Swydd Wag -- Cadeirydd - Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan

Manylion y swydd

Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan
Yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd y cynhelir cyfarfodydd y Grŵp fel rheol. Yn yr amgylchedd presennol, mae cyfarfodydd wedi’u cynnal yn rhithiol drwy Microsoft Teams.
Mae'r swydd hon yn ddigyflog ond bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i gael tâl cydnabyddiaeth o £337 y dydd. Gellir hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill (gan gynnwys costau meddygon locwm) sy'n codi wrth gyflawni 
gwaith ar ran y Grŵp o fewn y terfynau cydnabyddedig. Gallech hefyd fod yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau yn gysylltiedig â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra byddwch yn gweithio ar ran y Grŵp.
30
blwyddyn

Rôl y corff

Cefndir 

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a sefydlwyd yn 2002 yn bwyllgor cynghori gwyddonol anstatudol sy'n rhoi cyngor i Weinidogion Cymru mewn modd effeithiol, effeithlon a thryloyw ar bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau'n 
strategol. 

Mae proses arfarnu’r Grŵp, a gydnabyddir gan Gynllun Achredu Tystiolaeth y GIG, yn rhoi hawl i gleifion yng Nghymru gael mynediad i feddyginiaethau fel mater o drefn, a hynny cyn i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal
(NICE) eu gwerthuso. 

Rôl y Pwyllgor

Mae'r Grŵp yn dwyn ynghyd banel o arbenigwyr gan gynnwys meddygon, fferyllwyr a staff gofal iechyd arall y gwasanaeth iechyd, yn ogystal ag academyddion gofal iechyd, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr o'r diwydiant, eiriolwyr cleifion a
chynrychiolwyr lleyg eraill er mwyn dod i benderfyniad ynghylch defnyddio meddyginiaethau newydd yn y GIG yng Nghymru. Mae'n datblygu polisïau sy'n hyrwyddo'r defnydd gorau o feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru. Mae'r penderfyniadau
hyn yn effeithio ar faterion rheoli meddyginiaethau yn y sector gofal sylfaenol ac eilaidd. Prif flaenoriaethau'r Grŵp yw: 

- Cynghori Gweinidogion Cymru ar dechnolegau newydd a rheoli meddyginiaethau er mwyn gallu cynllunio'n strategol; 

- Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd ac ar y goblygiadau o ran cost o sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael fel mater o drefn; a

- Cynghori Llywodraeth Cymru ar y gwaith o ddatblygu strategaeth feddyginiaeth gyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n effeithiol o ran cost ar gyfer Cymru. 

Caiff gwaith y Grŵp ei gynllunio drwy Bwyllgor Llywio Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Mae'r pwyllgor hwn yn blaenoriaethu rhaglen waith y Grŵp i sicrhau y caiff ei adnoddau eu defnyddio'n effeithlon. Mae'r Grŵp yn gweithio'n agos gyda NICE i ategu rhaglen Werthuso Technoleg Iechyd NICE.  Mae holl gyfarfodydd y Grŵp ar agor i'r cyhoedd.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd a benodir yn: 

- Chwarae rhan allweddol wrth lunio'r agenda rheoli meddyginiaethau yng Nghymru, a gweithredu strategaeth bresgripsiynu’r Grŵp;

- Darparu cyfeiriad strategol i'r GIG yng Nghymru a'r holl randdeiliaid allweddol;

- Chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod gwaith Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn helpu'r Pwyllgor a GIG Cymru i gyflawni eu hamcanion strategol;

- Chwarae rhan hollbwysig i ddatblygu partneriaethau arloesol sydd o fudd i gleifion;

- Sicrhau'r canlyniadau gorau o'r defnydd o feddyginiaethau yng Nghymru;

- Cadeirio hyd at ddeg cyfarfod o'r Grŵp bob blwyddyn, a bod yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Grŵp sy'n cwrdd bob mis; a

- Cyfrifol am benodi ac arfarnu aelodau'r Grŵp Llywio.

Agweddau eraill ar y rôl:

- Cyfarfodydd rheolaidd gyda sefydliadau rhanddeiliaid allweddol e.e. ABPI Cymru, Penaethiaid Fferylliaeth, Technoleg Iechyd Cymru, NICE;

- Cyswllt bob deufis â swyddogion Llywodraeth Cymru;

- Cyswllt rheolaidd â Phennaeth Fferylliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – fel rheolwr llinell staff Canolfan Therapiwteg a Tocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC).*

* Mae AWTTC yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth, fferyllol, clinigol ac economeg
iechyd i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, ei is-grwpiau a GIG 
Cymru i gyflawni eu hamcanion strategol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad. Yn ogystal, rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o'r priodoleddau a'r sgiliau personol fel y 
rhestrir isod.

Prawf sy’n Hanfodol

- Gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut mae'n gweithredu yng Nghymru, ynghyd â diddordeb ynddo a gwybodaeth fanwl am faterion fferyllol sy'n effeithio ar gleifion; 

- Y gallu i gyfathrebu'n argyhoeddiadol, a'r gallu i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol a chefnogi datblygiad pwyllgorau;

- Tystiolaeth o sgiliau arwain cryf, effeithiol ac amlwg;

- Y gallu i arddangos arweinyddiaeth gynhwysol ynghyd â dealltwriaeth glir o faterion amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt;

- Dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus a phwysigrwydd meithrin cysylltiadau â chleifion a'r cyhoedd; 

- Hanes o lwyddiant neu o gyflawni yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat. 

Priodoleddau a Sgiliau Personol

- Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli staff;

- Sgiliau cyfathrebu da;

- Ymgysylltu â staff a chynrychiolwyr staff ar bob lefel o fewn y sefydliad;a

- Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr.

Y Gymraeg
 
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer rôl y Cadeirydd.

Dyddiadau cyfweliadau

6 Medi 2021
7 Medi 2021

Dyddiad cau

12/07/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Enwau Cyswllt: 

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a 
rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Darren Ormond:

Ffôn: 02920825621
E-bost: darren.ormond@llyw.cymru

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â 
penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
www.llyw.wales/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Datganiadau personol

Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut yr ydych yn bodloni pob un o’r meini prawf a nodir ym manyleb y person. Gofynnir i chi gyflwyno dau ddatganiad personol ar gyfer y penodiad hwn, un ar gyfer plant a phobl ifanc ac un ar gyfer oedolion. Bydd y ddau ddatganiad yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses benodi.

Cewch chi benderfynu sut i gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut y mae eich gwybodaeth a'ch profiadau yn cyd-fynd â phob maen prawf, ac sy'n disgrifio eich rôl chi wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.

Yn eich datganiad personol ar gyfer plant a phobl ifanc, bydd angen i chi ddarparu enghreifftiau manwl o hyd sy'n dangos sut mae eich gwybodaeth a'ch profiad yn cyd-fynd â phob un o'r meini prawf ond dylech ei ysgrifennu yn y fath fodd fel y gall plant a phobl ifanc ei ddeall yn hawdd. Efallai y byddwch hefyd am adlewyrchu’r tair blaenoriaeth ar gyfer y Comisiynydd nesaf a ddarperir gan blant a phobl ifanc ar dudalen 4.

Ni ddylai'r datganiad personol fod yn hwy na 2 dudalen. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn.

 

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf a'ch dyddiadau yn y swydd hon.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.