Swydd Wag -- Penodi Aelodau Bwrdd - Bwrdd Rheoleiddiol Cymru (Hanfodol Cymraeg)
Manylion y swydd
Telir £198 y dydd i Aelodau'r Bwrdd.
Disgwylir i'r Bwrdd gwrdd bob chwarter o leiaf, ac o bosibl gael dau gyfarfod y flwyddyn gyda'r Gweinidog. Yn ogystal, dylai Aelodau Annibynnol fod ar gael ar gyfer telegynadleddau interim y Bwrdd. Bydd disgwyl i Aelodau Annibynnol dreulio o leiaf 5 diwrnod bob chwarter (cyfanswm o 20 o ddyddiau y flwyddyn) ar fusnes y Bwrdd.
Rôl y corff
Statws Cyfreithiol
Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru wedi'i sefydlu drwy bwerau rheoleiddio tai a roddwyd i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai 1996, a hynny fel Bwrdd Cynghori i gynnig cyngor i Weinidogion Cymru.
Mae adran 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1996 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth...yr ystyrir ei fod yn hwyluso arfer unrhyw un o'u swyddogaethau eraill, hy y swyddogaethau rheoleiddio o dan Ddeddf Tai 1996, neu unrhyw beth sy'n gydnaws â hynny neu'n atodol i hynny.
Cefndir y Bwrdd
Prif ddiben Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yw dal Tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei waith. Mae'n gwneud hynny drwy oruchwylio'r broses o weithredu'r Fframwaith Rheoleiddiol. Mae hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion ynghylch perfformiad y sector cymdeithasau tai.
Mae'r Bwrdd Rheoleiddiol cyfredol wedi bod yn ei le ers Ebrill 2016. Mae'n Fwrdd cwbl annibynnol, a benodwyd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus, ac mae'n disodli'r Bwrdd Rheoleiddiol blaenorol o ystod o randdeiliaid tai, un aelod annibynnol a Chadeirydd annibynnol.
Mae'r Bwrdd yn ystyried adroddiadau, gan gynnwys adroddiad blynyddol, a chanllawiau gan y Rheoleiddiwr, yn ogystal â chyhoeddiadau eraill ar berfformiad y sector. Defnyddir y deunyddiau hyn i roi cyngor i Weinidogion ar berfformiad y Rheoleiddiwr, y sector ac unrhyw oblygiadau polisi cysylltiedig.
Mae'r Bwrdd hefyd yn dod â ffocws strategol i faterion ar draws y sector, drwy gomisiynu gwaith ymchwil i themâu allweddol. Mae'r themâu hyn yn deillio o waith bob dydd y Tîm Rheoleiddio, megis adolygiad thematig Gwerth am Arian, a ysgogwyd ar ôl i nifer sylweddol o gymdeithasau ei chael yn anodd darparu digon o dystiolaeth o werth am arian yn eu hunanasesiadau. Yn ystod y flwyddyn gyfredol, mae'r Bwrdd wedi bod yn cynnal adolygiad/llunio adroddiad cynnydd ar lywodraethiant cymdeithasau tai.
Mae'r Bwrdd yn cael ei gefnogi gan Grŵp Cynghori ar Reoleiddio.
Pennwyd y Cylch Gorchwyl canlynol ar gyfer Bwrdd Rheoleiddiol Cymru. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n rheolaidd.
(1) archwilio perfformiad a gweithgarwch rheoleiddiol Llywodraeth Cymru, a'r sector, drwy ystyried adroddiad blynyddol, ac adroddiadau a chanllawiau eraill gan y Rheoleiddiwr, ynghyd â chyhoeddiadau eraill ar berfformiad y sector;
(2) gofyn am gyngor/persbectif ychwanegol ar berfformiad y sector gan amrywiaeth eang o gyrff, yn ôl yr angen;
(3) defnyddio'r wybodaeth i:
- roi cyngor i'r Gweinidog ar berfformiad y rheoleiddiwr a'r sector;
- rhoi cyngor i'r Gweinidog ar oblygiadau polisi cysylltiedig;
- rhoi cyngor i'r Gweinidog ar newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio;
- rhoi cyngor i'r Gweinidog ar yr angen am waith ymchwil ychwanegol, yn ôl yr angen.
Nid yw Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru. Nid oes gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru bwerau na swyddogaethau gweithredol. Caiff y Gweinidog Tai ac Adfywio (y Gweinidog) ofyn i'r Bwrdd am unrhyw gyngor y mae'r Gweinidog yn teimlo bod ei angen er mwyn cyflawni diben y Bwrdd. Mater i'r Gweinidog fydd penderfynu a yw am dderbyn neu wrthod argymhellion y Bwrdd.
Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn cyflawni ei rôl ar ran Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn tynnu oddi wrth y ffaith bod y Bwrdd yn gweithredu mewn capasiti cynghorol, o fewn y cylch gwaith a gytunwyd ar ei gyfer gan y Gweinidog, ac y bydd ei gyngor a'i argymhellion yn annibynnol felly.
Gan gadw gofynion arferol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mewn cof, mater i'r Gweinidog yw penderfynu a yw am gyhoeddi unrhyw rai o adroddiadau/papurau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru. Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar unrhyw ddata, adroddiadau a deunyddiau eraill a gaiff eu creu gan y Bwrdd.
Disgrifiad o'r swydd
Cafodd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru ei sefydlu yn 2016. Chwe aelod annibynnol sydd i'r Bwrdd yn ogystal â'r Cadeirydd. Mae'r Bwrdd yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru ac am roi cyngor perthnasol i'r Gweinidog.
Bydd yr Aelodau Bwrdd Annibynnol:
- yn cyfrannu at waith y Bwrdd drwy fynychu'r cyfarfodydd yn rheolaidd, paratoi'n drylwyr a chyfrannu ar sail gwybodaeth;
- yn helpu'r Cadeirydd i ddod i gonsensws yn nhrafodaethau'r Bwrdd;
- yn bodloni safonau uchel uniondeb a llywodraethiant;
- yn mynychu cyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl y gofyn;
- yn cymryd camau i gyfrannu at waith y Bwrdd, gan gynnwys adolygiadau thematig.
Penodir yr Aelodau Annibynnol am gyfnod o hyd at dair blynedd. Bydd pob aelod mewn sefyllfa i roi barn awdurdodol ar y drefn reoleiddiol ar sail eu harbenigedd personol, a bydd disgwyl iddynt gefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector, yn ogystal â:
(a) chynnig eu barn ar faterion yn ymwneud â rôl y Bwrdd sy'n rhan o'u cylch cyfrifoldeb;
(b) cyfrannu at drafodaethau ar faterion y gofynnwyd iddynt eu trafod gan y Gweinidog, neu y cytunwyd arnynt gyda'r Gweinidog, mewn perthynas â'r Cylch Gorchwyl isod.
Bydd hawl gan Aelodau'r Bwrdd i gyflog ar sail lefelau a gymeradwywyd gan Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, telir treuliau priodol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Meini Prawf Hanfodol
Dadansoddi a dehongli
- y gallu i ddadansoddi a dehongli data er mwyn monitro perfformiad yn erbyn amcanion a gymeradwywyd
Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu
- y gallu i herio mewn ffordd adeiladol
- parodrwydd i gydweithredu ac ymegnïo i gyflawni gwaith y Bwrdd
Safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol
- dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a herio arferion gwahaniaethol;
- dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, ac ymrwymiad iddynt;
Dymunol
Byddai cefndir yn un neu fwy o'r meysydd canlynol o fantais, ond nid yw'n hanfodol:
- profiad diweddar fel uwch swyddog gweithredol yn y sector tai cymdeithasol
- cyllid/benthyca
- cyfraith tai a/neu gydymffurfedd a rheoleiddio
- bod/wedi bod yn denant a/neu'n landlord tai cymdeithasol
- gwybodaeth am y ddarpariaeth dai, polisi tai neu gyllid tai, a dealltwriaeth o reoleiddio a'r sector cymdeithasau tai dielw
- y gallu i fonitro, adrodd a chynghori ar berfformiad sector a reoleiddir yng Nghymru, ac ar sut y gellir gwella swyddogaethau rheoleiddiol
- dealltwriaeth o fframwaith gwleidyddol a pholisi Cymru.
Y Gymraeg - Cymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt;
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus
Uned Cyrff Cyhoeddus
Llywodraeth Cymru
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael mwy o wybodaeth am rôl Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a rôl y Cadeirydd a, cysylltwch â:
Huw Maguire
Rhif ffôn: 03000 256073
Ebost: Huw.Maguire@llyw.cymru
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.