Swydd Wag -- Aelod o'r Bwrdd (Cymraeg hanfodol)
Manylion y swydd
Telir £282 y dydd i Aelodau'r Bwrdd. Ceir hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth ymgymryd â gwaith y Bwrdd oddi wrth Chwaraeon Cymru o fewn y terfynau cydnabyddedig. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra byddwch yn gweithio ar ran y Bwrdd.
Rôl y corff
Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw. Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw Cyngor Chwaraeon Cymru, ac fe'i hariennir yn bennaf trwy gymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.
Sefydlwyd Chwaraeon Cymru ym 1972 drwy Siarter Frenhinol. Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) yw :
• Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol;
• Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth;
• Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;
• Darparu gwybodaeth a chyngor technegol am chwaraeon, hamdden a ffyrdd egnïol o fyw.
I weld y Siarter Frenhinol, cliciwch yma: www.sport.wales/media/128780/royal charter.doc
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn berchen ar ddwy ganolfan genedlaethol; Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr Plas Menai yn y Gogledd.
Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru yn seiliedig ar lythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ac maent yn ymateb iddo. Mae'r llythyr hwn yn amlinellu ei flaenoriaethau strategol, unrhyw bolisïau a chynlluniau gweithredol penodol, ynghyd â pholisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwlad sy'n gorfforol egnïol ac sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn unol â'r strategaethau Dringo'n Uwch a Creu Cymru Egnïol.
Nod Chwaraeon Cymru yw gwella lefel y gyfranogaeth mewn chwaraeon ar lawr gwlad ond gan roi'r gefnogaeth y mae ei hangen hefyd ar athletwyr uchelgeisiol i gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Disgrifiad o'r swydd
Bwrdd Chwaraeon Cymru sy'n arwain ac yn llywodraethu Chwaraeon Cymru ac yn gwneud y gwaith pwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau Chwaraeon Cymru. Y Bwrdd hefyd sy'n pennu amcanion y dyfodol.
Bydd Aelodau'r Bwrdd yn atebol yn unigol ac ar y cyd i Lywodraeth Cymru drwy'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Mae disgwyl i aelodau:
- Ddeall a mynd ati i hyrwyddo manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'u manteision positif i gymdeithas amrywiol Cymru, yn unol â gweledigaeth Chwaraeon Cymru fel y corff sy'n cyflawni polisïau y Llywodraeth ar chwaraeon.
- Sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cael gwerth am arian ac yn cyfrannu yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllido blynyddol;
- Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel mewn meysydd gan gynnwys gwarchod cyllid cyhoeddus; a gwerthfawrogi neu gael dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrifoldeb gorfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon;
- Cymryd rhan wrth awgrymu aelodau y bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o aelodau'r bwrdd;
- Gallu herio staff Chwaraeon Cymru yn effeithiol, i sicrhau eu bod yn bodloni eu hamcanion, eu nodau a'u targedau perfformiad;
- Holi cwestiynau, sgiliau gwrando da a'r gallu i ddeall sefyllfaoedd/adroddiadau cymhleth;
- Bod yn barod ac ymrwymo i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd a chymryd rhan ynddynt a gweithgareddau allweddol rhwng cyfarfodydd;
- Deall ac ymrwymo i swydd gyhoeddus, fel a ddiffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan a nodir ar dudalen 9.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person

Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am rôl Chwaraeon Cymru a rôl ei Aelodau, cysylltwch â Pippa Britton (is-gadeirydd) e-bost pippa.britton@sport.wales
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus - penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.