Swydd Wag -- Cadeirydd - Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru
Manylion y swydd
Telir £337 y dydd am y swydd ar gyfer mynychu cyfarfodydd neu weithgareddau eraill y cytunwyd arnynt sy'n ymwneud â gwaith Gyrfa Cymru. Telir hyn hyd at uchafswm ymrwymiad o 40 diwrnod y flwyddyn. Gwneir y taliad drwy system gyflogres Gyrfa Cymru.
Ystyrir yr aelodau yn ddeiliaid swyddi at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, codir treth incwm ar y ffïoedd sy'n daladwy a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Tynnir symiau Talu Wrth Ennill (PAYE) drwy system gyflogres Gyrfa Cymru a chaiff y ffi net ei thalu i ddeiliad y swydd. Ni fydd yn rhaid talu TAW ar y ffioedd.
Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth sy'n codi yn sgil mynd i gyfarfodydd CCDG neu ar ymweliadau ar ran CCDG eu had-dalu gan CCDG ei hun yn unol â'r gyfradd a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn perthynas ag aelodau Pwyllgorau'r Llywodraeth. I hawlio ad-daliad, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth CCDG. Mae'n bosibl y telir costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill, os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol a fydd yn codi'n uniongyrchol o wneud gwaith i CCDG.
Rôl y corff
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru a ffurfiwyd ar 1 Ebrill 2013. Enw masnachol y cwmni yw Gyrfa Cymru, ac mae'n darparu gwasanaethau amrywiol sy'n integreiddio'r defnydd o dechnolegau digidol ochr yn ochr â chyfryngau wyneb yn wyneb mwy traddodiadol. Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, sy'n ddiduedd ac yn ddwyieithog, i bobl o bob oed yng Nghymru.
Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.
Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Gyrfa Cymru eu Gweledigaeth pum mlynedd, 'Dyfodol Disglair’. Uchelgais Dyfodol Disglair yw creu dyfodol mwy disglair i bob person ifanc ac oedolyn yng Nghymru. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn mae Gyrfa Cymru wedi datblygu pedwar nod strategol:
Darparu gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd ac anogaeth dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru.
Datblygu ei waith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion sgiliau a’u cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion
Cefnogi'r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni ei bedwar diben ar gyfer dysgwyr.
Datblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol ac ystwyth yn Gyrfa Cymru a’i alluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda ac sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
Ariennir eu gwaith sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg drwy eu grant Gyrfa Cymru craidd. Mae gan Gyrfa Cymru gyllideb o £18.8m o gyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Caiff eu gwaith i gefnogi’r rhai nad ydynt bellach mewn addysg ei ddarparu drwy eu Gwasanaethau Cymru'n Gweithio, a chaiff y gwaith hwn ei ariannu ar wahân.
Disgrifiad o'r swydd
Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog yr Economi a gall Senedd Cymru hefyd ei dwyn i gyfrif. Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu'r Bwrdd yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod materion y Cwmni yn cael eu cynnal gydag uniondeb.
Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau arwain penodol dros:
- Lunio strategaethau'r Bwrdd.
- Dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser.
- Sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion rheoli statudol ac ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru.
- Hyrwyddo'r defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill.
- Sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra, priodoldeb a llywodraethu.
- Cynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd.
Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:
- Sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
- Sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion rheoli ariannol ac adrodd cyrff y sector cyhoeddus ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
- Asesu perfformiad aelodau unigol o'r Bwrdd yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth.
- Sicrhau bod Cod Ymddygiad ar waith ar gyfer aelodau'r Bwrdd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae CCDG yn chwilio am Gadeirydd newydd i'r Bwrdd sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws amrediad o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Meini prawf hanfodol
- Hanes profedig o gyflawniad yn y sector preifat / cyhoeddus / cymunedol / gwirfoddol, gyda’r gallu i lunio barn gadarn a strategol.
- Dealltwriaeth o'r berthynas ddeinamig rhwng polisïau'r llywodraeth a darparu darpariaeth gyrfaoedd ar lawr gwlad.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
- Dealltwriaeth gadarn o gyllid a llywodraethu corfforaethol.
- Hanes profedig o feithrin cydberthnasau ag amrywiaeth o randdeiliaid a sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i egluro materion cymhleth yn glir ac yn gryno, tra'n dangos parch at farn pobl eraill.
- Sgiliau rhyngbersonol, dylanwadol a negodi cryf, gyda'r gallu i herio a llunio barn gadarn yn adeiladol wrth wneud penderfyniadau strategol.
- Dealltwriaeth a ddangoswyd o egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, ac ymrwymiad iddynt.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus / Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd CCDG a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â: sam.evans@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.