Swydd Wag -- Aelodau Annibynnol i Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

Manylion y swydd

Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae saith cyngor Iechyd Cymuned Lleol yng Nghymru. Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn goruchwylio Cynghorau Iechyd Cymuned lleol.
Nid oes tâl ynghlwm â swydd yr aelodau annibynnol, ond ar ôl eich penodi, gallwch hawlio treuliau ar gyfer teithio a chostau rhesymol eraill yn unol â pholisïau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.
4
mis

Rôl y corff

Cefndir

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn annibynnol a diduedd er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd cenedlaethol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru, a gwella hyn. Gwirfoddolwyr lleol yw aelodau’r Cynghorau, sy’n gweithredu fel llygaid a chlustiau cleifion a’r cyhoedd, gwrando ar farn pobl am y gwasanaeth iechyd, cynorthwyo pobl sy’n dymuno gwneud cwyn am y gwasanaeth iechyd a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.


Cynghorau Iechyd Cymuned - strwythur sefydliadol


Mae saith Cyngor o'r fath yng Nghymru, pob un yn gyfrifol am ardal ddaearyddol benodol. Mae'r ardaloedd daearyddol hyn yn cyd-fynd â'r saith Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am lunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn yr ardal honno (gweler atodiadau D ac E).


Caiff pob Cyngor ei gefnogi gan dîm bach o staff cyflogedig, yn ogystal ag aelodau awdurdod lleol, y trydydd sector a gwirfoddolwyr. Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn goruchwylio’r saith Cyngor.


Gyda’r Cynghorau’n cynrychioli lleisiau cleifion yn eu hardal leol, mae’r Bwrdd yn cynrychioli llais y cleifion a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Y Bwrdd sy’n gosod y safonau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r Cynghorau eu cyrraedd, ac mae’n rhaid iddo ddarparu cyngor, canllawiau a chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu perfformiad.


Mae Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru:

  • yn gwrando'n barhaus ar yr hyn sydd gan unigolion a'r gymuned i'w ddweud am eu GIG
  • yn llais i'r cyhoedd drwy hysbysu arweinwyr a rheolwyr y GIG am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut gellir gwella pethau
  • yn meithrin perthynas dda â gwasanaethau lleol y GIG
  • yn ymgynghori'n uniongyrchol â'r cyhoedd ynghylch materion penodol; a throsglwyddo barn y cyhoedd i'r GIG a Llywodraeth Cymru
  • yn rhoi help, cyngor a chymorth i bobl sydd am leisio pryder ynghylch gwasanaethau'r GIG.

 


Disgrifiad o'r swydd

Beth yw rôl yr aelod annibynnol?

Fel y mae’r daflen ffeithiau gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn ei ddisgrifio, rôl aelodau annibynnol yw gwneud cyfraniad creadigol i’r Bwrdd drwy roi beirniadaeth wrthrychol. Dylent gynnig barn annibynnol ar faterion megis strategaeth, perfformiad ac adnoddau, gan gynnwys safonau ymddygiad. Byddant yn canolbwyntio ar faterion y Bwrdd, ac nid ar sut y caiff y Cynghorau eu rhedeg o ddydd i ddydd.


Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn gyfrifol am y canlynol: 

  • cynghori a helpu Cynghorau Iechyd Cymuned unigol ar eu perfformiad
  • cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau Iechyd Cymuned wrth Weinidogion Cymru
  • gosod safonau i'r Cynghorau Iechyd Cymuned, fel y bo'r Bwrdd yn eu gweld yn briodol, mewn materion fel eiriolaeth ynghylch cwynion, craffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd a'r broses o ymgysylltu
  • monitro perfformiad Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn sicrhau safonau cyson ar draws pob un
  • gweithredu gweithdrefn gwyno
  • sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cyflawni mewn ffordd gyson, genedlaethol ar draws Cymru, gan ddilyn cynllun a gweithio'n drefnus.

 

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ar 17 Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned a'r Bwrdd â chorff Llais y Dinesydd newydd a fydd yn cynrychioli buddiannau dinasyddion ym meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y corff newydd yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan y Cynghorau Iechyd Cymuned, ac yn cryfhau llais y dinesydd yng Nghymru.

Bydd pontio o'r model Cynghorau Iechyd Cymuned presennol i'r corff Llais y Dinesydd newydd yn gyffrous ond yn heriol i Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned a'r mudiad ehangach. Un o brif rolau aelodau annibynnol y bwrdd fydd helpu i gefnogi Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a'r mudiad ehangach drwy gydol y cyfnod pontio.

Mae angen Deddf gan y Cynulliad i roi effaith i'r newid hwn. Bydd Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn bresennol y Cynulliad er mwyn dechrau ar y broses ofynnol.

Bydd disgwyl i'r aelod annibynnol wneud y canlynol:

 

  • chwarae rhan lawn a gweithredol yn nhrefn lywodraethu’r Bwrdd, a chynnig barn annibynnol ar faterion megis perfformiad, cynllunio ar gyfer y dyfodol ac atebolrwydd
  • cyfrannu at waith y Bwrdd ar sail eu hannibyniaeth, eu profiad blaenorol a’u gwybodaeth, a’u gallu i sefyll nôl oddi wrth reolaeth weithredol o ddydd i ddydd
  • cyfrannu at wneud penderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod gan y Bwrdd broses gydgysylltiedig, cadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau
  • deall, maes o law, waith y Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn perfformio’n effeithiol
  • gweithio’n agos gyda sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol eraill a gwneud yn siŵr bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu hystyried yn llawn wrth helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau
  • bod ar gael i baratoi ar gyfer cyfarfodydd, a’u mynychu
  • cydymffurfio â Chod Ymddygiad ar gyfer aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae’r Cod yn cynnwys materion megis gwerthoedd Cynghorau Iechyd Cymuned, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfleoedd cyfartal. Mae’n gymwys i Aelodau Annibynnol y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae dolen gyswllt isod:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/899/2019%20Code%20of%20Conduct%20Procedure%20welsh.pdf

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Bydd yr aelod annibynnol yn arddangos y rhinweddau canlynol:
 

Gwybodaeth /  Phrofiad (Hanfodol)

 

Y gallu i wneud y canlynol:

  • rhoi beirniadaeth wrthrychol i’r Bwrdd gan gadw barn annibynnol ar faterion megis perfformiad, cynllunio ar gyfer y dyfodol ac atebolrwydd
  • cymhathu, asesu a dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn
  • gweithio gyda Phrif Weithredwr y Cynghorau Iechyd Cymuned, Cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd i sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y Cynghorau Iechyd Cymuned yn effeithiol. Lle y bod angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi chi i ddal y Prif Weithredwyr i gyfrif am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol
  • cyfrannu at drefn lywodraethu’r Bwrdd, sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu’n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

  

Priodoleddau a Sgiliau Personol

 

  • arweinyddiaeth a hunan-ymwybyddiaeth, y gallu i ennyn parch a sylw
  • gonestrwydd, safonau moesegol uchel, barn gadarn a pharodrwydd i herio
  • y gallu i ddangos dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, hyrwyddo’r Bwrdd, drwy weithio’n agos gyda sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol eraill
  • y gallu i sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn chwarae rhan lawn wrth helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau
  • sgiliau rhyng-bersonol, gwrando a chyfathrebu da a’r gallu i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd a chyflogeion o fewn y Bwrdd
  • y sgiliau a’r gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill
  • dealltwriaeth o sut mae gwrthdaro yn digwydd a sut i ymdrin ag achosion o’r fath yn effeithiol ac mewn modd sensitive
  • y gallu i nodi problemau posibl ac ymdrin â risg
  • parodrwydd i groesawu newid ac arloesi ac awydd i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd

 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i’r canlynol:


Y Gymraeg

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Fodd bynnag, mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos eu bod yn deall natur ddwyieithog Cymru ac egwyddorion Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mwy na Geiriau.  Mae hyn yn cynnwys, yn benodol:

  • pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn y sector iechyd
  • peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg drwy egwyddor y cynnig rhagweithiol. 

Dyddiadau cyfweliadau

4 Medi 2019
4 Medi 2019

Dyddiad cau

04/07/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Nodwch, ,mae rhai pobl nad ydynt yn gymwys i fod yn aelod o’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Maent yn cynnwys:
 

  • Pobl sydd wedi eu cael yn euog o drosedd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac sydd wedi treulio cyfnod o 3 mis neu fwy yn y carchar (yn ddedfryd ohiriedig ai peidio)
  • Methdalwyr heb eu rhyddhau
  • Pobl sydd wedi'u diswyddo o waith cyflogedig gyda'r gwasanaeth iechyd (ar wahân i ddileu swydd) neu sydd wedi'u diswyddo o benodiad cyhoeddus yn y gwasanaeth iechyd 
  • Cadeiryddion, aelodau, cyfarwyddwyr neu weithwyr cyflogedig y gwasanaeth iechyd
  • Personau sy’n darparu gwasanaethau fel Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol, Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol, Fferyllwyr Cofrestredig, Optometryddion Cofrestredig neu Optegwyr Cyflenwi Cofrestredig, Bydwragedd neu Nyrsys Cofrestredig
  • Pobl sy'n ymgeisio i fod yn Aelod neu sydd eisoes yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin a/neu Senedd Ewrop 
  • Ni fyddai modd i aelod presennol o Gyngor Iechyd Cymuned barhau yn y rôl pe bai'n cael ei benodi yn aelod annibynnol y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.


Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr aelod annibynnol, cysylltwch â Phennaeth Profiad y Claf Llywodraeth Cymru: (  03000 253967 neu Rhian.williams5@llyw.cymru mailto: Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Thîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (manylion uchod).

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.