Swydd Wag -- Aelod - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Manylion y swydd

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Caerdydd neu’n rhithwir drwy Microsoft Teams
£198 am ddiwrnod llawn, £99 am hanner diwrnod.
2
mis

Rôl y corff

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

 

Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:

 

  • Sicrhau bod trefniadau etholiadol prif ardaloedd yn addas i'r diben – gan ddatblygu a chyflwyno rhaglen dreigl ddeng mlynedd o adolygiadau etholiadol. 
  • Gwneud Gorchmynion mewn perthynas â chynigion gan brif gynghorau ar gyfer newidiadau i ardaloedd cymunedol yn dilyn eu hadolygiadau o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol. 
  • Fel y bo'n briodol, sicrhau bod ffiniau ardaloedd prif gynghorau yn addas i'r diben. 
  • Cynnal lefel uchel o lywodraethiant corfforaethol ar gyfer y Comisiwn.

 

Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau neu ddarparu cyngor a gwybodaeth ar gais awdurdodau lleol neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

 

O ran trefniadau prif ardaloedd, mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd, yn ei farn ef, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

 

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y Comisiwn yn mynd drwy gyfnod o newidiadau mawr, a gellir gweld y manylion hyn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol | LLYW.CYMRU.

 

Cynhelir cyfarfodydd y Comisiwn yn fisol. Fel arfer, mae'r rôl yn golygu diwrnod neu ddau y mis, ond gallai fod yn dri neu bedwar diwrnod y mis yn ystod y rhaglen adolygu. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â thrwy fideogynadledda.      

 

Caiff Gweinidogion Cymru benodi hyd at bum aelod i'r Comisiwn, sy'n cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a hyd at dri aelod arall. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yw tri.

 

Darperir ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn gan brif weithredwr a naw aelod o staff. Mae'r strwythur staffio yn newid yn unol â rhaglenni gwaith y Comisiwn.

Mae'r Comisiwn yn cynnal cyfarfodydd hybrid a gall yr aelodau ddewis eu mynychu yn swyddfa'r Comisiwn yn Nhŷ Hastings, Caerdydd, neu yn rhithiwir drwy MS Teams. Darperir offer a chymorth TGCh i bob Comisiynydd i'w galluogi i fynychu cyfarfodydd. Oherwydd natur gwaith y Comisiwn, efallai y bydd adegau pan fydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru.


Telir swydd y cadeirydd ym Mand 2 - £198 am ddiwrnod llawn, £99 am hanner diwrnod.

 

Ystyrir bod aelodau Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. Bydd treth yn daladwy ar y ffioedd a delir, yn unol ag Atodlen E i'r Ddeddf Trethi, yn ogystal â chyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 1, a chânt eu talu drwy gyflogres y Comisiwn. Nid oes TAW yn daladwy ar y ffioedd.

 

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill y gellid eu hysgwyddo wrth wneud gwaith ar ran y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfraddau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Efallai y bydd Aelodau hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra'n gwneud gwaith ar ran y Comisiwn.

 

Gwneir pob ymdrech i ddarparu pa bynnag gymorth rhesymol sydd ei angen ar aelodau ag anabledd i'w helpu i gyflawni eu dyletswyddau.

 

Bydd y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn darparu sesiynau cynefino ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

 

Disgrifiad o'r swydd

Y Rhaglen Adolygu 

Bydd yr Aelodau yn:

  • Datblygu’r Polisi ac Ymarfer a’r Fethodoleg Maint Cynghorau ar gyfer y Rhaglen Adolygu Etholiadol nesaf, gan adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o'r rhaglen flaenorol a chomisiynu ymchwil ar faterion penodol. 
  • Sicrhau bod ymgynghori eang â Llywodraeth Cymru, cynghorau sir a bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a thref, a'r holl randdeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon.
  • Asesu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer nifer cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, gan ystyried cymhlethdodau ac, yn aml ffactorau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd, o ran demograffeg a seilwaith yr ardal sy'n cael ei hadolygu, ac ystod eang o safbwyntiau a geir yn adborth drwy ymgynghori.
  • Gweithredu ar y cyd i wneud penderfyniadau drafft a therfynol ar adolygiadau etholiadol unigol.
  • Gweithio gyda phrif gynghorau i sicrhau bod ffiniau cymunedau a threfniadau etholiadol yn cael eu hadolygu a'u cydgysylltu'n rheolaidd â'r rhaglen o adolygiadau etholiadol.
  • Gweithredu ar y cyd i wneud gorchmynion ar adolygiadau cymunedol unigol.
  • Bod yn ymwybodol, bob amser, o'r risgiau, o ran enw da a materion eraill, sy'n gysylltiedig â'r adolygiadau, a'r canlyniadau posibl i'r Comisiwn, ei aelodau a Llywodraeth Cymru.
  • Rhoi cymorth a rheolaeth i'r Comisiwn wrth iddo fabwysiadu methodoleg newydd i gynnal adolygiadau etholiadol ac ehangu ei gylch gwaith i wneud gwaith Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.


Comisiynydd Arweiniol 

Mae pob Aelod yn gyfrifol am oruchwylio nifer o adolygiadau etholiadol penodol fel Comisiynydd Arweiniol. Wrth gyflawni'r rôl hon bydd aelod yn: 

  • Arwain cyflwyniadau ac annerch cyfarfodydd ymgysylltu â chynghorau sir a bwrdeistref sirol gan gynnwys yr arweinydd, aelodau cabinet, cynghorwyr wardiau, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, ac uwch-swyddogion cynghorau; cynghorwyr a chlercod cynghorau cymuned a thref; y cyhoedd a grwpiau eraill a fydd â diddordeb yn yr adolygiad.
  • Ymweld â'r ardal leol sy'n cael ei hadolygu.
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu e.e. gweithdai, seminarau
  • Asesu ystod gychwynnol o opsiynau ar gyfer nifer y cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli.
  • Cynnig yr opsiynau a ffefrir a'r rhesymau dros y penderfyniadau hynny i'r Comisiwn.
  • Goruchwylio'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol.


    Llywodraethiant Corfforaethol

    Rhaid i’r Aelodau hefyd:

    • Sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn atebol
    • Monitro'r gyllideb yn fisol (£1,205,000 yn 2022/23). Mae hyn yn cynnwys cyllideb yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru (sy'n ymwneud ag adolygiadau seneddol).
    • Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithio yn unol â deddfwriaeth, ei gynlluniau, ei weithdrefnau a'i bolisïau a bod y rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
    • Bod yn ymwybodol o nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru a sicrhau bod ei hegwyddorion o ran datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r Gymraeg yn rhan annatod o waith y Comisiwn.
    • Darparu arweiniad a ffocws i'r sefydliad wrth iddo wireddu ei amcanion a chyflawni ei ddyletswyddau a sicrhau bod Llythyr Cylch Gwaith y Gweinidog yn cael ei gyflawni.
    • Cefnogi'r Prif Weithredwr mewn perthynas â materion adnoddau dynol, gan sicrhau bod sgiliau'r staff yn cael eu datblygu a'u cynnal.
    • Gweithio'n agos fel tîm o Gomisiynwyr a chyda'r staff.
    • Ymgysylltu'n gyson â rhanddeiliaid i gynnal yr enw da am ragoriaeth.

         Yn ogystal, efallai y bydd Aelod yn ymuno â'r Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg neu Is-bwyllgor y Gweithlu, a byddai hynny’n cynnwys ymrwymiad pellach o ran amser.

          Sgiliau yn y Gymraeg

          Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
          Dymunol
          Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
          Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
          Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
          Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

          Manyleb y person

          Mae'r sgiliau a'r profiadau rydym yn chwilio amdanynt wedi'u nodi isod. Wrth gyflwyno eich datganiad personol dylech ddangos sut y gellid defnyddio eich sgiliau a'ch profiadau yn y rôl hon. 

          Elfennau hanfodol

           Rhaid i ymgeiswyr allu dangos: 

          • gwybodaeth a dealltwriaeth resymol o sut mae llywodraeth leol yn gweithredu yng Nghymru;
          • sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf – yn gallu ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl ar lefel un i un ac yn dorfol;
          • y gallu i ddefnyddio barn annibynnol – gwneud penderfyniadau ac egluro sut yr ydych wedi gwneud y penderfyniad hwnnw;
          • y gallu i ganfod a llunio datrysiadau gan ddefnyddio dull trefnus a dadansoddol; 
          • y gallu i werthuso amrywiaeth eang o wybodaeth, gan gynnwys data daearyddol, a llunio casgliad rhesymegol; 
          • dealltwriaeth o bwysigrwydd rheolaeth gorfforaethol ac ariannol effeithiol ar sefydliad;
          • cyfrifoldeb corfforaethol ar y cyd a dealltwriaeth o risg; 
          • profiad o weithio ym maes newid sefydliadol; 
          • dealltwriaeth o ddefnyddio ymchwil a dadansoddi i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol.

             

             

              Dyddiadau cyfweliadau

              13 Mawrth 2023
              17 Mawrth 2023

              Dyddiad cau

              27/01/23 16:00

              Gwybodaeth ychwanegol

              Sut i wneud cais

              I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

              Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

              Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

              Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

              I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

              Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

              Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

              Commissioner for Public Appointments logo

              Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.