Swydd Wag -- Aelod Annibynnol Cyllid - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cynhelir cyfarfodydd yn Ystwyth, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3BB, ac mewn lleoliadau ar draws ardal ddaearyddol y Bwrdd Iechyd, sef Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r defnydd o gyfarfodydd o bell, gan ddefnyddio systemau digidol, wedi'i dreialu yn ystod y cyfnod COVID-19 ac mae wedi bod yn llwyddiannus.
£13,344 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd Prifysgol) sy'n cynllunio ac yn darparu holl wasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a'r siroedd cyffiniol, sef cyfanswm o tua 384,000 o bobl ar draws chwarter arwynebedd tir Cymru.

Mae'n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu drwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion, a safleoedd eraill.

Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol bedwar prif ysbyty sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd. Hefyd mae ganddo saith ysbyty cymunedol. Yn gwasanaethu'r boblogaeth mae 48 meddygfa, 46 practis deintyddol, 99 fferyllfa gymunedol, a 15 canolfan iechyd, ynghyd â nifer o leoliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu a gwasanaethau eraill perthnasol. Caiff y gwasanaethau arbenigol iawn a thrydyddol eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Mae gan y Bwrdd Iechyd drefniadau llywodraethiant a sicrwydd sy'n cael eu datblygu a'u cryfhau'n gyson. Mae cyfrifoldeb ar y Bwrdd i gynnal trefniadau llywodraethiant priodol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol ac yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, gan gydnabod yr angen i lywodraethu'r sefydliad yn effeithiol a thrwy wneud hynny godi hyder y cyhoedd a'r rhanddeiliaid. Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Dyma ran hanfodol o swyddogaeth y bwrdd er mwyn gwella perfformiad, sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar fuddiannau'r cleifion a chreu diwylliant sy'n helpu i sicrhau deialog agored.

Yn unol â gwerthoedd craidd y GIG yng Nghymru - a luniwyd i sicrhau llywodraethiant da a chyrraedd safonau gofal uchel (fel y gwelir yn e-lawlyfr llywodraethu'r GIG), mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gosod pwyslais sylweddol ar:

• Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth;
• Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd;
• Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoleb;
• Gweithio mewn Partneriaeth;
• Buddsoddi yn y staff.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau

Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:
• Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;
• Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
• Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
• Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, y trydydd sector a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau
• Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau bod y penderfyniadau'n agored ac yn dryloyw.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Bydd Aelodau Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:

Gwybodaeth a Phrofiad
• Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
• Y gallu i gyfrannu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd;
• Y gallu i sicrhau bod y swyddogion gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
• Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth.

Priodoleddau Personol a Sgiliau
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi diffinio set o werthoedd craidd cyffredin. I'ch helpu i ddangos eich ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn bydd angen ichi ddangos y canlynol:
• Y gallu i “Roi Cleifion yn Gyntaf”;
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill;
• Y gallu i werthfawrogi a pharchu eraill;
• Y gallu i gyfathrebu'n agored ac yn onest.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Hanfodol
• Sgiliau a gwybodaeth am systemau ariannol a rheolaeth ariannol mewn sefydliadau mawr;
• Dealltwriaeth o rôl Archwilio Ariannol a Llywodraethiant Ariannol;
• Y gallu i ddadansoddi ac adolygu Achosion Busnes yn feirniadol;
• Profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian;
• Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyllid ar lefel bwrdd strategol;
• Bod yn aelod cwbl gymwysedig o CCAB (Pwyllgor Ymgynghorol Cyrff Cyfrifyddu): ariannol: ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig); ICAEW (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr); ICAS (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban); CAI (Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon); CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth); neu CIMA (Sefydliad Siartredig Cyfrifon Rheoli).

Dyddiadau cyfweliadau

21 Rhagfyr 2020
11 Ionawr 2020

Dyddiad cau

30/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Aelod Annibynnol (Cyllid), cysylltwch â Maria Battle, Cadeirydd neu Joanne Wilson , Ysgrifennydd y Bwrdd:

Ffôn: 01267 239637
E-bost: maria.battle2@wales.nhs.uk neu joanne.wilson4@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.