Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Pencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, 3 Tŷ Ynysmeurig, Parc Navigation , Abercynon, CF45 4SN
£59,760  (adolygiad yn yr arfaeth) ynghyd â chostau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau rhesymol. 
15
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019, ac mae'n darparu ac yn comisiynu ystod lawn o wasanaethau ysbyty, cymunedol a gwasanaethau iechyd y boblogaeth i drigolion Rhondda, Taf Elái, Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Pen-y-bont ar Ogwr Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol (meddygfeydd teulu, deintyddion, optometryddion a fferyllwyr cymunedol) a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd a thimau iechyd cymunedol.  Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy arbenigol lle na ddarperir y rhain o fewn ffin y Bwrdd Iechyd. 

Mae poblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys rhyw 450,000 o bobl, gan gynnwys Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Gyda thua 12,000 o staff, mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal (10,500 o staff cyfwerth ag amser llawn). Mae nifer sylweddol o'n gweithlu yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn. Ceir gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a'n cyfleusterau ar ein . Mae'r Bwrdd Iechyd yn adrodd yn rheolaidd ar ei berfformiad gan gynnwys Targedau'r Fframwaith Cyflawni a bennwyd gan Lywodraeth Cymru sydd i'w gweld yno hefyd.

Yn ystod 2020, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Fodel Gweithredu newydd sy'n nodi sut y trefnir y Bwrdd Iechyd i gefnogi cadw pobl yn iach a gofalu am ein poblogaeth yn y ffordd orau.  Mae hyn wedi arwain at greu tri Grŵp Ardal Integredig (ILGs) sy'n cwmpasu'r boblogaeth y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei gwasanaethu. Mae'r ardaloedd hyn, sy'n cael eu harwain yn glinigol, bellach yn galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn  agosach at y dinasyddion hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau Cwm Taf Morgannwg ac felly'n cael eu teilwra'n well i anghenion y boblogaeth leol. Mae'r ffordd newydd hon o weithio wedi grymuso staff ac wedi darparu cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth a chyfranogiad wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau o safon, gan ganolbwyntio ar iechyd y boblogaeth.

Ym mis Ebrill 2019, cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei roi mewn 'Mesurau Arbennig' ar gyfer Mamolaeth ac 'Ymyrraeth wedi'i Thargedu' ar gyfer Ymddiriedaeth a Hyder, Arweinyddiaeth a Diwylliant ac Ansawdd a Llywodraethu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i wella gwasanaethau, a hynny trwy ddysgu gwersi ac mae wedi ymrwymo i wella'n barhaus gan weithio gyda staff, cleifion a theuluoedd a phartneriaid eraill ar draws cymuned Cwm Taf Morgannwg.

Mae ymgysylltu helaeth â staff, sefydliadau partner a'n cymunedau lleol wedi helpu'r Bwrdd Iechyd i ddechrau'r daith i drawsnewid diwylliant sefydliadol i un sy'n seiliedig ar set glir a chyffredin o werthoedd ac ymddygiadau.  

Mae'r Bwrdd Iechyd wrthi'n datblygu ei strategaeth fel sefydliad i ganolbwyntio'n wirioneddol ar sut y gallant wella iechyd a llesiant eu poblogaeth yn ogystal â sicrhau eu bod yn parhau i wella canlyniadau a darparu'r gwasanaethau gorau o ansawdd uchel i gymunedau lleol.     

Y Gwasanaethau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn eu cynnal:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am gynnal y sefydliadau canlynol ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru:

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gyda'r canlynol:

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys cyrff iechyd eraill, awdurdodau lleol, y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub a'r sector gwirfoddol/elusennol.

     

    Rôl y Bwrdd:

    Mae pob un o aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Mae'r Bwrdd, sy'n cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, 9 Aelod Annibynnol, 3 Aelod Cyswllt, y Prif Weithredwr ac 8 Cyfarwyddwr Gweithredol yn darparu arweiniad a chyfeiriad, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith.

    Disgrifiad o'r swydd

    Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethiant effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled ardal y Bwrdd Iechyd. 

    Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

    • Yn arwain y Bwrdd wrth iddo ddatblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn y dyfodol, gan wireddu’r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad a’u datblygu i greu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf sydd a’r nod o wella llesiant a chanlyniadau’r boblogaeth 
    • Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid yn y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol 
    • Yn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni’n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a thrwy sicrhau llywodraethiant da;  
    • Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd; 
    • Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
    • Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau; 
    • Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig contractwyr gofal sylfaenol a chyrff eraill y GIG, Prifysgolion, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu gyda’r nod o wella canlyniadau i’r boblogaeth;
    • Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt; 
    • Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau trefn agored a thryloyw;
    • Yn mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd

    Sgiliau yn y Gymraeg

    Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
    Dymunol
    Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
    Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
    Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
    Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

    Manyleb y person


    Meini Prawf Hanfodol

    Meini Prawf Hanfodol

    Gwybodaeth a Phrofiad

    •  
    • Y gallu i feithrin gweledigaeth ac arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau diffiniedig wrth geisio cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;
    • Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
    • Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;
    • Y gallu i ysgogi a datblygu'r bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
    • Ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
    • Y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac ymrwymiad i hyrwyddo a phrif-ffrydio'r Gymraeg.

     

    Priodoleddau Personol a Sgiliau

    • Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadol cryf a'u gallu i weithredu fel eiriolwr a llysgennad effeithiol; 
    • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
    • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn

     

    Dymunol

    • Y gallu i siarad Cymraeg


    Dyddiadau cyfweliadau

    10 Awst 2021
    13 Awst 2021

    Dyddiad cau

    28/06/21 10:00

    Gwybodaeth ychwanegol

    Bydd unigolyn yn anghymwys i’w benodi:

     

    a.       os y'i cafwyd yn euog yn y 5 mlynedd diwethaf yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar (boed yn garchar gohiriedig neu fel arall) am gyfnod o 3 mis o leiaf a heb gael yr opsiwn o ddirwy;

    b.       os yw'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu sydd wedi gwneud cyfaddawd neu drefniant â'r credydwyr

    c.        os yw wedi cael ei ddiswyddo, ac eithrio pan fo swydd wedi'i dileu neu pan nad adnewyddwyd contract tymor penodol, o unrhyw swydd gyflogedig yn un o gyrff y gwasanaeth iechyd;

    d.       os yw’n aelod ar hyn o bryd o fwrdd corff gwasanaeth iechyd arall yng Nghymru;

    e.        os yw’n unigolyn y terfynwyd ei gyfnod fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr un o gyrff y gwasanaeth iechyd am nad yw ei benodiad er budd y gwasanaeth iechyd, am beidio â mynychu cyfarfodydd neu am beidio â datgelu buddiant ariannol;

    f.        os yw wedi’i gyflogi â thâl gan Ymddiriedolaeth neu Fwrdd Iechyd yng Nghymru o fewn ardal y Bwrdd y mae’n ceisio cael ei benodi iddo, neu os bu yn y sefyllfa honno o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

    Sut i wneud cais

    I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

    Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

    Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

    Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

    Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

    Commissioner for Public Appointments logo

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.