Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (y Trydyyd Sector)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Abertawe Bro Morgannwg gynt) ei greu ar 1 Ebrill 2019, wedi i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol newydd Cwm Taf Morgannwg. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gwasanaethu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ac mae ganddo gyllideb o tua £1 biliwn. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi oddeutu 12,500 o staff.
Mae ganddo dri phrif ysbyty sy’n darparu ystod o wasanaethau: Treforys a Singleton yn Abertawe, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan. Mae gennym hefyd ysbyty cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai. Mae gennym 49 o bractisau meddygon teulu yn ardal ein bwrdd iechyd, 72 o bractisau deintyddol gan gynnwys orthodontyddion, 31 o bractisau optometreg a 92 o fferyllfeydd cymunedol.
Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn gwasanaethu nid yn unig dde a chanolbarth Cymru ond hefyd dde-orllewin Lloegr. Yn Nhreforys hefyd y mae un o’r ddau wasanaeth llawdriniaeth gardiaidd yng Nghymru. Ymhlith y gwasanaethau arbenigol eraill a ddarperir gan y bwrdd iechyd y mae’r rhai ar gyfer gwefus a thaflod hollt, yr arennau, ffrwythlondeb a bariatreg (gordewdra).
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i gymuned ehangach sy’n ymestyn ar draws y De i gyd.
Mae’r bwrdd iechyd yn rhan o brosiect Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd;
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;
- Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
- Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Gwybodaeth a Phrofiad
- Dealltwriaeth o faterion a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
- Y gallu i ddeall rôl a gwaith y sefydliad a sicrhau bod y Bwrdd yn ganolog i'r gwaith o ddarparu ei wasanaethau;
- Profiad o ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chyfrannu at benderfyniadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth;
- Y gallu i weithio gyda'r Cyfarwyddwyr Gweithredol ac aelodau eraill y Bwrdd i sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y Cyfarwyddwyr Gweithredol i gyfrif, gyda her briodol, am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
- Y gallu i gyfrannu at brosesau llywodraethu'r sefydliad, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
- Dealltwriaeth eang o'r gofynion llywodraethu sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth, er enghraifft y Ddeddf Diogelu Data, iechyd a diogelwch yn y gwaith etc;
- Gwerthfawrogiad o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r dylanwad y mae'n rhaid i hyn ei gael ar sicrhau “Cymru Iachach, Hapusach a Thecach” ar gyfer poblogaeth Cymru a chenedlaethau'r dyfodol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol. Ffôn: 03000 255454, e-bost: PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: 01639 683302. E-bost: Andrew.davies25@wales.nhs.uk
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.
I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y swydd wag ar gyfer Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (y Trydydd Sector) ac yna cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf y gwnewch gais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy'ch cyfrif.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu cael gweld y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i'r adran 'Rhesymau dros ymgeisio' ar y ffurflen gais ar-lein.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.