Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_A3A0169D-395D-4039-9C71-1198920BA6CE~~

Manylion y swydd

Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Llundain neu leoliad arall
3
wythnos

Rôl y corff

Mae’r ASB yn adran Adran Anweinidogol y Llywodraeth annibynnol. Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr o ran bwyd.


Rydym yn rhoi sylw i ddiogelwch bwyd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi, o’r adeg y caiff ei gynhyrchu i’r adeg y caiff ei weini ar blât. Yn rhinwedd ein rôl fel yr awdurdod cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, rydym yn pennu’r rheoliadau y mae’n rhaid i fusnesau bwyd eu dilyn, ac yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i wneud yn siŵr bod y rheoliadau hynny’n cael eu gorfodi. Rydym am wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn ymddiried yn y bwyd y maent yn ei fwyta, ac felly rydym yn gweithio mewn ffordd agored a thryloyw, gan wneud yn siŵr bod iechyd a buddiannau defnyddwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud.

 

Mae’r ASB yn atebol i Senedd y DU, i Senedd Cymru ac i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Rydym yn cydweithio’n agos â’n cydweithwyr yn Safonau Bwyd yr Alban i ddarparu trefn reoleiddio gadarn a chydlynol i wneud yn siŵr bod defnyddwyr ar draws y DU yn gallu bod yn hyderus bod y safonau bwyd uchaf yn cael eu pennu a’u cynnal. I’n helpu i gyflawni’r nod hwn, mae gan yr adran swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain, Belffast, Caerefrog a Birmingham, ac mae’n cyflogi dros 1,300 o staff. Yn ogystal â chydweithio â phartneriaid amrywiol eraill yn y llywodraeth, gan gynnwys rhoi cyngor i Weinidogion ar draws y tair llywodraeth, rydym hefyd yn mynd ati i ymgysylltu’n rhyngwladol. Rydym yn sicrhau ein bod yn chwarae rôl bwysig yn y broses o bennu safonau rhyngwladol ac yn rhannu arferion gorau ag awdurdodau cymwys cenedlaethol eraill.

 

Fel yr awdurdod canolog ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym yn wynebu ystod fawr o heriau cymhleth sy’n ddibynnol ar amser. Bwyd a diod yw sector gweithgynhyrchu mwyaf y DU, a bu i’r sector bwyd-amaeth cyfan gyfrannu bron i £122 biliwn i’r gwerth ychwanegol gros (GVA) cenedlaethol yn 2017. Ar ben hyn, mae’r cyd-destun cenedlaethol a byd-eang y mae’r ASB yn gweithredu ynddo yn newid yn gyflym, ac mae angen i’r ASB barhau i esblygu er mwyn iddi ateb galwadau’r cyhoedd wrth iddynt newid. Ar adeg pan fo masnach fyd-eang ddynamig yn rhoi mwy o ddewis nag erioed o’r blaen i ddefnyddwyr y DU, arferion prynu newydd yn dod i’r amlwg, a dewisiadau deietegol yn newid, yn ogystal â’r angen i fynd i’r afael ag iechyd, llesiant a’r amgylchedd mewn ffordd gyfannol, rhaid i’r ASB barhau i fodloni disgwyliadau’r gymdeithas. Wrth iddi wneud hynny, rhaid i’r ASB fanteisio ar dechnolegau newydd a phrosesau sy’n cael eu llywio gan ddata er mwyn iddi fynd ati ar sail risg i bennu safonau ac i orfodi’r rheoliadau mewn dros 600,000 o fusnesau.

 

Un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r sector bwyd-amaeth yw’r cynnydd yn y posibilrwydd o weithgarwch anghyfreithlon drwy droseddau bwyd, a hynny oherwydd bod y cyd-destun rheoleiddiol yn newid yn gyflym. Mae’r ASB wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau dilysrwydd a tharddiad bwyd ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi drwy sefydlu’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd. Mae gan yr adran hefyd drefniadau i ymateb yn gyflym ac yn gadarn i ddigwyddiadau bwyd, a bu iddi ymchwilio i 2,323 o ddigwyddiadau bwyd, bwyd anifeiliaid a halogi amgylcheddol yn 2018/19 yn unig.

 

Uchelgais yr ASB yw iddi gael ei chydnabod, gartref a thramor, fel Rheoleiddiwr Modern Atebol Rhagorol. Pwrpas statudol yr ASB yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr o ran bwyd.

 

I wireddu hyn, mae’r ASB yn rhoi tair egwyddor graidd ar waith:

• Gweithredu er budd defnyddwyr;

• Bod yn agored ac yn dryloyw;

• Gwneud penderfyniadau a rhoi cyngor ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth.

 

Blaenoriaethau strategol yr ASB ar gyfer 2020/21 yw:

  • Ymadael â’r UE
  • Diwygio rheoleiddio
  • Gweithrediadau trawsnewid
  • Gorsensitifrwydd i fwyd
  • Cadw gwyliadwriaeth.

Ym mhob rhan o’n gwaith, mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud y pethau hyn:

 

• Datblygu ein gallu gwyddonol i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar gyngor gwyddonol cadarn a chyfredol, gan gynnwys mynd ati'n barhaus i sicrhau ein rhaglen dadansoddi risgiau

• Sicrhau bod gweithgareddau i reoleiddio diogelwch bwyd yn y DU yn cael eu moderneiddio er mwyn iddynt fod yn seiliedig ar risg, cael eu llywio gan ddata, a bod yn addas i’r diben

• Dod yn arweinydd byd-eang ym maes rheoleiddio diogelwch bwyd, drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth â sefydliadau â’r un meddylfryd ledled y byd

• Darbwyllo partneriaid masnach y DU o ansawdd ac effeithiolrwydd trefn rheoleiddio diogelwch bwyd y DU.

 

Cewch hyd i ystod eang o wybodaeth am waith yr ASB ar ein gwefan yn:

https://www.food.gov.uk/cy/amdanom-ni/pwy-ydym-ni  ac yn y llyfryn ‘Amdanom ni’:

(Fersiwn Gymraeg)​ 
(Fersiwn Saesneg)


 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau’r Cadeirydd

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn uniongyrchol atebol i Senedd y Deyrnas Unedig (DU), drwy Bwyllgorau Dethol, ac – ar lawr dau Dŷ Senedd y DU, Senedd Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon – drwy’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gweinidogion Iechyd Cymru a Gogledd Iwerddon.

 

Bydd disgwyl i’r Cadeirydd arwain a herio’r sefydliad drwy gyflawni’r cyfrifoldebau a ganlyn:

 

  • Cydweithio â’r Bwrdd a’r Prif Weithredwr i bennu trywydd strategol yr ASB, gan sicrhau bod yr adran yn parhau i fynd ati’n effeithiol iawn i ddiogelu iechyd y cyhoedd, i ddiogelu buddiannau ehangach defnyddwyr o ran bwyd, ac i wireddu’r genhadaeth o ran “bwyd y gallwn ymddiried ynddo”. Ar yr un pryd, bydd yn cydnabod bod angen rheoleiddio mewn ffordd gymesur a sicrhau cydbwysedd rhwng risg a’r rhyddid i wneud dewisiadau
  • Hyrwyddo gwerthoedd craidd yr ASB, sef rhoi defnyddwyr yn gyntaf, gwneud penderfyniadau ar sail gwyddoniaeth a thystiolaeth, bod yn annibynnol ar fuddiannau gwleidyddol a buddiannau sectorau penodol, a gweithredu mewn ffordd dryloyw ac agored
  • Rhoi arweiniad i’r Bwrdd er mwyn iddo gyflawni'n llwyr ei gyfrifoldebau strategol a’i gyfrifoldebau o ran llywodraethu a sicrwydd fel adran anweinidogol, gan gynnwys craffu ar waith y tîm gweithredol a’i gefnogi
  • Sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i recriwtio, sefydlu, datblygu a rheoli perfformiad y Cyfarwyddwyr Anweithredol, y Prif Weithredwr, y Prif Gynghorydd Gwyddonol a Chadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth. Meithrin a chynnal perthynas waith gefnogol â’r Prif Weithredwr a’r Prif Gynghorydd Gwyddonol
  • Arwain perthynas waith agos â’r Gweinidogion iechyd a bwyd yn y tair gwlad, ynghyd â Chadeirydd Safonau Bwyd yr Alban, gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol i gefnogi’r broses o roi polisïau safonau bwyd y DU ar waith
  • Arwain perthynas waith effeithiol â’r awdurdodau lleol i helpu i sicrhau bod bwyd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn onest, gan ddefnyddio pwerau’r ASB o dan y Ddeddf Safonau Bwyd i oruchwylio’r camau a gymerir gan yr awdurdodau lleol i orfodi’r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, ac i ddylanwadu arnynt
  • Arwain y berthynas rhwng y sefydliad a rhanddeiliaid fel uwch-ffigurau mewn diwydiant ac ym meysydd gwyddoniaeth a defnyddwyr, yn ogystal â Seneddwyr, gan osod y naws ar gyfer perthynas waith ragorol, a chynrychioli’r ASB mewn cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus
  • Cynrychioli’r ASB yn effeithiol ar y cyfryngau, ac mewn cyfarfodydd, cynadleddau a fforymau cyhoeddus eraill, p’run a yw’n trafod buddiannau strategol defnyddwyr o ran bwyd, neu’n ymdrin â phryderon penodol uchel eu proffil o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Dyddiadau cyfweliadau

22 Chwefror 2021
22 Chwefror 2021

Dyddiad cau

25/01/21 12:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

Penodir y Cadeirydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidogion priodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac mae’n atebol i’r Gweinidogion drwy uwch-swyddog adrannol am gyflawni ei (d)dyletswyddau ac am ei berfformiad/pherfformiad.

I gael mwy o wybodaeth am rôl yr ASB a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

Enw: Dr David Self – Pennaeth y Swyddfa Breifat

Ffôn: 07984 883451

E-bost: David.Self@food.gov.uk

neu

Enw: Emily Miles – Prif Weithredwr

E-bost: Emily.Miles@food.gov.uk

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.