Swydd Wag -- Is-Gadeirydd - Chwaraeon Cymru

Manylion y swydd

Chwaraeon Cymru
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd mewn mannau gwahanol ar hyd a lled Cymru. Mae Bwrdd Chwaraeon Cymru yn cyfarfod o leiaf bum gwaith y flwyddyn, gydag o leiaf dau o'r cyfarfodydd hynny yng Nghaerdydd
Telir £311 y dydd
3
mis

Rôl y corff

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw. Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw Cyngor Chwaraeon Cymru, ac fe'i ariennir yn bennaf trwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.

Sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru ym 1972 trwy Siarter Frenhinol. Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) yw :

• Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol;
• Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth;
• Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;
• Darparu gwybodaeth a chyngor technegol am chwaraeon, hamdden a ffyrdd egnïol o fyw.

I weld y Siarter Frenhinol, cliciwch yma: www.sport.wales/media/128780/royal charter.doc

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn berchen ar ddwy ganolfan genedlaethol; Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr Plas Menai yn y Gogledd.

Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru yn seiliedig ar lythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn ymateb iddo. Mae'r llythyr hwnnw'n gosod allan ei blaenoriaethau strategol; unrhyw bolisïau a chynlluniau gweithredu penodol; a pholisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.

Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwlad sy'n gorfforol egnïol ac sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn unol â'r strategaethau Dringo'n Uwch a Creu Cymru Egnïol.

Nod Chwaraeon Cymru yw gwella lefel y gyfranogaeth mewn chwaraeon ar lawr gwlad ond gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen hefyd ar athletwyr uchelgeisiol i gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru yn cynnwys yn benodol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru integreiddio'i holl waith i gefnogi'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Dysgwch fwy am Chwaraeon Cymru trwy fynd i www.chwaraeoncymru.org.uk a gwylio'r ffilmiau corfforaethol isod:

http://www.sportwales.org.uk/about-us/about-sport-wales/what-we-do.aspx
http://www.youtube.com/watch?v=eNvHHKHt-x0

Disgrifiad o'r swydd

• Cynorthwyo'r Cadeirydd wrth arwain cyfeiriad cyffredinol Chwaraeon Cymru, ac wrth gyflawni polisi'r Llywodraeth ynghylch chwaraeon a hamdden corfforol;

• Cynorthwyo'r Cadeirydd wrth arwain a rhoi cyfarwyddyd i'r Bwrdd, un ai yng nghyfarfodydd llawn y Bwrdd neu ar baneli cynghori arbenigol neu weithgorau;

• Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng y Bwrdd, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a swyddogion y Llywodraeth;

• Rhannu cyfrifoldeb â'r Cadeirydd am uniondeb a chyfreithlondeb mewn perthynas â materion Chwaraeon Cymru;

• Deall manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol ynghyd â'u manteision positif i gymdeithas, gan hyrwyddo'r manteision hynny;

• Meddu ar weledigaeth glir ynghylch sut y gall Chwaraeon Cymru barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi chwaraeon y Llywodraeth a thrwy hynny, ddeall Llywodraeth Cymru a sut y mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gweithio..

• Meddu ar sgiliau craffu a dadansoddi ardderchog i gefnogi a herio'r Weithrediaeth yn effeithiol, gan sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cyrraedd ei amcanion, ei nodau a'i dargedau perfformiad;

• Sicrhau bod Chwaraeon Cymru'n rhoi gwerth ei arian gan gadw at fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;

• Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol ;

• Deall Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.

• Arfer safonau uchel o safbwynt priodoldeb ac wrth ymdrin ag arian cyhoeddus;

• Meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon;

• Meddu ar feddwl ymchwilgar, sgiliau gwrando da a'r gallu i ddeall sefyllfaoedd ac adroddiadau cymhleth.

• Meddu ar barodrwydd ac ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a gweithgareddau pwysig rhwng cyfarfodydd a chymryd rhan amlwg ynddynt.

• Bod yn wleidyddol annibynnol.

• Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Hanfodol

• y gallu i arwain bwrdd gweithredol a chefnogi arweinwyr sefydliad uchel ei broffil;

• rhoi arweiniad strategol a meddu ar y gallu i feithrin cysylltiadau da;

• excellent communication skills including the ability to operate effectively as an ambassador for Sport Wales, demonstrating tact and diplomacy in dealings with stakeholders;

• deall datganoli a'i oblygiadau i cyrff cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru;

• Deall bywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraeth dda

• Y gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn wrthrychol wrth ddadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn medru adnabod cnewyllyn y mater a gwneud penderfyniadau da.

• Ymrwymiad amlwg i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru;

• Deall cymunedau amrywiol Cymru ac ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth.


Yr Iaith Gymraeg

Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd lle mae'r Gymraeg yn ddymunol, at y lefel a nodir isod:

Deall - yn gallu deall rhannau o sgwrs elfennol..
Darllen : dim sgiliau
Siarad - yn gallu cynnal sgwrs elfennol yn y Gymraeg.
Ysgrifennu - dim sgiliau.

Mae hyn yn golygu y byddai'n fantais i ymgeisydd pe bai'n gallu deall a siarad rhannau o sgwrs elfennol yn y Gymraeg cyn belled â'i fod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol eraill.

Dyddiadau cyfweliadau

4 Gorffennaf 2017
4 Gorffennaf 2017

Dyddiad cau

06/06/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth am rôl Chwaraeon Cymru a rôl ei Aelodau, cysylltwch â David Rosser, Pennaeth Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

Ffôn: 0300 061 6051

E-bost: david.rosser@wales.gsi.gov.uk

Os oes angen rhagor o help arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu e-bostiwch SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk

For further information about Public Appointments in Wales, please visit www.gov.wales/publicappointments

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.