Swydd Wag -- Comisiynwyr - Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Manylion y swydd

Gwybodaeth i Ymgeiswyr
Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn debygol o gael eu cynnal yng Nghaerdydd yn bennaf, ond hefyd mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein drwy gynadleddau fideo. Efallai yr hoffech hefyd fynd i ddigwyddiadau’r Comisiwn a gynhelir drwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.
Penodir Comisiynwyr y Comisiwn drwy’r broses Penodiadau Cyhoeddus ac maent yn gwasanaethu’n wirfoddol ac yn ddi-dâl fel Cyfarwyddwyr anweithredol. Mae gan gomisiynwyr hawl i gostau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Comisiwn yn Gwmni Cyfyngedig Preifat sydd wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr ac mae’n is-gwmni sy’n cael ei reoli’n llwyr gan Lywodraeth Cymru. Y Comisiynwyr yw Cyfarwyddwyr y cwmni ac felly mae angen iddynt gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol perthnasol. Darperir cymorth a gwybodaeth yn hyn o beth gan y bwrdd ehangach a staff y Comisiwn.
2
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd y Comisiwn yn 2002 gan Lywodraeth Cymru fel corff cyhoeddus sy’n gweithio ledled Cymru i helpu i’w gwneud yn lle gwell.

Rôl y Comisiwn yw hyrwyddo dylunio da ar gyfer ein lleoedd, ein hadeiladau a’n mannau cyhoeddus, a sicrhau bod pawb yn cael gwybod am fanteision dylunio da.

Mae’r Comisiwn hefyd yn darparu Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau ar gyfer cynlluniau datblygu ledled Cymru, ac mae’r gwasanaeth hwnnw ar gael i bob awdurdod lleol ac i gleientiaid, datblygwyr a’r cyhoedd. Mae’n ymateb i gynigion datblygu yn nyddiau cynnar y cynigion hynny, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau hyfforddi a datblygu pwrpasol i awdurdodau lleol. Mae’r gwasanaethau hynny’n canolbwyntio ar fecanweithiau cynllunio a ffyrdd o gyflawni prosiectau ac ar feithrin ymwybyddiaeth ehangach o ddylunio.

Fel tîm, mae’r Comisiwn yn gweithio gyda chydweithwyr ym meysydd dylunio trefol, pensaernïaeth a dylunio tirwedd, peirianneg sifil, gwasanaethau adeiladu a’r proffesiynau amgylcheddol ehangach sydd â rhan yn y gwaith o lunio cefn gwlad, dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru. Mae’n mynd ati i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, â rhanddeiliaid mewn cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, cleientiaid a chyrff comisiynu, ym maes cynllunio, adfywio, ynni a seilwaith, i sicrhau bod y cymorth yr ydym yn ei gynnig ar gael ledled Cymru.

Mae’r Comisiwn yn dîm sydd â sylfaen wybodaeth eang ac sy’n gwerthfawrogi’r berthynas sydd ganddo â’r bwrdd; mae pob aelod o’r tîm yn rhoi cymorth ac arweiniad inni fod yn hyrwyddwyr brwd ar ddylunio da yng Nghymru ac i eiriol o’i blaid.

Disgrifiad o'r swydd

Fel Comisiynydd, byddwch yn eistedd ar Fwrdd y Comisiwn a bydd disgwyl ichi fod yn llysgennad ar ran y Comisiwn a’i waith. Byddwch yn awyddus i chwarae rhan mewn llywodraethu da ac yn dadlau o blaid pwysigrwydd dylunio da er mwyn creu amgylchedd adeiledig o ansawdd uchel yng Nghymru.

Byddwch yn ymdrechu i hyrwyddo’r Comisiwn, ei weithgareddau a’i anghenion ymhlith cynifer o unigolion a chyrff â phosibl er mwyn gwella proffil a phwrpas y sefydliad.

Mae pob Comisiynydd yn gyfrifol ar y cyd am gytuno ar gyfeiriad strategol y Comisiwn ac am weithredu er budd a llwyddiant y sefydliad.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Rydym am benodi unigolion a all ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol a ganlyn:


— Ymwybyddiaeth o arferion da wrth greu lleoedd a dylunio ac ymwybyddiaeth am bensaernïaeth dda yn yr amgylchedd adeiledig, a brwdfrydedd yn hynny o beth (ond nid fel ymarferydd o reidrwydd), a’r gallu i weithredu mewn maes rhyngddisgyblaethol;

— Diddordeb mewn eirioli, rheoli a llywodraethu, a’r gallu i wneud hynny;

— Sgiliau cyfathrebu da;

— Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb a chynhwysiant ac ymrwymiad iddyn nhw ac i herio arferion gwahaniaethol; a

— Dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus a’r gallu i weithredu yn unol ag Egwyddorion Nolan (https://www.gov.uk/government/ publications/the-7-principles-of-public-life), sy’n cynnwys arddel safonau uniondeb a gonestrwydd a’r gallu i arwain mewn swyddi cyhoeddus.


Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf dymunol a ganlyn:

— Gwybodaeth am lywodraethu corfforaethol, cyllid, darparu seilwaith a chyfraith eiddo; a

— Gwybodaeth am sectorau twf allweddol fel trafnidiaeth ac ynni.

Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni’r holl feini prawf dymunol, mae gennym ddiddordeb o hyd mewn clywed oddi wrthych, beth bynnag y bo’ch cefndir. Rydym am wybod sut y mae’ch diddordebau a’ch sgiliau o ran y gallu i gyfrannu at ein gwaith yn dod o brofiad yn eich bywyd gwaith, yn eich busnes eich hun, eich cymuned neu fel gwirfoddolwr.

Dyddiadau cyfweliadau

11 Ionawr 2021
15 Ionawr 2021

Dyddiad cau

09/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r: Tîm Penodiadau Cyhoeddus E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd gyda Chomisiwn Dylunio Cymru, cysylltwch â: Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Ffôn: 07779 802784 E-bost: connect@dcfw.org.

Stuart Ingram Llywodraeth Cymru Ffôn: 03000 255040 E-bost: Stuart.Ingram@llyw.cymru. 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch wrth ichi wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.