Swydd Wag -- Cadeirydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Yn aelodau o Fwrdd CNC y mae Cadeirydd a deuddeg aelod. Bydd y Prif Weithredwr yn un ohonynt. Ei rôl yw:
- rhoi arweiniad effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy'n cynnig her;
- rhoi arweiniad effeithiol ar gyfer rhedeg y corff; dwyn y Prif Weithredwr i gyfrif am sicrhau bod gweithgareddau CNC yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon;
- hyrwyddo safonau uchel ar gyfer cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
- monitro perfformiad CNC i sicrhau ei fod yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.
Dyma aelodau'r Bwrdd ar hyn o bryd:
- Syr David Henshaw, Cadeirydd dros dro (daw ei swydd i ben ar 31 Hydref 2019)
- Elizabeth Haywood, Aelod o'r Bwrdd
- Zoe Henderson, Aelod o'r Bwrdd
- Chris Blake, Aelod o'r Bwrdd
- Karen Balmer, Aelod o'r Bwrdd
- Catherine Brown, Aelod o'r Bwrdd
- Julia Cherret, Aelod o'r Bwrdd
- Howard C Davies, Aelod o'r Bwrdd
- Dr Rosetta Plummer, Aelod o'r Bwrdd
- Yr Athro Steve Ormerod, Aelod o'r Bwrdd
- Syr Peter Rigby, Aelod o'r Bwrdd
- Geraint Davies, Aelod o'r Bwrdd
- Clare Pillman, Prif Weithredwr
Y Weithrediaeth
Mae'r Weithrediaeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd i ddatblygu strategaeth ar gyfer CNC. Y Weithrediaeth sy'n atebol o ddydd i ddydd am weithgareddau'r corff ac yn rhoi arweiniad corfforaethol
Disgrifiad o'r swydd
Penodir Cadeirydd CNC gan Weinidogion Llywodraeth Cymru a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu rheoli'n gynaliadwy. Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am arwain y bwrdd i ddatblygu, cymeradwyo a monitro strategaeth tymor hir CNC er mwyn iddo allu cyflawni'i ddyletswyddau statudol.
Mae CNC yn chwilio am Gadeirydd i arwain y Bwrdd a chyda'i gilydd, i barhau i bennu cyfeiriad strategol CNC. Mae hynny'n cynnwys monitro strategaeth busnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad CNC. Y Bwrdd fydd yn gyfrifol am lywio a datblygu gwaith cyffredinol CNC, ond y Prif Weithredwr fydd yn ei redeg o ddydd i ddydd.
Cefnogir gwaith y Bwrdd gan bedwar pwyllgor:
- Archwilio a Sicrhau Ansawdd;
- Pobl a Thâl;
- Cyllid a Chynllunio Busnes; a
- Grŵp Cynghori ar Fwyd.
Yn ogystal â chadeirio'r Bwrdd, mae'n bosib y bydd gofyn i'r Cadeirydd fynd ar bwyllgorau eraill. Bydd gofyn i'r Cadeirydd weithio o leiaf 72 diwrnod bob blwyddyn.
Dyma rai o brif gyfrifoldebau'r Cadeirydd:
- Rhoi gweledigaeth ac arweiniad strategol;
- Cadeirio cyfarfodydd a helpu i ddatblygu'r Bwrdd, gan sicrhau cydbwysedd priodol o sgiliau a phrofiad;
- Sicrhau bod y Bwrdd yn gweithio'n effeithiol â'r Weithrediaeth i ddatblygu strategaeth a chynlluniau busnes corfforaethol sy'n cael eu craffu a'u monitro'n briodol;
- Trwy weithio gyda'r Prif Weithredwr yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, sicrhau bod y trefniadau llywodraethu priodol yn cael eu rhoi ar waith yn unol â'r arfer gorau a gofynion corff cyhoeddus;
- Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gyson â'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol i'r corff trwy statud;
- Cydweithio'n glos â'r Prif Weithredwr i sicrhau bod strategaeth berthnasol yn bod ar gyfer y corff;
- Cydweithio'n glos â'r Prif Weithredwr i barhau i adeiladu ac aeddfedu strwythur y corff a meithrin ymagwedd bositif at ei waith;
- Goruchwylio gwaith y Prif Weithredwr, gan roi cymorth priodol yn ôl yr angen, gan gynnwys rheoli ei berfformiad;
- Cynrychioli'r corff yn allanol a meithrin cysylltiadau gwaith agos ag unigolion a grwpiau perthnasol.
Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau fod y Bwrdd, fel unigolion ac ar y cyd, yn dilyn saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan:
- Anhunanoldeb
- Uniondeb
- Gwrthrychedd
- Atebolrwydd
- Bod yn Agored
- Gonestrwydd
- Arweinyddiaeth
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Hanfodol
- Arwain a chadeirio Bwrdd i sicrhau ei fod yn gweithio'n effeithiol a bod cyfrifoldebau'r corff yn cael eu hysgwyddo'n briodol;
- Y gallu i roi arweiniad ar gyfer gweddnewid a datblygu sefydliad ar lefel Bwrdd neu gorff cyfatebol mewn sefydliad cymhleth;
- Hanes o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy'n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol;
- Gallu eithriadol i gyfathrebu, gan gynnwys delio â'r cyfryngau a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach, a meithrin cysylltiadau ar bob lefel. Mae angen sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i negodi, darbwyllo a dylanwadu;
- Sgiliau a barn ddadansoddi o'r radd flaenaf, yn seiliedig ar allu arbenigol i brosesu a dehongli gwybodaeth gymhleth all hefyd fod yn dechnegol;
- Y gallu i sicrhau yr ymdrinnir yn ddoeth ac yn systemataidd â thrafodion ariannol y sefydliad, y cânt eu harchwilio yn yr un modd a'u bod ar gael i'r cyhoedd, gan ddangos ymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored;
- Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt; a
- Record glir o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o weithredu ar eu sail.
Dymunol
- Dangos diddordeb yn yr amgylchedd a meini prawf cynaliadwyedd;
- Profiad o weithio ym maes rheoleiddio.
- Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am y broses asesu a dethol, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Os oes gennych gwestiynau am ofynion y rôl, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus (penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru) neu Tim Render, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Tim.Render@gov.wales neu 03000 258574.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.