Swydd Wag -- Cadeirydd - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Manylion y swydd
gael costau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau
rhesymol yn seiliedig ar 1-2 diwrnod y mis.
Rôl y corff
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) yn annibynnol
ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Fe'i sefydlwyd yn barhaol, a hynny ar y
cychwyn er mwyn pennu ystod a lefelau'r lwfansau sy'n daladwy gan gynghorau sir a
chynghorau bwrdeistref sirol i'w cynghorau a'u haelodau cyfetholedig sydd â hawliau
pleidleisio.
Estynnodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gylch gwaith y Panel a rhoi iddo ei
statws statudol presennol. Mae ei gylch gwaith bellach hefyd yn cynnwys cynghorau
tref a chymuned, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Estynnwyd cylch gwaith y Panel ymhellach yn 2015, a chaiff hefyd yn awr wneud
argymhellion mewn perthynas ag unrhyw gynnig i newid cyflog prif weithredwr cyngor
sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yn ôl y gofyn.
Aelodaeth
Mae'r Panel fel arfer yn cynnwys Cadeirydd a phedwar Aelod arall. Rhaid i'r Panel
benodi un o'i Aelodau yn Is-gadeirydd. Fel arfer mae’r Panel yn cyfarfod unwaith bob
mis calendr. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yw tri a rhaid iddo gynnwys naill ai'r
Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.
Sefydliadau y mae'r Panel yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol ar eu
rhan
Prif Gynghorau
Mae’r 22 prif gyngor yng Nghymru yn gyfrifol am ystod eang iawn o wasanaethau, y
mae llawer ohonynt yn statudol (h.y. mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddynt eu cyflawni).
Dyma rai ohonynt:
Addysg - er enghraifft darparu ysgolion, trafnidiaeth i gludo plant i'r ysgol a
darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion
Tai - megis dod o hyd i lety i bobl mewn angen a chynnal tai cymdeithasol
Gwasanaethau Cymdeithasol - er enghraifft gofalu am blant, pobl hŷn a phobl
anabl a’u diogelu
Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan gynnwys cynnal a chadw ffyrdd a rheoli llif traffig
Rheoli Gwastraff, gan gynnwys casglu sbwriel ac ailgylchu
Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol - er enghraifft darparu llyfrgelloedd,
gwasanaethau hamdden a lleoliadau celfyddydol
Diogelu Defnyddwyr - megis gorfodi safonau masnach a thrwyddedu tacsis
Iechyd a Gwasanaethau'r Amgylchedd - er enghraifft sicrhau bod y bwyd a
ddarperir mewn tafarndai a bwytai yn ddiogel i'w fwyta, a rheoli llygredd yn lleol
Cynllunio, gan gynnwys rheoli datblygiad lleol a sicrhau bod adeiladau'n ddiogel
Datblygu Economaidd - er enghraifft denu busnesau newydd ac annog
twristiaeth
Cynllunio at Argyfwng ar gyfer pethau fel llifogydd neu ymosodiadau terfysgol
Cynghorau Cymuned a Thref
Mae 735 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda dros 8000
o gynghorwyr. Mae lefelau'r gwasanaethau y mae'r cynghorau hyn yn eu darparu yn
amrywio ledled Cymru, ac er bod rhai yn fach ac yn gweithredu'n bennaf fel llais
cymunedol, mae llawer hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar ran y
gymuned megis:
• cynnal a chadw neuaddau cymunedol
• llochesi bysiau
• mannau cyhoeddus
• tir chwarae
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel Parciau
Cenedlaethol Cymru. Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo dibenion a
buddiannau tri Pharc Cenedlaethol Cymru; Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro
ac Eryri.
Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn rhoi modd i awdurdodau parciau cenedlaethol
nodi materion sydd o ddiddordeb ar y cyd a chytuno ar allbynnau. Mae gwybodaeth a
phrofiadau'n cael eu rhannu rhwng cydweithwyr, llunwyr polisi, cymunedau lleol o
fewn y parciau cenedlaethol ac ymwelwyr â'r ardaloedd gwarchodedig hyn.
Mae awdurdodau parciau cenedlaethol yn cynnwys aelodau etholedig o'r prif
gynghorau o fewn ffiniau'r parciau cenedlaethol ac aelodau a benodir gan
Weinidogion Cymru.
Awdurdodau Tân ac Achub
Cafodd y 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru - Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Gogledd Cymru a De Cymru - eu ffurfio fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol
ym 1996. Mae’r awdurdodau tân ac achub yn cynnwys aelodau etholedig a enwebir
gan y prif gynghorau o fewn ardal y gwasanaeth tân ac achub.
Disgrifiad o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r broses o bennu ystod y taliadau i:
Aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol
Aelodau cynghorau tref a chynghorau cymuned
Aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol
Aelodau awdurdodau tân ac achub
Rôl a chyfrifoldebau
Mae'n ofynnol i'r Panel lunio adroddiad blynyddol, a fydd yn rhagnodi’r taliadau a’r
lwfansau ar gyfer cynghorwyr ac aelodau o'r sefydliadau a restrir uchod. Rhaid i’r
Panel lunio Adroddiad Blynyddol a chaiff lunio Adroddiadau Atodol ar unrhyw adeg y
mae'n credu bod hynny’n angenrheidiol. Wrth baratoi ei adroddiadau, mae'n ofynnol
i'r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod neu'r
awdurdodau dan sylw. Mae aelodau'r panel hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau
arfaethedig i gyflog prif weithredwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, yn
ôl yr angen.
Disgrifiad o rôl y Cadeirydd
Pennu'r cyfeiriad strategol mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol
cynghorwyr lleol ac aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau
tân ac achub. Sicrhau bod gwaith y Panel wedi'i osod o fewn y strategaeth
gyffredinol hon.
Sgiliau arwain – gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd a gosod safonau ar gyfer
gweithredu'r Panel yn effeithiol a chwblhau adroddiadau'n amserol.
Datblygu dull strategol o ymgysylltu ag unigolion a chynrychiolwyr y cyrff y
mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer.
Sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o rôl y Panel a sut y gallant gyfrannu at
ei waith.
Sicrhau bod gwaith y Panel yn dryloyw ac yn agored i broses graffu a
thrafodaeth gyhoeddus.
Mynychu cyfarfodydd y Panel a chyfarfodydd rhanddeiliaid eraill gydag uwch-
Sicrhau bod arian ac adnoddau’r Panel yn cael eu rheoli mewn dull sy’n
sicrhau gwerth am arian
Sgiliau cyfathrebu effeithiol
Y gallu i herio'n adeiladol o fewn y Panel ac yn allanol gyda rhanddeiliaid
Nodi rhaglen ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu penderfyniadau'r Panel.
Ystyried canlyniad yr ymchwil, dadansoddi'r canlyniadau a chyfleu sut mae'r
dystiolaeth honno'n cefnogi penderfyniadau'r Paneli.
Cyfrannu at ddatblygu polisi - gan gynnwys paratoi papurau trafod / ysgrifennu
adroddiadau.
Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion
gwahaniaethol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Meini Prawf Hanfodol
Dylai pob Ymgeisydd ddangos tystiolaeth o:
Sicrhau bod y Panel yn glynu wrth saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan, yn
dangos ymrwymiad i faterion cydraddoldeb ac yn herio arferion gwahaniaethol,
ac yn gweithio mewn ffordd sy’n ddiduedd o ran gwleidyddiaeth wrth gyflawni ei
ddyletswyddau
Darparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol gan gynnwys hanes profedig
o gyflawni nodau o fewn amserlenni priodol
Sgiliau rhyngbersonol cryf gan gynnwys y gallu i drafod, darbwyllo a dylanwadu
Y gallu i feithrin perthynas waith dda gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid ac eraill,
gan gynnwys rheoli cyfarfodydd a digwyddiadau allweddol eraill yn effeithiol
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ag unigolion sy'n
amrywio o aelodau o'r cyhoedd i uwch-arweinwyr
Y gallu i nodi a rheoli rhaglen ymchwil, ystyried a dadansoddi tystiolaeth o ystod
eang o ffynonellau a gwneud penderfyniadau sy'n deg ac yn rhesymol ar sail y
dystiolaeth honno
Dealltwriaeth o bwysigrwydd democratiaeth leol a gwasanaeth cyhoeddus.
I gael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r
profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.