Swydd Wag -- Cadeirdydd

Manylion y swydd

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru
Yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd y cynhelir cyfarfodydd y Grŵp fel rheol.
Mae'r swydd hon yn ddigyflog ond bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i gael tâl cydnabyddiaeth o £337 y dydd.
30
blwyddyn

Rôl y corff

Mae'r Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru a sefydlwyd yn 2002 yn bwyllgor cynghori gwyddonol anstatudol sy'n rhoi cyngor i Weinidogion Cymru mewn modd effeithiol, effeithlon a thryloyw ar bresgripsiynu a rheoli meddyginiaethau'n strategol. Mae proses werthuso'r Grŵp, a gydnabyddir gan Gynllun Achredu Tystiolaeth y GIG, yn rhoi hawl i gleifion yng Nghymru gael mynediad i feddyginiaethau fel mater o drefn, a hynny cyn i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) eu gwerthuso.


Rôl y Pwyllgor


Mae'r Grŵp yn dwyn ynghyd banel o arbenigwyr gan gynnwys meddygon a fferyllwyr y gwasanaeth iechyd yn ogystal ag academyddion gofal iechyd, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr o'r diwydiant, eiriolwyr cleifion a chynrychiolwyr lleyg eraill er mwyn dod i benderfyniad ynghylch defnyddio meddyginiaethau newydd yn y GIG yng Nghymru. Mae'n datblygu polisïau sy'n hyrwyddo'r defnydd gorau o feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru. Mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio ar faterion rheoli meddyginiaethau yn y sector gofal sylfaenol ac eilaidd. Prif flaenoriaethau'r Grŵp yw:

  • Cynghori Gweinidogion Cymru ar dechnolegau newydd a rheoli meddyginiaethau er mwyn gallu cynllunio'n strategol;

  • Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd ac ar y goblygiadau o ran cost o sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael fel mater o drefn;

  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar y gwaith o ddatblygu strategaeth feddyginiaeth gyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n effeithiol o ran cost ar gyfer Cymru.


Caiff gwaith y Grŵp ei gynllunio drwy Bwyllgor Llywio Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. Mae'r pwyllgor hwn yn blaenoriaethu rhaglen waith y Grŵp i sicrhau y caiff ei adnoddau eu defnyddio'n effeithlon.

Mae'r Grŵp yn gweithio'n agos gyda NICE i ategu rhaglen Werthuso Technoleg Iechyd NICE.

Mae holl gyfarfodydd y Grŵp ar agor i'r cyhoedd.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd a benodir yn:

  • Chwarae rhan allweddol wrth lunio'r agenda rheoli meddyginiaethau yng Nghymru, a gweithredu strategaeth bresgripsiynu'r Grŵp;

  • Darparu cyfeiriad strategol i'r GIG yng Nghymru a'r holl randdeiliaid allweddol;

  • Chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod gwaith Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn helpu'r Pwyllgor a GIG Cymru i gyflawni eu hamcanion strategol;

  • Cyfrannu at ddatblygu partneriaethau arloesol sydd o fudd i gleifion;

  • Sicrhau'r canlyniadau gorau o'r defnydd o feddyginiaethau yng Nghymru;

  • Cadeirio hyd at ddeg cyfarfod o'r Grŵp bob blwyddyn, ac yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Grŵp sy'n cwrdd bob mis.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r a galluoedd i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael eich penodi.

  • Gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut mae'n gweithredu yng Nghymru, ynghyd â diddordeb ynddo a gwybodaeth fanwl am faterion fferyllol sy'n effeithio ar gleifion;
     
  • Y gallu i gyfathrebu'n argyhoeddiadol, a'r gallu i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol a chefnogi datblygiad pwyllgorau a swyddogaethau gweithredol;

  • Tystiolaeth o sgiliau arwain cryf, effeithiol ac amlwg;

  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus a phwysigrwydd meithrin cysylltiadau â chleifion a'r cyhoedd;

  • Llwyddiant blaenorol yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat;

  • Y gallu i arddangos arweinyddiaeth gynhwysol o ran amrywiaeth ynghyd â dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt.


Priodoleddau a Sgiliau Personol


  • Y gallu i ysgogi ac ysbrydoli staff;

  • Sgiliau cyfathrebu da;

  • Ymgysylltu â staff a chynrychiolwyr staff ar bob lefel o fewn y sefydliad;

  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru;

  • Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan fenywod, pobl anabl ac unigolion o leiafrifoedd ethnig sy'n gyfarwydd â'r maes presgripsiynu a fferyllol, sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngwaith y Grŵp ac sy'n gallu cyfrannu at y gwaith o sicrhau ei fod yn gorff cyhoeddus sy'n perfformio'n dda.

Dyddiadau cyfweliadau

20 Mai 2019
20 Mai 2019

Dyddiad cau

13/05/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Darren Ormond Ffôn: 03000 255621, neu e-bost: darren.ormond@llyw.cymru.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch ag Uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru: PublicAppointments@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.