Swydd Wag -- Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Tŷ Glasbury, Bronllys, Aberhonddu
£34,788 y flwyddyn yn ogystal â chostau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol
13
mis

Rôl y corff

Powys yw un o'r siroedd mwyaf gwledig yn y DU. Er bod y sir tua 25% o dir Cymru, dim ond 5% o'r boblogaeth sydd ganddi. Mae'r boblogaeth ym Mhowys yn hŷn o'i chymharu â gweddill Cymru ac mae cyfran y bobl hŷn yn tyfu.  Mae'r boblogaeth oedolion o oedran gweithio yn llai o gymharu â Chymru a rhagwelir y bydd nifer y bobl ifanc ac oedolion o oedran gweithio yn gostwng, tra bydd nifer y bobl hŷn yn cynyddu. Rhagwelir y bydd gostyngiad o 8% ym mhoblogaeth Powys erbyn 2039.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gomisiynydd ac yn ddarparwr gofal iechyd uniongyrchol, ac yn wahanol i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru mewn perthynas â chyfran y gwasanaethau a ddarperir i'r boblogaeth gan ddarparwyr gofal iechyd eraill. Mae cyllideb y bwrdd iechyd tua £300m. Mae 50% yn cael ei wario ar ofal eilaidd ac arbenigol, mae 20% yn cael ei wario ar ofal sylfaenol a 30% ar wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol. Darperir y gwasanaethau uniongyrchol drwy rwydwaith o wasanaethau cymunedol ac ysbytai cymunedol sy'n cynnwys iechyd meddwl, anableddau dysgu, mamolaeth a gwasanaethau plant.  Darperir gofal ym. Mhowys hefyd drwy gontractwyr gofal sylfaenol fel Practisiau Cyffredinol, Practisau Deintyddol, Fferyllwyr ac Optometryddion, yn ogystal â'r Trydydd Sector. Darperir hefyd ystod gynyddol o sesiynau cleifion allanol, theatr ddydd a diagnosteg sy'n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nyrsys a therapi mewn cyfleusterau cymunedol, gan ddod â gofal yn nes i Bowys ei hun ac yn nes at gymunedau a chartrefi pobl.

O ran comisiynu, mae rhai nodweddion unigryw sy'n pennu cyd-destun Powys. Gan ei bod yn sir gwbl wledig heb unrhyw ganolfannau trefol mawr a dim ysbytai cyffredinol acíwt, rhaid i bobl ym Mhowys deithio y tu allan i'r sir am lawer o wasanaethau, gan gynnwys gofal iechyd eilaidd ac arbenigol, addysg uwch, cyflogaeth a hamdden. 

Diben Byrddau'r GIG yw llywodraethu'n effeithiol ac, wrth wneud hynny, ennyn hyder y cyhoedd a rhanddeiliaid bod eu hiechyd a'u gofal iechyd mewn dwylo diogel. Cyflawnir yr atebolrwydd sylfaenol hwn i'r cyhoedd a rhanddeiliaid drwy feithrin hyder: 
•    O ran ansawdd a diogelwch gwasanaethau iechyd. 
•    Bod adnoddau’n cael eu buddsoddi mewn ffordd sy'n sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl.
•    O ran hygyrchedd ac ymatebolrwydd gwasanaethau iechyd. 
•    Y gall y cyhoedd ddylanwadau ar wasanaethau iechyd yn briodol i ddiwallu eu hanghenion.
•    Y caiff arian cyhoeddus ei wario mewn ffordd sy'n effeithlon ac sy'n rhoi gwerth am arian. 
Y tair rôl allweddol y mae'r Bwrdd yn dangos arweiniad o fewn y sefydliad drwyddynt yw: 
•    Llunio strategaeth 
•    Sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y sefydliad i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy. 
•    Llywio diwylliant cadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad.

Disgrifiad o'r swydd

Mae’r rôl hon yn gyfle gwych i’r ymgeisydd llwyddiannus ddefnyddio ei sgiliau a'i brofiad i wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl a’r cymunedau y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn eu gwasanaethu. Bydd yr Is-gadeirydd yn aelod o’r Bwrdd ac yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd yn ei absenoldeb.

Rôl a chyfrifoldebau

Bydd yr Is-gadeirydd yn:- 

•    Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. A bydd disgwyl iddo gynnig barn annibynnol i’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud â pherfformiad, penodiadau allweddol, edrych tua’r dyfodol ac atebolrwydd; 
•    Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o waith rheoli beunyddiol y sefydliad;
•    Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau proses gydgysylltiedig, cadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau ar ran y Bwrdd;
•    Dod, ymhen amser, i ddeall gwaith y Bwrdd Iechyd yn llawn drwy gymryd rhan weithredol mewn pwyllgorau allweddol, er mwyn galluogi'r Bwrdd i weithredu'n effeithiol;
•    Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;

Yn ogystal â’i rôl gorfforaethol ar draws cyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd, bydd gan yr Is-gadeirydd frîff penodol i oruchwylio gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl y Bwrdd Iechyd gan sicrhau model o ofal cytbwys i ddiwallu anghenion poblogaeth Powys. Bydd yr Is-gadeirydd yn:

•    Arwain yn gryf, yn effeithiol ac yn amlwg ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl; yn fewnol drwy’r Bwrdd a’i bwyllgorau, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid o fewn y gymuned ehangach neu o fewn Powys ac yn genedlaethol;
•    Cyflawni rôl “Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc”, fel un o ofynion Deddf Plant 2004;
•    Cadeirio Pwyllgor Profiad, Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd sy’n goruchwylio pob agwedd ar ansawdd, diogelwch a phrofiad, a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a chodau ymarfer cysylltiedig;
•    Goruchwylio perfformiad y Bwrdd Iechyd wrth gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl gan sicrhau model o ofal cytbwys i ddiwallu anghenion poblogaeth Powys;
•    Gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid cymunedol, yn enwedig o fewn eu cylch o gyfrifoldebau ac, yn ehangach, cefnogi’r Cadeirydd i sicrhau bod y diwylliant sefydliadol a’r arferion gwaith yn seiliedig ar bartneriaethau agored, ystyrlon a chynaliadwy.  Bydd gan yr Is-gadeirydd sgiliau cyfathrebu gwych, a bydd, drwy graffu’n effeithiol, yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod y strwythurau sefydliadol yn rhoi yr un pwyslais ar wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl ag y mae ar wasanaethau eraill ac yn rhoi cyfleoedd i wasanaethau contractwyr fod yn rhan lawn o’r gwaith o ddylunio gwasanaethau;
•    Cefnogi prosesau rheoli perfformiad y Bwrdd Iechyd, er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei reoli a’i wella mewn modd integredig;
•    Helpu i feithrin a chynnal perthynas uniongyrchol gyda chontractwyr gofal sylfaenol proffesiynol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn yng ngwaith y Bwrdd Iechyd;
•    Ymgymryd â rôl llysgennad allanol, wrth gynrychioli’r Cadeirydd, gan weithio yn llygad y cyhoedd a meithrin hyder ymhlith y cyhoedd;
•    Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol un o elusennau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Penodol i'r Rôl

Bydd angen ichi ddangos:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
•    Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn yr ardal y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei gwasanaethu;
•    Y gallu i weithio gyda’r aelodau gweithredol i sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle y bo angen, dangos y sgiliau a fydd yn dwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
•    Profiad o arwain a datblygu sefydliad llwyddiannus yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, a’r gallu i edrych tua’r dyfodol ac arwain yn strategol;
•    Profiad o weithio o fewn cymunedau a thimau aml-ddisgyblaethol.

Nodweddion Personol a Sgiliau
•    Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, i edrych tua’r dyfodol a nodi materion allweddol ar gyfer y sefydliad;
•    Sgiliau rhyng-bersonol cryf, y gallu i gael effaith bersonol, a’r hygrededd i fod yn eiriolwr ac yn llysgennad effeithiol gyda sgiliau dylanwadu a negodi cryf;
•    Y gallu i ymgymryd â rôl yr Is-gadeirydd yng nghyd-destun cyfrifoldebau statudol a chorfforaethol ehangach y Bwrdd a rolau’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:-

•    Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a herio arferion sy’n gwahaniaethu;
•    Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

15 Rhagfyr 2021
15 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

01/11/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a rôl yr Is-gadeirydd, cysylltwch â’r Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar:

Ffôn: 01874 712643

E-bost: vivienne.harpwood@wales.nhs.uk  

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.