Swydd Wag -- Amgueddfa Cymru Penodi Cadeirydd

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru
Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Cadeirydd yn cael eu cynnal yn ardal Caerdydd fel arfer, ond bydd gofyn iddo ymweld ag Amgueddfeydd Cenedlaethol eraill a lleoliadau eraill. Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 4 gwaith y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y De
£35,182.80. Bydd hawl gan y Cadeirydd i gostau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau y cytunwyd arnynt 
2
wythnos

Rôl y corff

Rolau a Chyfrifoldebau Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.8 miliwn o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn.

Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arweinydd ym myd addysg a chyfranogiad diwylliannol.

Mae safleoedd Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerleon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.

Noddir Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer pennu cyfeiriad strategol y sefydliad, a sicrhau bod ei hadnoddau’n cael eu rheoli yn iawn. Fel Amgueddfa, rydym yn atebol hefyd i’r wlad a wasanaethwn am ddefnyddio’n casgliadau a’n hadnoddau.


Gweledigaeth Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn eiddo i ni i gyd. Ein nod yw defnyddio'n hamgueddfeydd a'n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin ymdeimlad o les ac o hunaniaeth, i fynd ati i ddarganfod, i fwynhau ac i ddysgu'n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol ei gymunedau a’i wlad.  Rydym wedi datblygu strategaeth deng mlynedd ar gyfer yr Amgueddfa - Amgueddfa Cymru 2030 - sy’n cynnwys chwe ymrwymiad clir. Byddwn yn gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, trwy gasgliadau, rhaglenni cyhoeddus a phartneriaethau i:

  • wneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli pawb
  • ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes
  • helpu i ddiogelu ac adfer natur a'n hamgylchedd
  • cefnogi llesiant drwy ofodau a phrofiadau sy’n ysbrydoli
  • darganfod ac archwilio'r amgueddfa'n ddigidol
  • meithrin cysylltiadau byd-eang.

Bydd gan ein Cadeirydd newydd rôl hanfodol i'w chwarae wrth wireddu'r ymrwymiadau hyn ac wrth helpu i gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru y mae'r Amgueddfa'n brif bartner neu’n bartner allweddol iddi, yn enwedigo ran yn datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd, Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol, Strategaeth Ddiwylliant newydd ac ymrwymiadau i greu Cymru Wrth-hiliol.

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau'r Bwrdd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru.

Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol.  Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol  â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru.  

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau yn unol â chyfraith elusen ac a nodir yn y Siarter Brenhinol i Lywodraeth Cymru ac i Senedd Cymru a’r Comisiwn Elusennau.

Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (rhyw £25.4 miliwn o gyllid refeniw a £4.75m o arian cyfalaf yn 2022/23) oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant. Mae’r sefydliad yn cyflogi dros 600 o staff ar draws ei safleoedd.

Mae Adolygiad Teilwredig wrthi’n cael ei gynnal a disgwylir ei argymhellion yng Ngwanwyn 2023.  Y Bwrdd fydd yn gyfrifol am gadw golwg bod yr argymhellion y cytunir arnynt yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.

Ymddiriedolwyr y Bwrdd

Mae’r Ymddiriedolwyr yn goruchwylio ac yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, ac yn ei ddwyn i gyfrif, wrth iddo wireddu’r weledigaeth strategol a chyflawni’r amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn Llythyr cylch gwaith Amgueddfa Cymru

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

  • fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • gwasanaethu ar is-bwyllgorau;
  • cefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
  • cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
  • rhoi o’u profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • hwyluso'r cysylltiadau gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
  • cyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac yn elusen gofrestredig.  Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau a'r Amodau sy'n gysylltiedig â'r arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa. 

I fod yn effeithiol, mae angen Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd sydd ag amrywiaeth eang o arbenigeddau a phrofiadau.



 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl y Cadeirydd

Mae Amgueddfa Cymru wedi’i chorffori drwy Siarter Frenhinol ac mae'n elusen gofrestredig a reoleiddir gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Mae gan y Cadeirydd felly gyfrifoldebau o dan y Siarter ac, fel pob Ymddiriedolwr, rhaid gydymffurfio â chyfraith elusennau a chanllawiau'r Comisiwn Elusennau.

Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog/Gweinidogion Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru sy’n darparu tua 80% o gyllid yr Amgueddfa) a gall Senedd Cymru ei ddwyn hefyd i gyfrif. Rhaid i gyfathrebu rhwng y Bwrdd a'r Gweinidog, yng nghwrs arferol busnes, gael ei gynnal drwy'r Cadeirydd. Rhaid i'r Cadeirydd sicrhau bod ymddiriedolwyr eraill yn cael gwybod am bob gohebiaeth o'r fath.

Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithredoedd yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod materion y Corff yn cael eu cynnal gydag uniondeb. Lle bo'n briodol, rhaid i'r Cadeirydd drefnu bod y polisïau a'r gweithredoedd hyn yn cael eu rhannu â phob rhan o’r Corff.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all chwarae rhan flaenllaw, gan ysbrydoli a chefnogi gwaith yr Amgueddfa i wireddu ei gweledigaeth, Mae sefyllfa'r Cadeirydd yn gofyn am berson gonest â gweledigaeth, all arwain sefydliad cenedlaethol mewn rôl anweithredol uwch, a bod yn eiriolwr o blaid yr Amgueddfa gyda'n rhanddeiliaid allweddol. 

 

Perthynas â'r Uwch Dîm Gweithredol

Fel Cadeirydd, byddwch yn creu, meithrin a chynnal perthynas weithio gref, effeithiol a chefnogol â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Uwch Dîm Gweithredol ehangach, gan roi cymorth a chyngor ynghylch rhoi’r strategaeth Amgueddfa Cymru 2030 ar waith, gan barchu cyfrifolebau’r swyddogion gweithredol.

Bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol yn rhoi'r gorau i'w swydd ym mis Ebrill sy'n golygu, ar adeg penodi'r Cadeirydd newydd, gall fod Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro neu ddim Cyfarwyddwr Cyffredinol o gwbl gan yr Amgueddfa.

Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau arwain o ran:

  • arwain Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wrth lunio a chymeradwyo strategaethau Amgueddfa Cymru a goruchwylio eu gweithredu gan gynnwys cynnal strategaeth Amgueddfa Cymru 2030;

  • cynrychioli Amgueddfa Cymru wrth Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru;

  • sicrhau bod Amgueddfa Cymru, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i'r gofynion statudol a rheoli ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

  • datblygu perthynas gref ac effeithiol rhwng Amgueddfa Cymru a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys sefydliadau diwylliannol a threftadaeth eraill;

  • goruchwylio gwaith cyffredinol tîm uwch arweinwyr Amgueddfa Cymru, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Cyffredinol;

  • cefnogi'r tîm gweithredol i hyrwyddo defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill;

  • sicrhau safonau uchel o ran rheoleidd-dra, uniondeb, a llywodraethu; a

  • cynrychioli barn Amgueddfa Cymru gerbron y cyhoedd, gan gynnwys gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, a bod yn wyneb cyhoeddus yr Amgueddfa.

Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:

  • sicrhau bod holl Aelodau'r Bwrdd yn cael gwybod yn llawn beth yw telerau eu penodiad a’u dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau;

  • arwain Amgueddfa Cymru i ehangu mynediad a chreu sector a chorff diwylliannol cynhwysol, yn unol â'r Cynllun Gweithredu ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a'r Cynllun Gweithredu LGBTQ+;

  • cydweithio â Llywodraeth Cymru ac arwain y broses yn Amgueddfa Cymru o ymateb i argymhellion yr Adolygiad Teilwredig;

  • sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys gofynion adrodd a rheoli ariannol elusennau a chyrff y sector cyhoeddus a’r gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a rhai'r sector cyhoeddus;

  • sicrhau bod gan y Bwrdd gydbwysedd o sgiliau sy'n briodol i allu rhedeg busnes y Corff;

  • pan fydd Gweinidog yn llenwi swyddi gwag ar y Bwrdd, bydd yn rhoi cyngor penodol;

  • asesu perfformiad aelodau'r Bwrdd unigol yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth yn Llywodraeth Cymru;

  • gwerthuso ac asesu perfformiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol;

  • sicrhau bod cod ymddygiad priodol ar gyfer aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys rheolau a chanllawiau ar fuddiannau aelodau'r Bwrdd ac ar wrthdaro buddiannau.

    Meini prawf hanfodol

    Yn eich cais, rhaid ichi ddangos eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol. Profir hynny ymhellach yn y cyfweliad:

     

    • profiad o weithredu ar lefel uwch (gweithredol neu anweithredol) ac o wneud penderfyniadau cadarn mewn sefydliad mawr, cymhleth neu amlddisgyblaethol a'r gallu i Gadeirio Bwrdd yn effeithiol;

     

    • yn dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a llesiant, economaidd-gymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

     

    • tystiolaeth bod gennych sgiliau rhyngbersonol. cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid cryf, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol;

     

    • prawf eich bod wedi cynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb. Ymrwymiad pendant i ehangu mynediad a chyfranogiad mewn diwylliant ledled Cymru;

     

     

    • yn dangos y gallu i feddwl yn strategol a/neu ddangos crebwyll masnachol, profiad o gynhyrchu incwm yn yr economi ymwelwyr neu brofiad cyfatebol a/neu brofiad o godi arian;

     

    • yn gallu profi bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd, a chyfrifoldeb ariannol, gan gynnwys o ddewis cyllid sector cyhoeddus; a

     

     


 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Dyddiadau cyfweliadau

23 Mai 2023
24 Mai 2023

Dyddiad cau

11/04/23 17:00

Gwybodaeth ychwanegol

Y Gymraeg

Mae'r rôl hon yn cael ei hysbysebu yr un pryd â swydd Is-gadeirydd. Bydd angen i un o'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y naill swydd neu'r llall fod yn siaradwr Cymraeg neu ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wedi’i benodi. Byddwn yn eich cefnogi'n llawn gyda phecyn hyfforddi pwrpasol. Fel gyda gofynion eraill, gellir trafod addasiadau rhesymol.

Mae'r Amgueddfa yn sefydliad dwyieithog ac yn cefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn ffordd broactif. Mae'n ofynnol i'r Amgueddfa gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, fel a bennwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.

Polisi prif noddwr yr Amgueddfa, Llywodraeth Cymru, yw cefnogi'r iaith Gymraeg, ac mae ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg) yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.