Swydd Wag -- Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (x3)

Manylion y swydd

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Caiff cyfarfodydd y bwrdd eu cynnal mewn llefydd amrywiol yng Nghymru sy'n gyfleus i'r bwrdd.
Ni fydd tâl am fod yn aelod.
4
blwyddyn

Rôl y corff


Y Cefndir
 
Cafodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ei greu i fod yn llais i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac i roi cyfeiriad, annog rhyngweithio a rhannu gwybodaeth hanfodol. Hefyd, mae'n darparu ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol o gynnig cyngor i'r Llywodraeth.
 
 
Rôl y Bwrdd
 
Amcanion a nodau'r Bwrdd yw: 
 

Gweithio yn unol â pholisi'r Gweinidog.
Cynghori gweinidogion ar sefydlu ymyriadau a mecanweithiau cymorth i wneud y gorau o'r cyfleoedd economaidd i Gymru yn y sector bwyd a diod;
Argymhellion ynghylch mecanweithiau, prosesau, cymorth ac ymyriadau i sicrhau twf yn y sector bwyd a diod ac i greu swyddi o Rhoi cyngor ar ddatblygu masnach mewn marchnadoedd domestig a thramor, a chefnogi'r datblygu hwnnw;
Ymchwilio i ddulliau newydd a gwell o hyrwyddo arloesedd yn y sector, a dylanwadu arnynt  o Rhoi cyfeiriad ar gyfer gwella'r sylfaen sgiliau yn y sector, gan ddenu pobl newydd a chadw gweithlu medrus;
Rhoi Cyngor i Lywodraeth Cymru wrth iddi fynd ati, yng Nghymru, i sefydlu mesurau ar gyfer y sectorau hyn yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir;
Cadw mewn cysylltiad â chyrff, rhanddeiliaid, rhwydweithiau a buddiannau sectorau eraill i sicrhau yr ymdrinnir â phryderon ac y manteisir ar gyfleoedd;
Rhoi cyngor ynghylch pa mor effeithiol yw gweithgareddau datblygu economaidd yn y sectorau hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar gadwyni cyflenwi; ar gyfleoedd i greu swyddi;
ac ar rwystrau posibl o safbwynt seilwaith neu reoleiddio, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, datblygu busnes a masnach dramor;
Bod yn ymwybodol o bolisïau mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu oddi wrthynt a gwerthuso perfformiad cymharol Cymru i lywio'r cynllun gweithredu;
Monitro cynnydd ar sail y Strategaeth a dweud wrth swyddogion a'r gweinidog am bryderon lle bo gofyn;
Cadw golwg ar y Strategaeth a'i chynlluniau cyflawni i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o wybodaeth newydd am y farchnad ac ymateb yn gyflym i amgylchiadau newydd a datblygiadau economaidd; a
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i weinidogion am waith y Bwrdd, ei berthnasedd i'r cynllun gweithredu ac am dwf a datblygiad y diwydiant bwyd a diod.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau
 
Fel aelod bydd disgwyl ichi:  fynd i gyfarfodydd y Bwrdd pan ofynnir i chi;
Parhau i gadw'ch bys ar byls datblygiadau ac anghenion y sector bwyd;
Fod yn wybodus iawn ynghylch cyd-ddibyniaeth a chyfleoedd y diwydiant bwyd, ei is-sectorau a'r gadwyn gyflenwi yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd  a gweddill y byd; a
Deall yn glir Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y swydd.
 
Meini Prawf Hanfodol
 
Gwybodus iawn am ddiwydiant bwyd Cymru, y DU, yr UE neu'r byd;
Profiad ariannol, masnachol neu lywodraethu ar lefel uwch;
Profiad helaeth iawn o rai is-sectorau megis llaeth, cig, pobi, organig, garddwriaeth, pysgodfeydd neu ddyframaethu;
Gweithgynhyrchu bwyd a/neu ddatblygu marchnadoedd;
Dealltwriaeth dda o'r gadwyn fwyd a'r gyd-ddibyniaeth ynddi;

Eithriadol o wybodus ym meysydd:
Rheoli busnes neu ymchwil neu farchnata neu arloesi neu ddatblygu sgiliau; a
ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac atebolrwydd 
 
Byddai'n ddymunol pe bai aelodau'r bwrdd yn meddu ar y rhinweddau canlynol: 
 
Hunan ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r sefydliad;
Yn gallu dod i gasgliadau doeth;
Yn gwrando'n weithredol gyda meddwl agored;
Yn cymryd rhan mewn trafodaethau, gan roi sylwadau perthnasol;
Yn mynegi barn heb flewyn ar dafod ond gyda pharch;
Yn dangos mentergarwch a chraffter;
Yn meddwl yn rhesymegol, ac yn greadigol hefyd;
Yn gwneud penderfyniadau drosto'i hun;
Yn rhoi cyngor ar sail profiad;
Yn ffurfio perthynas gydweithredol ag aelodau eraill y bwrdd a lle bo gofyn, yn rhoi arweiniad a chyngor i'r tîm gweithredol; a
Yn ymddwyn yn driw i gefnogi penderfyniadau'r bwrdd yn ei gyfanrwydd

Dyddiadau cyfweliadau

8 Mehefin 2020
12 Mehefin 2020

Dyddiad cau

29/03/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
 
Penodiadau Cyhoeddus
Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 
 
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a rôl ei aelodau, cysylltwch â:

David Morris 
Ffôn: 0300 025 7944
E-bost: Chair.FDIWB@gov.wales 
 
 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.