Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - Cais Saesneg
Manylion y swydd
£400 y dydd, a threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
Rôl y corff
Diben
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i gefnogi cyngor annibynnol, mwy gwybodus ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Llywodraethiant a chylch gwaith
Sefydlwyd CSCC fel corff cynghori anstatudol i ddarparu cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros 5 - 30 mlynedd.
Mae cylch gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar anghenion economaidd ac amgylcheddol, ond dylai ystyried hefyd sut mae’r anghenion hyn yn rhyngweithio â ‘seilwaith cymdeithasol’, megis ysgolion, ysbytai a thai. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd CSCC yn ystyried a chynghori ar anghenion seilwaith cymdeithasol mewn manylder.
Bydd Llywodraeth Cymru’n amlinellu trwy lythyr cylch gwaith blynyddol y meysydd yr hoffai i CSCC ganolbwyntio arnynt, ynghyd â’r gyllideb sydd ar gael. Bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon at Gadeirydd y Comisiwn cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.
Bydd y cyngor a ddarperir gan CSCC o natur strategol ac yn edrych i’r dyfodol. Ni ddarperir cyngor ar gynlluniau seilwaith presennol neu gynlluniau sydd i ddod sydd wedi’u cytuno eisoes.
O fewn ei gyngor, rhaid i CSCC adlewyrchu nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn cynnwys:
- Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru
- Y Pum Ffordd o Weithio
- Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Rhaid i CSCC ystyried hefyd rwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill, wrth ddarparu cyngor.
Bydd trefniadau gwaith manwl CSCC yn cael eu cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynwyr a benodwyd trwy ddogfen Cyfansoddiad. Bydd y cyfansoddiad hwn yn cael ei gefnogi gan lythyrau cylch gwaith blynyddol a fydd yn amlinellu meysydd blaenoriaeth a chyllideb flynyddol CSCC.
Disgwylir i CSCC gynhyrchu a chyhoeddi ‘Adroddiad Cyflwr y Genedl’ bob 3-5 mlynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried cyflwr presennol y seilwaith economaidd ac amgylcheddol ledled Cymru mewn ffordd ddiduedd.
Yn ogystal, disgwylir i’r Comisiwn gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei weithgarwch y flwyddyn flaenorol ac unrhyw adroddiadau ad hoc y bydd Llywodraeth Cymru a/neu CSCC yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth CSCC trwy:
- Ymateb yn ffurfiol i Adroddiad Cyflwr y Genedl a chyflwyno’r adroddiad, a’r ymateb, yn y Cynulliad Cenedlaethol.
- Cyflwyno adroddiadau CSCC yn y Cynulliad Cenedlaethol.
- Ymateb yn ffurfiol i argymhellion CSCC a chyflwyno’r ymateb hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y rheswm pam mae argymhellion wedi’u cymeradwyo neu heb eu derbyn.
https://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/2/pdfs/anaw_20150002_we.pdf
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn feddyliwr blaenllaw ac yn llais annibynnol ar seilwaith, ac yn gweithio gyda grŵp amrywiol o Gomisiynwyr. Bydd gan y Cadeirydd broffil cyhoeddus amlwg a bydd yn cyflwyno argymhellion CSCC i’r cyhoedd ac i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn profi’r gwaith o gyflawni argymhellion CSCC a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd yn ategu rôl CSCC ac yn creu consensws gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.
Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am:
- arweinyddiaeth strategol CSCC; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion; goruchwylio darpariaeth gwaith CSCC, gan gynnwys monitro’r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru;
- cyfarwyddo mewnbwn Comisiynwyr a manteisio ar eu sgiliau, eu profiad a’u harbenigedd;
- darparu cyngor diduedd, arbenigol i Lywodraeth Cymru ar seilwaith, gan gynnwys cyngor ar flaenoriaethu a gwerth am arian ar fuddsoddiadau cyhoeddus a phreifat;
- creu consensws mewn perthynas ag argymhellion CSCC;
- ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau â buddiant a’r cyhoedd;
- creu perthynas waith â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU;
- cynrychioli CSCC yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tîm cymorth addas ar waith i ddarparu dadansoddiad a chyngor a/neu waith comisiwn cadarn i CSCC yn ôl yr angen
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol
Gallu
- arweinydd o safon uchel, gyda’r gallu i arwain byrddau a sefydliadau’n effeithiol;
- y gallu i ddarparu cyngor annibynnol, cadarn o dan lefel uchel o graffu a diddordeb cyhoeddus a defnyddio proffil cyhoeddus i greu consensws;
- hygrededd gyda llywodraeth, diwydiant a’r cyhoedd;
- y gallu i brosesu gwybodaeth gymhleth, ystyried pethau o safbwynt tymor hir a phwyso a mesur tebygolrwydd i ddod i gasgliadau clir;
- y gallu i gyfathrebu pynciau cymhleth yn glir;
- dealltwriaeth o amcanion seilwaith Llywodraeth Cymru, ei fframwaith polisi, cyflawni ac ariannu ehangach, gan gynnwys y dyletswyddau a’r ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r setliad datganoli.
Profiad
- profiad o arweinyddiaeth strategol ar lefelau uwch mewn llywodraeth neu yn y byd academaidd neu fusnes;
- profiad o gyfathrebu a dylanwadu ar y lefelau uchaf;
- y gallu i gynrychioli sefydliadau yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau a gyda gwahanol randdeiliaid;
- profiad mewn un sector neu fwy ym maes seilwaith economaidd a/neu amgylcheddol (dymunol)
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-8d1f9e73671f/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y swydd Comisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ac yna ar ‘Gwneud Cais’ yn y gornel waelod ochr chwith. Y tro cyntaf y byddwch chi’n gwneud cais am swydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, a gallwch ddilyn eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych chi wedi’u gwneud, drwy’r system trwy eich cyfrif cofrestredig.
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch gael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen i chi lanlwytho datganiad personol a CV i’r adran ‘Rhesymau dros wneud cais’ ar y ffurflen gais ar-lein.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.