Swydd Wag -- Cadeirydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:-
Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;
Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;
Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;
Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;
Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;
Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;
Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;
Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;
Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd y Cadeirydd yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
Hanfodol
- Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;
- Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;
- Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
- Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.
Dymunol
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd.
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth
Priodoleddau a Sgiliau Personol
Hanfodol
- Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd;
- Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
- Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
- Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;
- Y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
Dymunol
- Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a negodi cadarn;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;
- Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
- Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 03000 255454
E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:
Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.
Ffôn: 03000 251182 1182 (Dr Goodall)
E-bost: Andrew.Goodall@llyw.cymru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i'r wefan:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 5454 neu anfonwch e-bost i publicappointments@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.