Swydd Wag -- Cadeirydd - Adnodd

Manylion y swydd

Adnodd
yn rhithiol ond gyda’r posibilrwydd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb yng mewn lleoliad cyfleus i holl aelodau’r bwrdd yn y dyfodol
£114 y dydd ynghyd â chostau teithio. Gellir hawlio
costau eraill a ysgwyddir yn rhinwedd ymgymryd â
gwaith ar ran y cwmni o fewn rheswm.
5
mis

Rôl y corff

Arweiniodd y diffyg mewn adnoddau perthnasol, amserol a digonol i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau diwygiedig yn 2015 at bryderon am y ddarpariaeth o adnoddau, yn y ddwy iaith, ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bu’r ‘Uwchgynhadledd adnoddau Cymraeg a dwyieithog' a gynhaliwyd yng Ngwanwyn 2017 yn gyfle i edrych ar y materion yn ymwneud â darparu adnoddau perthnasol i Gymru a'i chwricwlwm newydd, yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid i ddatblygu gweledigaeth a chytuno ar seilwaith ar gyfer cynhyrchu adnoddau addysgol dwyieithog yn y dyfodol.

Mae darparu deunyddiau addysgol pwrpasol, yn amserol ac o ansawdd uchel i gefnogi dysgu ac addysgu yn elfen hanfodol o sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac o ran sicrhau'r ymrwymiad angenrheidiol gan ymarferwyr i'w wireddu.  Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn heriol ac felly mae'n gofyn am ddull gwahanol sydd yr un mor uchelgeisiol i ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo gael ei wreiddio dros y blynyddoedd i ddod. Cytunodd  Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i argymhelliad y grŵp i sefydlu endid hyd braich gyda Bwrdd yn atebol i Weinidogion Cymru.

Ymgorfforwyd Adnodd fel cwmni cyfyngedig drwy warant Llywodraeth Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.

Mae nifer sylweddol o adnoddau'n cael eu comisiynu ar hyn o bryd ond mae angen cydlynu hyn yn fwy strategol ac  mae lle hefyd i ddefnyddio’r cyllidebau ac arbenigedd sydd ar gael yn genedlaethol yn fwy effeithiol. Heb broses strategol genedlaethol, gellir dyblygu ymdrechion, ni sicrheir cydraddoldeb yn y ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg ac nid yw'r holl adnoddau'n mynd drwy’r un broses o ran sicrhau ansawdd.

Bydd y cwmni hwn yn rhoi cyfleoedd i randdeiliaid ar draws y sector gydweithio, rhannu arbenigedd a phrofiad a datblygu gallu ysgolion ac ymarferwyr i greu adnoddau sy'n cefnogi eu cwricwlwm lleol. Bydd yn wasanaeth amlwg i droi ato, fydd yn hwyluso cyd-awduro rhwng athrawon a rhan ddeiliaid eraill, gan sicrhau fod talent yn cael ei gydnabod, ei feithrin a’i ddatblygu. Bydd yn clymu gyda gwaith y Rhwydwaith Cenedlaethol o weithredu’r cwricwlwm ac yn sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion ac ethos y cwricwlwm newydd, a’u bod yn cefnogi rôl ysgolion ac ymarferwyr fel dylunwyr cwricwlwm. Bydd yn buddsoddi hefyd mewn sgiliau a chapasiti yn y sector cyhoeddi, gan sicrhau cydlynu a chydweithio. 

Gweledigaeth Adnodd

Galluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol a deunyddiau ategol o ansawdd uchel, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gefnogi dysgu ac addysgu Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau.

Byddwn yn:
-    Sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol pwrpasol, o ansawdd uchel ac yn amserol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi’u cyhoeddi ar yr un pryd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau
-    Darparu trosolwg strategol o’r ddarpariaeth a chomisiynu adnoddau gan sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn ymateb i'r anghenion a nodwyd gan y sector addysg
-    Hwyluso cydweithio agosach ar draws sectorau er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyd-awduro a manteisio i’r eithaf ar arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau
-    Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu datblygu yn unol ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru, a’u bod yn addas i bwrpas
-    Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti mewn creu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru
-     Sicrhau gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o’r gyllideb a’r adnoddau
-    Cryfhau effeithiolrwydd hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth a’r defnydd o adnoddau.

Disgrifiad o'r swydd

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Bwrdd newydd sydd â chyfrifoldeb am sicrhau
darpariaeth o adnoddau dysgu ac addysgu Cymraeg a Saesneg i gefnogi’r cwricwlwm
a chymwysterau yng Nghymru.


Arweiniad a chyfeiriad strategol
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw arwain y bwrdd a sicrhau ei effeithiolrwydd ym mhob
agwedd o’i rôl. Dylai'r Cadeirydd hyrwyddo diwylliant o fod yn agored a thrafod drwy
hwyluso cyfraniad effeithiol holl aelodau'r bwrdd. Bydd cyfathrebu am gyfeiriad
strategol y cwmni rhwng y Bwrdd a Llywodraeth Cymru, yn ystod busnes arferol, yn
cael ei wneud drwy'r Cadeirydd, a bydd yn rhoi gwybod i’r aelodau eraill am
drafodaethau o'r fath.


Llywodraethu ac atebolrwydd
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw gosod agenda’r Bwrdd a sicrhau bod amser digonol i
drafodaeth ar bob pwynt agenda, ac yn benodol unrhyw faterion strategol.
Bydd disgwyl i’r Cadeirydd berfformio ei ddyletswyddau, boed yn statudol,
ymddiriedol neu gyfraith gyffredin, yn ffyddlon, yn effeithlon ac yn ddiwyd i safon sy'n
gymesur â swyddogaethau'r rôl a'u gwybodaeth, sgiliau a'u profiad.
Byddant yn arfer eu pwerau yn ei rôl fel cyfarwyddwr cwmni gan roi sylw i
rwymedigaethau perthnasol o dan y gyfraith a'r rheoliadau presennol, gan gynnwys
Deddf Cwmnïau 2006, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a rheoliadau a
deddfwriaeth gysylltiedig.


Rheoli rhanddeiliaid
Bydd y Cadeirydd yn gyfrwng allweddol i sicrhau ymgysylltiad effeithiol gyda
rhanddeiliaid gan helpu i sicrhau perthynas dda i gyflawni’r gwaith.
Bydd y Cadeirydd yn sicrhau’r parhad hanfodol sydd ei angen wrth sefydlu a
gweithredu’r cwmni newydd.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau pellach
Wrth ymgymryd â’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau fel cyfarwyddwr cwmni, bydd gan
y Cadeirydd gyfrifoldeb am:
 ffurfio strategaethau Bwrdd Adnodd, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r
polisïau a'r dulliau gweithredu a bennwyd gan Weinidogion Cymru, a bod
nodau, amcanion a diwylliant y cwmni yn cyd-fynd â meini prawf y llywodraeth
megis Ffyniant i Bawb, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
 sicrhau bod Adnodd yn hyrwyddo ac yn gweld pwysigrwydd rhanddeiliaid
lleol a chenedlaethol i wireddu gweledigaeth gyffredinol, amcanion ac
allbynnau y cwmni;
 mentora’r tîm, yn benodol y Prif Weithredwr, i sicrhau fod ganddynt
ddealltwriaeth glir o’u rôl a’u cyfrifoldebau, a sut y gallant wneud y defnydd
gorau o’r Bwrdd;
 sicrhau bod y Bwrdd, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i
ofynion rheoli statudol ac ariannol perthnasol a'r holl ganllawiau perthnasol
gan gynnwys unrhyw ganllawiau perthnasol a ddarperir gan Lywodraeth
Cymru;
 hyrwyddo’r defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau
eraill;
 sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra a phriodoldeb; a
 cynrychioli barn y Bwrdd i’r cyhoedd a bod yn gyfrwng allweddol o ran rheoli
ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid.


Yn ogystal bydd y Cadeirydd yn arwain ar:
 sicrhau ei fod ef neu hi, ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, yn derbyn
hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion rheoli ariannol ac adrodd cyrff y
sector cyhoeddus, ac ar y gwahaniaethau a all fodoli rhwng arferion y sector
preifat a'r sector cyhoeddus;
 sicrhau bod gan y bwrdd gydbwysedd sgiliau addas i gyfeirio busnes y Cwmni,
a chynghori Llywodraeth Cymru o unrhyw benodiadau i’r Bwrdd;
 hysbysu a cheisio cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i unrhyw newidiadau
arfaethedig i strwythur neu aelodaeth y Bwrdd;
 sicrhau bod cod ymddygiad ar gyfer Cyfarwyddwyr mewn lle, sy’n gyson a Cod
Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus yng
Nghymru; Cod Ymarfer Da (Chwefror 2017) fel sy’n berthnasol i Gyrff
Cyhoeddus hyd braich o Lywodraeth Cymru; a
 adrodd i Lywodraeth Cymru, trwy Dîm Noddi’r Cwmni.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y
sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Bydd y Cadeirydd yn gallu cynnal safonau uchel o ran cywirdeb a gonestrwydd.
Bydd hyn yn cynnwys sicrwydd llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheolaeth
ariannol y cwmni wrth ystyried, hyrwyddo a diogelu rheoleidd-dra, priodoldeb,
fforddiadwyedd, cynaliadwyedd, risg, a gwerth am arian ar draws y sector
cyhoeddus; a chyfrifyddu'n gywir ac yn dryloyw, ar gyfer sefyllfa ariannol a thrafodion
y cwmni. Rhaid iddynt allu sicrhau safonau uchel o ran cywirdeb wrth reoli arian
cyhoeddus.


Meini Prawf Hanfodol
 Arweinydd profiadol a diplomyddol
 Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a negodi cryf, gyda’r gallu i ddatblygu
partneriaethau effeithiol a chynaliadwy
 Meddu ar brofiad, dealltwriaeth ac enghreifftiau ymarferol o weithio ym myd
addysg neu’r gyhoeddi boed yn sector breifat neu gyhoeddus
 Meddu ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiad,
gyda’r ymroddiad i arweinyddiaeth gynhwysol
 Gallu dangos y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol
 Anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored,
gonestrwydd ac arweinyddiaeth (egwyddorion Nolan)
 Dealltwriaeth dda o faterion llywodraethiant cwmni.


Y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn cael ei hystyried yn hanfodol ar gyfer y rôl yma. Dylech nodi
eich sgiliau Cymraeg yn eich cais. Bydd cyfweliadau ar gyfer swyddi Cymraeg
hanfodol yn cael eu cynnal yn Gymraeg.

Dyddiadau cyfweliadau

10 Hydref 2022
15 Hydref 2022

Dyddiad cau

02/09/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Adnodd a rôl yr Aelod(au) cysylltwch ag Ann Evans: 

Ffôn: 03000253833

E-bost: ann.evans3@llyw.cymru

Neu, os yn cysylltu yn ystod 28 Gorffennaf – 9 Awst cysylltwch â IsadranYGymraeg.WelshLanguageDivision@gov.wales 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.