Swydd Wag -- Cadeirydd - Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru

Manylion y swydd

Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru
Mae cyfarfodydd CCDG, a gynhelir bob chwarter, yn cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd. Pan fydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn gallu ailddechrau, cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliadau ledled Cymru a'r disgwyl yw y bydd aelodau'r Bwrdd yn ymgysylltu â'u dyletswyddau ar sail Cymru gyfan. Fel rhan o addasiad rhesymol, rhoddir ystyriaeth i geisiadau am aelodau sy'n dymuno parhau i gyfrannu o bell.

Telir £337 y dydd am y swydd ar gyfer mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill y cytunwyd arnynt sy'n ymwneud â gwaith Gyrfa Cymru. Telir hyn hyd at uchafswm ymrwymiad o 40 diwrnod y flwyddyn. Gwneir y taliad drwy system gyflogres Gyrfa Cymru.

 
Ystyrir yr aelodau yn ddeiliaid swyddi at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, codir treth incwm ar y ffïoedd sy'n daladwy a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Tynnir symiau Talu Wrth Ennill (PAYE) drwy system gyflogres Gyrfa Cymru a chaiff y ffi net ei thalu i ddeiliad y swydd. Ni fydd yn rhaid talu TAW ar y ffioedd. 

 

Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth sy'n codi yn sgil mynd i gyfarfodydd CCDG neu ar ymweliadau ar ran CCDG eu had-dalu gan CCDG ei hun yn unol â'r gyfradd a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn perthynas ag aelodau Pwyllgorau'r Llywodraeth. I hawlio ad-daliad, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth CCDG. Mae'n bosibl y telir costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill, os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol a fydd yn codi'n uniongyrchol o wneud gwaith i CCDG.

40
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru a ffurfiwyd ar 1 Ebrill 2013. Enw masnachol y cwmni yw Gyrfa Cymru, ac mae'n darparu gwasanaethau amrywiol sy'n integreiddio'r defnydd o dechnolegau digidol ochr yn ochr â chyfryngau wyneb yn wyneb mwy traddodiadol. Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, sy'n ddiduedd ac yn ddwyieithog, i bobl o bob oed yng Nghymru.

 

Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

 

Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Gyrfa Cymru eu Gweledigaeth pum mlynedd, 'Dyfodol Disglair’. Uchelgais Dyfodol Disglair yw creu dyfodol mwy disglair i bob person ifanc ac oedolyn yng Nghymru. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn mae Gyrfa Cymru wedi datblygu pedwar nod strategol:

  • Darparu gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru.

  • Datblygu ei waith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion sgiliau a’u cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion

  • Cefnogi'r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni ei bedwar diben ar gyfer dysgwyr.

  • Datblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol ac ystwyth yn Gyrfa Cymru a’i alluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid

 

Ariennir eu gwaith sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg drwy eu grant Gyrfa Cymru craidd. Mae gan Gyrfa Cymru gyllideb o £18.8m o gyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Caiff eu gwaith i gefnogi’r rhai nad ydynt bellach mewn addysg ei ddarparu drwy eu Gwasanaethau Cymru'n Gweithio, a chaiff y gwaith hwn ei ariannu ar wahân.

Disgrifiad o'r swydd

Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog yr Economi a gall Senedd Cymru hefyd ei dwyn i gyfrif. Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu'r Bwrdd yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod materion y Cwmni yn cael eu cynnal gydag uniondeb.


Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau arwain penodol dros:

  • Lunio strategaethau'r Bwrdd.
  • Dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser.
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion rheoli statudol ac ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru.
  • Hyrwyddo'r defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill.
  • Sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra, priodoldeb a llywodraethu.
  • Cynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd.


Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:

  • Sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
  • Sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion rheoli ariannol ac adrodd cyrff y sector cyhoeddus ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
  • Asesu perfformiad aelodau unigol o'r Bwrdd yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth.
  • Sicrhau bod Cod Ymddygiad ar waith ar gyfer aelodau'r Bwrdd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Mae CCDG yn chwilio am Gadeirydd newydd i'r Bwrdd sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws amrediad o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol. 

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.


Meini prawf hanfodol

  • Hanes profedig o gyflawniad yn y sector preifat / cyhoeddus / cymunedol / gwirfoddol, gyda’r gallu i lunio barn gadarn a strategol.
  • Dealltwriaeth o'r berthynas ddeinamig rhwng polisïau'r llywodraeth a darparu darpariaeth gyrfaoedd ar lawr gwlad.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
  • Dealltwriaeth gadarn o gyllid a llywodraethu corfforaethol.
  • Hanes profedig o feithrin cydberthnasau ag amrywiaeth o randdeiliaid a sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i egluro materion cymhleth yn glir ac yn gryno, tra'n dangos parch at farn pobl eraill.
  • Sgiliau rhyngbersonol, dylanwadol a negodi cryf, gyda'r gallu i herio a llunio barn gadarn yn adeiladol wrth wneud penderfyniadau strategol.
  • Dealltwriaeth a ddangoswyd o egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, ac ymrwymiad iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

15 Tachwedd 2021
16 Tachwedd 2021

Dyddiad cau

20/09/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus / Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd CCDG a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â: sam.evans@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru  

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.