Swydd Wag -- Cadeirydd - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod trefniadau etholiadol prif ardaloedd yn addas i'r diben – gan ddatblygu a chyflwyno rhaglen dreigl ddeng mlynedd o adolygiadau etholiadol.
- Gwneud Gorchmynion mewn perthynas â chynigion gan brif gynghorau ar gyfer newidiadau i ardaloedd cymunedol yn dilyn eu hadolygiadau o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol.
- Fel y bo'n briodol, sicrhau bod ffiniau ardaloedd prif gynghorau yn addas i'r diben.
- Cynnal lefelau uchel o lywodraethiant corfforaethol ar gyfer y Comisiwn.
Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau neu ddarparu cyngor a gwybodaeth ar gais awdurdodau lleol neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
O ran trefniadau prif ardaloedd, mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd, yn ei farn ef, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn rhoi arweiniad i'r Comisiynwyr eraill ac i’r ysgrifenyddiaeth a bydd yn rheoli Prif Weithredwr y Comisiwn.
Bydd y Cadeirydd hefyd yn arwain ar gyfrifoldebau'r Comisiwn o ran bodloni safonau'r Gymraeg, dyletswyddau cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth.
Bydd gan Gadeirydd y Comisiwn drosolwg o’r meysydd hyn:
Y Rhaglen Adolygu
- Datblygu’r Polisi ac Arfer a’r Fethodoleg Maint Cynghorau ar gyfer y Rhaglen Adolygu Etholiadol nesaf, gan adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o'r rhaglen flaenorol a chomisiynu ymchwil ar faterion penodol.
- Bydd yr Aelodau hefyd yn sicrhau bod ymgynghori eang â Llywodraeth Cymru, Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, a'r holl randdeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon.
- Asesu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer nifer cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, gan ystyried cymhlethdodau ac, yn aml ffactorau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd, o ran demograffeg a seilwaith yr ardal sy'n cael ei hadolygu, ac ystod eang o safbwyntiau a geir yn adborth drwy ymgynghori.
- Gweithredu ar y cyd i wneud penderfyniadau drafft a therfynol ar adolygiadau etholiadol unigol.
- Gweithio gyda phrif gynghorau i sicrhau bod ffiniau cymunedau a threfniadau etholiadol yn cael eu hadolygu a'u cydgysylltu'n rheolaidd â'r rhaglen o adolygiadau etholiadol.
- Gweithredu ar y cyd i wneud gorchmynion ar adolygiadau cymunedol unigol.
- Bod yn ymwybodol, bob amser, o'r risgiau, o ran enw da a materion eraill, sy'n gysylltiedig â'r adolygiadau, a'r canlyniadau posibl i'r Comisiwn, ei aelodau a Llywodraeth Cymru.
- Sicrhau bod cyfrifoldebau Comisiynwyr dros oruchwylio nifer o Adolygiadau Etholiadol penodol fel Comisiynydd Arweiniol yn cyflawni eu rôl o ran arwain cyflwyniadau ac annerch cyfarfodydd ymgysylltu â chynghorwyr Prif Gynghorau, gan gynnwys arweinwyr grwpiau gwleidyddol, ac uwch-swyddogion cynghorau; cynghorwyr a chlercod Cynghorau Cymuned a Thref; y cyhoedd a grwpiau eraill a fydd â diddordeb yn yr adolygiad.
Llywodraethiant Corfforaethol
- Sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn atebol
- Monitro'r gyllideb yn fisol (£1,411,000 yn 2021/22). Mae hyn yn cynnwys cyllideb Swyddfa'r Cabinet ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru (sy'n ymwneud ag adolygiadau seneddol).
- Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithio yn unol â deddfwriaeth, ei gynlluniau, ei weithdrefnau a'i bolisïau a bod y rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
- Bod yn ymwybodol o nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru.
- Darparu arweiniad a ffocws i'r sefydliad wrth iddo wireddu ei amcanion a chyflawni ei ddyletswyddau a sicrhau bod Llythyr Cylch Gwaith y Gweinidog yn cael ei gyflawni.
- Cefnogi'r Prif Weithredwr mewn perthynas â materion adnoddau dynol, gan sicrhau bod sgiliau'r staff yn cael eu datblygu a'u cynnal.
- Gweithio'n agos fel tîm o Gomisiynwyr a chyda'r staff.
- Ymgysylltu'n gyson â rhanddeiliaid i gynnal yr enw da am ragoriaeth.
- Sicrhau bod y Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg ac Is-bwyllgor y Gweithlu yn bodloni eu gofynion.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
I gael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau a'r sgiliau canlynol i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad:
Dylai ymgeiswyr:
- bod yn fedrus iawn wrth arwain tîm bach i gyflwyno rhaglen waith yn brydlon ac i safonau uchel a dangos sgiliau profedig wrth gadeirio cyfarfodydd/paneli;
- gallu dangos ymrwymiad i reoli cyllidebau'n effeithiol ac yn effeithlon o fewn fframwaith 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru';
- gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach;
- gallu gwerthuso gwybodaeth a dod i gasgliad rhesymegol;
- bod yn fedrus o ran cyfathrebu a negodi;
- gallu cymryd safbwynt annibynnol, cyfartal a dangos niwtraliaeth wleidyddol;
- meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol, a dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan.
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y penodiad. Fodd bynnag, bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos empathi tuag at yr iaith.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.