Swydd Wag -- Cadeirydd - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Manylion y swydd

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer yn swyddfeydd CCAUC ym Medwas, Caerffili, er y byddant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled Cymru o bryd i'w gilydd.
£24,264 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a chostau eraill rhesymol.
6
mis

Rôl y corff

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ("CCAUC" neu "y Cyngor") yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ("Deddf 1992”). 

 

Dyma'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio addysg uwch yng Nghymru, o dan bwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ac mae'n gweinyddu cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn naw prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru.  Mae hefyd yn darparu arian ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol mewn colegau addysg bellach. 


Yn 2019-20, bydd CCAUC yn rheoli cyllideb o fwy na £152 miliwn. 

Mae CCAUC hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. 

 

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CCAUC ar gyfer 2018-19, ei Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2017-2020 a chopi o lythyr cylch gwaith y Gweinidog Addysg ar gyfer 2019-20 ar gael ar wefan CCAUC www.hefcw.ac.uk

 

Rôl y Cyngor

 

Mae gan CCAUC ddwy dasg ar hyn o bryd: 
 

  • rheoleiddio addysg uwch yng Nghymru drwy gymeradwyo a monitro cynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau; asesu ansawdd AU mewn sefydliadau a reoleiddir; a chraffu ar berfformiad AU drwy fframwaith ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau a reoleiddir; a 
     
  • dosbarthu cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu addysg, cefnogi ymchwil a gweithgareddau cymwys eraill gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. 

 

Mae CCAUC hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a'r sector.  Prif Weithredwr CCAUC yw'r Swyddog Cyfrifyddu dynodedig, sydd â chyfrifoldeb penodol yn ymwneud â'r defnydd o arian cyhoeddus a roddir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Mae Strategaeth Gorfforaethol CCAUC 2017-20 yn nodi'r blaenoriaethau y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth geisio gweithredu ei weledigaeth ar gyfer sector addysg uwch sy'n gynaliadwy, yn hygyrch ac yn rhagorol yn rhyngwladol yng Nghymru. 

 

Gweledigaeth CCAUC yw cynnal addysg uwch o safon ryngwladol ragorol yng Nghymru, er budd unigolion, cymdeithas a'r economi yng Nghymru, a thu hwnt.

 

Ei genhadaeth yw:

• Ariannu addysg uwch yng Nghymru

• Rheoleiddio darparwyr addysg uwch yng Nghymru

• Dylanwadu ar addysg uwch gyda chyngor seiliedig ar dystiolaeth a gwaith partneriaeth

• Gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr

• Gweithredu'n effeithiol fel sefydliad. 

Disgrifiad o'r swydd

Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu bod rhaid i'r Cyngor gael rhwng 8 a 12 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol. 

Disgwylir i'r Cadeirydd weithio'n agos gydag aelodau CCAUC, y Prif Weithredwr a swyddogion eraill CCAUC i roi cyfeiriad strategol ac i roi cyngor ac anogaeth i CCAUC wrth iddo gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ac wrth gychwyn, datblygu a gweithredu polisi. Bydd yn rhan o benderfyniadau allweddol ynghylch strategaeth y Cyngor.
 

Bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod cyngor awdurdodol ac amserol yn cael ei ddarparu i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a bydd yn rhoi adborth i'r sector ei hun.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd y Cadeirydd yn rhoi arweiniad cryf ac effeithiol ac yn dangos y gallu i weithio mewn partneriaeth ac adeiladu consensws.  Bydd ganddo'r gallu i brofi barn a herio syniadau.  Rhaid i'r Cadeirydd hefyd allu delio'n hyderus â Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a Phenaethiaid a Chadeiryddion Sefydliadau Addysg Uwch. Rhaid i'r Cyngor gael Cadeirydd sy'n arddel, ac yn cael ei weld yn arddel, y safonau uchaf o ran uniondeb a didueddrwydd, ac sy'n gallu ennyn parch tuag at waith y Cyngor.

 

Wrth benodi aelodau'r Cyngor, mae adran 62(4) o Ddeddf 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru:

 

(a) rhoi sylw i ddymunoldeb cynnwys personau y mae'n ymddangos bod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch, a'u bod wedi dangos gallu i wneud hynny, neu fod wedi dal, ac wedi dangos gallu mewn, unrhyw swydd sy'n cynnwys cyfrifoldeb dros ddarparu uwch addysg ac, wrth benodi personau o'r fath, roi sylw i ba mor ddymunol yw'r ffaith eu bod yn ymwneud ar hyn o bryd â darparu addysg uwch neu ag ysgwyddo cyfrifoldeb am ddarpariaeth o'r fath, a

 

(b) rhoi sylw i ddymunoldeb cynnwys personau y mae'n ymddangos bod ganddynt brofiad o faterion diwydiannol, masnachol neu ariannol neu arfer unrhyw broffesiwn, a'u bod wedi dangos gallu i wneud hynny’. 

 

Bydd y Gweinidog yn ystyried y gofynion hyn wrth benodi'r Cadeirydd.  Felly, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â hanes llwyddiannus mewn diwydiant, masnach, cynrychioli cyflogwyr, neu arfer proffesiwn. Er eu bod yn ddymunol, nid yw'r rhinweddau hyn yn hanfodol i'r swydd. 



Meini Prawf Hanfodol

 

Yn ogystal â'r fanyleb person uchod, ystyrir bod y meini prawf canlynol yn hanfodol i'r swydd: 

  • gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg uwch a'r heriau sy'n wynebu'r sector yng nghyd-destun y DU ac mewn cyd-destun rhyngwladol;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 ehangach a dealltwriaeth o sut mae'n rhyngweithio ag addysg uwch;
  • empathi at fyfyrwyr, eu profiad a'u cyfleoedd mewn bywyd;
  • ymwybyddiaeth wleidyddol a'r gallu i ddatblygu rhwydweithiau gwleidyddol;
  • dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymiad iddynt a pharodrwydd i herio arferion gwahaniaethol; a
  • dealltwriaeth dda o lywodraethu; a'r
  • gallu i reoli perthnasoedd ag uwch swyddogion gweithredol er mwyn cyflawni nodau sefydliadol

Ni fydd ymgeisydd llwyddiannus a fu gynt yn gweithio i un o'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn cynrychioli buddiannau'r sefydliad hwnnw tra ar y Cyngor, ond bydd disgwyl iddo gymryd golwg ddiduedd a chyfannol ar yr heriau sy'n wynebu'r sector AU Cymru yn ei gyfanrwydd. 

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.

Dyddiadau cyfweliadau

6 Mai 2020
6 Mai 2020

Dyddiad cau

21/02/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus

Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl CCAUC a rôl y Cadeirydd cysylltwch â Colette Eley yn nhîm noddi Llywodraeth Cymru:

 

Ffôn: 03000 250523

E-bost: colette.eley@llyw.cymru


neu Dale Hall, Ysgrifennydd Cyngor CCAUC:

 

Ffôn: 029 2085 9665

E-bost: dale.hall@hefcw.ac.uk 


Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.