Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl
Manylion y swydd
Rôl y corff
Dechreuodd y Rhaglen Cefnogi Pobl ym mis Ebrill 2003. Rhaglen y Llywodraeth yw hon ar gyfer ariannu, cynllunio a monitro gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai. Drwy'r rhaglen, caiff unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl o golli eu cartref eu helpu i gadw eu llety ac i adennill eu hannibyniaeth. Ymhlith y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau mae:
• teuluoedd sy'n ffoi rhag trais yn y cartref
• pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol neu anableddau dysgu
• pobl ifanc
• pobl â phroblemau sy'n ymwneud ag alcohol neu gyffuriau
• pobl hŷn
• cyn-droseddwyr
Mae gwasanaethau Cefnogi Pobl yn cael effaith fawr er mwyn atal digartrefedd ledled Cymru drwy helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned, pa un ai yn eu cartrefi eu hun neu mewn hostelau, tai gwarchod neu mewn tai arbenigol â chymorth.
Mae'r rhaglen hefyd yn darparu cymorth ategol i bobl y gall fod angen gofal personol neu feddygol arnynt ac felly, mae'n chwarae rhan bwysig o ran lleihau'r galw ar wasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn chwarae rôl allweddol ym mholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei llunio ganddynt. Mae cysylltiadau agos rhwng y rhaglen ac agenda Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae gan y rhaglen gysylltiadau â strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru “Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed” a'i chynllun gweithredu ategol ar gyfer 2016-2018, sy'n ceisio gosod agenda genedlaethol glir ar gyfer ymateb i’r problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a lleihau’r niwed sy’n digwydd yn eu sgil. Gwaith ataliol sydd wrth wraidd rhaglen newid Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd gan y rhaglen hon gysylltiadau hollbwysig er mwyn cyflawni'r thema ataliol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sefydlwyd Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru yn 2012. Nod a ffocws cyffredinol y Bwrdd yw rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion tai pobl sy'n agored i niwed yng Nghymru.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd aelod annibynnol y Bwrdd yn:
• cyfrannu at waith y Bwrdd drwy fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, gan baratoi'n drwyadl ar eu cyfer, yn ogystal â chyfrannu atynt mewn ffordd ddeallus;
• helpu'r Cadeirydd i sicrhau consensws ym mhenderfyniadau'r Bwrdd;
• bodloni safonau uchel o uniondeb a llywodraethu;
• helpu i gyfleu'r weledigaeth ar gyfer Cefnogi Pobl ar draws y sector ac i ddefnyddwyr gwasanaethau;
• gallu gweithredu fel Cadeirydd pan fo angen, gan gadeirio cyfarfodydd mewn modd teg a diduedd a chwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod agendâu a phapurau cyn cynnal cyfarfodydd;
• rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch polisïau, blaenoriaethau, arferion a chyfeiriad strategol i ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n seiliedig ar ganlyniadau a gweithredu prosiectau mewn ffordd effeithiol ac effeithlon sy'n ychwanegu gwerth, er mwyn diwallu anghenion pobl ddifreintiedig a phobl sy'n agored i niwed am dai â chymorth;
• datblygu cyngor a chyflwyno gwybodaeth, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac ystyried y materion hynny sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a ddarperir, er mwyn diwallu anghenion y bobl y mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru yn eu targedu o ran tai â chymorth;
• herio polisïau a chynigion Llywodraeth Cymru a chraffu arnynt mewn ffordd adeiladol;
• disgwylir y bydd aelodau yn ymrwymo i weithio o leiaf dau ddiwrnod fesul chwarter, gyda chyfarfodydd Bwrdd chwarterol.
Bydd gan yr aelodau ystod o sgiliau. I grynhoi, bydd gan yr ymgeisydd wybodaeth a/neu arbenigedd yn y sector tai neu'r sectorau cysylltiedig, y gallu i feddwl mewn ffordd strategol, sgiliau arwain a chyfathrebu a'r gallu i gydweithio a chydgynhyrchu. Bydd ganddo hefyd ddealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a bydd yn herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol; bydd ganddo ddealltwriaeth glir o ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan ac ymrwymiad iddynt.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi:
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gydag ymddygiad personol a phroffesiynol sy'n ennyn ymddiriedaeth a hyder pobl eraill.
• Y gallu i gyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd, a herio gwaith y Bwrdd a pholisïau a chynigion Llywodraeth Cymru a chraffu arnynt mewn ffordd adeiladol.
• Parodrwydd i gydweithio ar y Bwrdd.
• Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth gymhleth i nodi prif gryfderau a gwendidau achos, a dod i gasgliadau cadarn.
• Y gallu i gyfrannu at greu argymhellion ymarferol.
• Dangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol drwy ddealltwriaeth gadarn o gyfleoedd cyfartal, gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus a saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt;
Meini Prawf Dymunol:
Yn ogystal, bydd gan yr aelod annibynnol arbenigedd yn un o'r canlynol:
• Arbenigedd eang yn y sector tai neu mewn sector arall sy'n berthnasol i'r rhaglen Cefnogi Pobl, yn ogystal â dealltwriaeth o brofiad pobl sy'n defnyddio gwasanaethau Cefnogi Pobl.
• Arbenigedd mewn rheoli cyllid neu lywodraethu rhaglenni.
• Crebwyll busnes a'r gallu i ddadansoddi hynt y gwaith o ran sicrhau canlyniadau ac elw ar fuddsoddiad.
• Profiad o weithio ar lefel Bwrdd/swydd gyfrifol o fewn sefydliad yn y sector preifat, cyhoeddus neu'r trydydd sector, ynghyd â'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Gwneir y penodiadau ar sail y CV a’r datganiadau personol er, mewn amgylchiadau eithriadol, gall y panel dethol benderfynu eu bod yn dymuno cyfweld rhai ymgeiswyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl a rôl yr Aelod, cysylltwch â'r Gangen Digartrefedd a Chefnogi Pobl, Yr Is-adran Polisi Tai
Ffôn: 0300 062 8300/8258
E-bost:
Julie.woollard1@cymru.gsi.gov.uk
Sheilah.gaughan@cymru.gsi.gov.uk
Supportingpeople@cymru.gsi.gov.uk
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.