Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol Cyllid - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cynhelir cyfarfodydd ym mhencadlys y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Sant Cadog, Caerllion, ond gallent gael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws ardal y Bwrdd Iechyd neu drwy ddulliau digodol o gynnal cyfarfodydd.
£15,936 y flwyddyn ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill.  
4
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Hydref 2009 ac fe gafodd statws Prifysgol ym mis Rhagfyr 2013. Amcangyfrifir ein bod yn gwasanaethu poblogaeth o dros 639,000, sef tua 21% o gyfanswm poblogaeth Cymru.

Gyda chyllideb o £1.2 biliwn rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Tor-faen a hefyd yn darparu rhai gwasanaethau i bobl De Powys.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd angen ichi ddangos:

Sgiliau a gwybodaeth am systemau ariannol a Rheolaeth Ariannol mewn sefydliadau mawr

Dealltwriaeth gadarn o rôl archwilio, llywodraethiant a sicrwydd.

Y gallu i werthuso ac adolygu achosion busnes a chynigion a chynlluniau ariannol yn feirniadol.

Profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian.

Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyllid ar lefel bwrdd strategol.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd angen ichi allu dangos y canlynol:

Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu â chyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion ar bob lefel yn y Bwrdd Iechyd.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.

Y gallu i gynnwys rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;

Y gallu i ddadansoddi ac adolygu'n feirniadol gwybodaeth gymhleth.

Dyddiadau cyfweliadau

14 Rhagfyr 2020
14 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

06/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus, Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a rôl Aelod Annibynnol Cyllid, cysylltwch â:

Ann Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633 435957 neu drwy e-bost ann.lloyd@wales.nhs.uk

Neu Richard Bevan, Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633435959 neu drwy e-bost Richard.bevan@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.