bost: geraint.evans@llyw.cymru
Neu
Julia Gruffydd (Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,
Plas y Ffynnon,
Cambrian Way,
Aberhonddu,
Powys
LD3 7HP
Ffôn: 01874 620400
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 0300 025 5454 neu anfonwch e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.