Swydd Wag -- Aelod Annibynnol Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) sy'n cynllunio ac yn darparu holl wasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a'r siroedd cyffiniol, sef cyfanswm o tua 384,000 o bobl ar draws chwarter arwynebedd tir Cymru.
Mae'n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu drwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion, a safleoedd eraill.
Mae gan y Bwrdd Iechyd bedwar prif ysbyty sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd. Hefyd mae ganddo saith ysbyty cymunedol. Yn gwasanaethu'r boblogaeth mae 54 meddygfa, 48 practis deintyddol, 99 fferyllfa gymunedol, 56 optegydd ac 11 canolfan iechyd, ynghyd â nifer o leoliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu a gwasanaethau eraill perthnasol. Caiff y gwasanaethau arbenigol iawn a thrydyddol eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Mae gan y Bwrdd Iechyd drefniadau llywodraethiant a sicrwydd sy'n cael eu datblygu a'u cryfhau'n gyson. Mae cyfrifoldeb ar y Bwrdd i gynnal trefniadau llywodraethiant priodol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol ac yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, gan gydnabod yr angen i lywodraethu'r sefydliad yn effeithiol a thrwy wneud hynny godi hyder y cyhoedd a'r rhanddeiliaid. Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Dyma ran hanfodol o swyddogaeth y bwrdd er mwyn gwella perfformiad, sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar fuddiannau'r cleifion a chreu diwylliant sy'n helpu i sicrhau deialog agored.
Yn unol â gwerthoedd craidd y GIG yng Nghymru - a luniwyd i sicrhau llywodraethiant da a chyrraedd safonau gofal uchel (fel y gwelir yn e-lawlyfr llywodraethu'r GIG), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gosod pwyslais sylweddol ar:
Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth
Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd
Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb
Gweithio mewn Partneriaeth
Buddsoddi yn y staff
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:-
Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd.
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.
Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn.
Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd Aelodau Annibynnol yn dangos y rhinweddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd.
Y gallu i gyfrannu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd.
Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd.
Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth.
Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee y Ddeddf Diogelu Data.
Priodoleddau Personol a Sgiliau
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi diffinio set o werthoedd craidd cyffredin.
I'ch helpu i ddangos eich ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn bydd angen ichi ddangos y canlynol:
Y gallu i “Roi Cleifion yn Gyntaf”
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill
Y gallu i werthfawrogi a pharchu eraill
Y gallu i gyfathrebu'n agored ac yn onest.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Meini Prawf Penodol i'r Rôl
Aelod Annibynnol - Cyfathrebu, Gwybodaeth a Thechnoleg:
Bydd angen ichi ddangos eich bod yn:
Deall sut y mae rheoli gwybodaeth a thechnoleg ddigidol yn gallu helpu i wella iechyd a gofal cymdeithasol
Deall sut y mae modd defnyddio gwybodaeth a data i gefnogi'r gwaith o gyflawni gofal cymdeithasol ac iechyd diogel o ansawdd uchel
Meddu ar ddealltwriaeth o lywodraethu gwybodaeth mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch ac uniondeb a defnyddio gwybodaeth yn effeithiol
Meddu ar y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu ar lefel bwrdd strategol
Meddu ar brofiad o ddefnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel
Enghreifftiau yn unig yw'r rhain ac ni fwriedir iddynt fod yn hollgynhwysfawr. Gellir trafod rhagor o wybodaeth gyda Chadeirydd y Bwrdd Iechyd
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus: PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol TGCh, cysylltwch â Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ffôn: 01267 239637 E-bost: Judith.Hardisty@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.hywelddalhb.wales.nhs.uk/ neu cysylltwch ag Ysgrifennydd Bwrdd y Bwrdd Iechyd ar 01267 239644 neu drwy joanne.wilson4@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.