Swydd Wag -- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Penodi Aelod (Cymraeg yn Ddymunol Iawn)

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eyri
Penrhyndeudraeth, Gwynedd
£3,735 y flwyddyn
44
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Parciau Cenedlaethol yn dirluniau o bwysigrwydd rhyngwladol. Er eu bod yn barciau gwledig yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol ac mae posibilrwydd sylweddol yno i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr â Chymru, ac i gyfrannu’n bositif at economi Cymru. Tasg allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau bod yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lefydd sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach, mwy amrywiol nac sydd ganddynt heddiw, sy’n cael ei fwynhau gan drawsdoriad llawn o’r gymdeithas.

 

Beth yw eu Rôl?

Mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddau bwrpas statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

 

diogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol;

 

hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau.

 

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau bwrpas statudol, mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol.

 

Os yr ymddengys bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir mwy o flaenoriaeth i ddiogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.

 

Dulliau o weithio

Mae’n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol. Mae’r Cynllun yn pennu polisïau ar gyfer rheoli’r Parc a threfnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnwys polisïau i reoli’r tir o fewn y Parc Cenedlaethol ac yn sail ar gyfer cydweithio, nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda pherchnogion tir eraill cyhoeddus a phreifat. Mae ymgynghori yn ystod y cyfnod o baratoi’r Cynllun yn caniatâu i bobl gyfrannu at bolisïau ymarferol, ac mae’n hollbwysig i sicrhau bod perthynas dda rhwng trigolion y Parc a buddiannau o fewn y Parc.

 

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys prif randdeiliaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol, a bydd yn chwarae rhan allweddol i ddatblygu y Cynllun Datblygu Lleol. Awdurdodau y Parc Cenedlaethol yw awdurdod cynllunio eu hardal, sy’n gyfrifol am greu cynlluniau datblygu a rheoli datblygu.

Beth yw eu Strwythur a’u Haelodaeth?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae tri Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig. Maent yn gyrff corfforaethol gyda phwerau gweithredol. Yr un pwrpas sydd i’r Parciau yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ym mhob gwlad yn wahanol.

Disgrifiad o'r swydd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

Manyleb y Person

 Pa sgiliau neu wybodaeth sydd ei angen arnoch?

I gael eich ystyried bydd yn rhaid ichi ddangos bod gennych y rhinweddau, sgiliau a phrofiad i fodloni’r meini prawf ar gyfer penodiad. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb brofiad blaenorol o weithio ar fwrdd sector cyhoeddus. Caiff unigolion eu dewis ar y meini prawf hanfodol yn hytrach na’u bod yn cynrychioli sefydliad neu grwpiau penodol.

Er mwyn llwyddo yn y swydd hon mae’n bwysig eich bod yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni y dibenion statudol a ddynodwyd i’r Parciau Cenedlaethol.

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn elwa o ddefnyddio yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd gan ei aelodau a bydd angen ichi allu dod â chyd-destun cenedlaethol i waith Awdurdod y Parc sydd yn cydnabod ei rôl a chyfraniad at ddyheadau Cymreig (yn arbennig ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol) tra’n adnabod cyfraniad y Parc at fywyd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Gallai helpu os oes gennych brofiad o weinyddu cyhoeddus ar lefel uwch, wedi rhedeg busnes, bod yn ymddiriedolwr neu weithio i elusen neu wybodaeth arall mewn maes sy’n uniongyrchol berthnasol i waith amrywiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Yn y cylch penodi hwn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â phrofiad mewn cyllid llywodraeth leol neu archwilio cyrff cyhoeddus, ond bydd profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol hefyd yn fuddiol:

gwarchod yr amgylchedd naturiol, hanesyddol, adeiledig ac / neu ddiwylliannol;

cyfathrebu a marchnata (technoleg ddigidol yn benodol);

rheoleiddio a llywodraethu;

twristiaeth, y celfyddydau, hamdden a chwaraeon;

gweithio gyda phlant a phobl ifanc;

datblygu cynaliadwy;

codi incwm;

rheoli cynllunio a datblygu defnydd tir;

rheoli tir ac amaethyddiaeth; a

gweithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol.

 

Meini Prawf Hanfodol

 

Y gallu i wneud cyfraniad cadarn i’r broses o arwain yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu raglenni gan ddefnyddio’r wybodaeth briodol o ran perfformiad i hybu gwelliant a sicrhau cyflawni;

Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn swyddogaeth strategol neu genedlaethol sy’n dylanwadu ac yn sicrhau bod polisïau yn cael eu gweithredu ac sy’n rhoi cyfeiriad i dîm gweithredol yr Awdurdod;

Y gallu i wrando, adeiladu a chyfrannu at dimau effeithiol, gyda’r gallu i gyfathrebu’n glir gydag amrywiol gynulleidfaoedd;

Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn, a chyfrannu at Fwrdd Awdurdod Cymraeg/dwyieithog a’i fusnes ac amgylchedd cyfundrefnol;

Gwerthfawrogiad o’r polisi ac arferion presennol a gwaith Awdurdodau Parc Cenedlaethol;

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i’r deg egwyddor yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001;

Mae’r Awdurdod yn cynnal ei waith yn electronig a disgwylir i aelodau fod yn ddigon hyfedr mewn TG i fedru rheoli calendrau, i ddelio ag ebyst a phob agenda a phapurau drwy system rheoli pwyllgor electronig;

Dod â phrofiadau eich hun sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Iaith Gymraeg

Lleolir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn rhan o Gymru lle y siaredir Cymraeg yn bennaf. Cynhelir y mwyafrif o’i fusnes mewnol a’i gyswllt gyda rhanddeiliaid allanol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n hanfodol felly bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus agwedd bositif tuag at yr iaith Gymraeg a dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith i’r ardal, a’i rôl flaenllaw yn nhreftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn.

Dyddiadau cyfweliadau

10 Chwefror 2020
14 Chwefror 2020

Dyddiad cau

02/01/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus ac yna ar Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Pan fydd y swydd yn ymddangos cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro gyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith ichi gofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i adran 'Rhesymau dros ymgeisio' y ffurflen gais ar-lein. 

Datganiad Personol

Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r holl feini prawf a nodir ym manyleb y person. Cewch chi benderfynu sut i gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut y mae eich gwybodaeth a'ch profiadau yn cyd-fynd â phob maen prawf, ac sy'n disgrifio eich swyddogaeth chi wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.

Ni ddylai'r datganiad personol fod yn hwy na dwy dudalen. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn.

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf a'ch dyddiadau yn y swydd hon. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol presennol neu flaenorol.

 

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.