Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Anweithredol (Digidol a Data) - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth
gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o
ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella
canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob
polisi ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG,
awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan
gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol.
Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel
Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â
phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd
Cyhoeddus Cenedlaethol.
Mae'n gyfnod cyffrous i iechyd y cyhoedd yng Nghymru gyda chyd-destun polisi a
deddfwriaeth arloesol a blaengar sy'n sicrhau bod iechyd, llesiant a chynaliadwyedd
yn flaenllaw yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae tri sbardun o bwys
sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Rhaglen Lywodraethu: Ffyniant
i Bawb – y strategaeth genedlaethol a Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal
cymdeithasol.
Mae ein ffocws yn glir iawn. Er mwyn gwneud gwelliannau i iechyd a llesiant ar
raddfa fawr ac yn gyflym a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, bydd
angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio, cefnogi ein pobl yn Iechyd
Cyhoeddus Cymru, yn genedlaethol ac yn lleol, i feddwl, ymgysylltu a gweithio gyda
phartneriaid yn wahanol a rheoli a chyflwyno newid yn dda. Mae angen i ni hefyd
gefnogi ein partneriaid gan gynnwys cymunedau, gweithleoedd, y GIG, awdurdodau
lleol, y trydydd sector, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau tai i
ddod yn eiriolwyr ac yn hyrwyddwyr iechyd cyhoeddus o fewn ac ar draws
cymunedau. Yn ogystal, mae angen moderneiddio sut rydym ni, a'r system iechyd
cyhoeddus ehangach, yn ymgysylltu, yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu â'r cyhoedd a
chymunedau yn gyffredinol.
Rydym wedi sefydlu nifer o bartneriaethau strategol allweddol a chydweithrediadau i
ysgogi gwelliannau mewn iechyd, llesiant a chynaliadwyedd ledled Cymru - gyda
ffocws penodol ar adeiladu gwytnwch a'r penderfynyddion ehangach. Mae'r rhain yn
cynnwys CymruWellWales, sef partneriaeth strategol draws-sector sy'n arwain
Cymru o ran yr ymgyrch 1000 Diwrnod Cyntaf a Chanolfan Gymorth Profiadau
Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), y rhaglen genedlaethol Camau Cynnar
Gyda'n Gilydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r heddlu a’r system cyfiawnder
troseddol er mwyn ymgorffori dull iechyd cyhoeddus o blismona yng Nghymru a
Phartneriaeth Iechyd a Thai strategol i Gymru.
Disgrifiad o'r swydd
strategaeth hirdymor newydd ac mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch
profiad i gyfrannu at ein gweledigaeth sef 'Gweithio i wireddu dyfodol iachach i
Gymru'.
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol, ymysg pethau eraill, yn:
Cyflawni dyletswyddau llywodraethu’r sefydliad yn effeithiol, yn ei holl ffurfiau
integredig. Bwrdd Unedol yw'r Bwrdd, ac mae Cyfarwyddwyr Gweithredol ac
Anweithredol yn gyfrifol ar y cyd am wneud penderfyniadau ar lefel y Bwrdd. Rôl
y Cyfarwyddwyr Anweithredol yw craffu a goruchwylio ac i roi o’u profiad a'u
harbenigedd i gefnogi trafodaethau a phenderfyniadau'r Bwrdd.
Pennu naws a diwylliant y sefydliad, gan sicrhau y gall yr holl staff ddod i'r gwaith
a ffynnu drwy fod yn nhw eu hunain, heb ofni gwahaniaethu nac anfantais o
unrhyw fath.
Cynnal ‘llwybr clir' o'r Bwrdd i'r rheng flaen ac yn ôl i’r Bwrdd.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y
gorffennol a’ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o’r gwaith rheoli
beunyddiol.
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod
penderfyniadau’r Bwrdd yn gydgysylltiedig, yn gadarn ac yn dryloyw.
Mae disgwyl y bydd gennych wybodaeth ymarferol ddigonol o wasanaethau a
swyddogaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau trefniadau llywodraethu da,
ac i asesu risg yn effeithiol a rheoli a chyflawni yn erbyn cynlluniau cymeradwy.
Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill i sicrhau bod yr
holl safbwyntiau perthnasol yn cael eu hystyried yn ystod y broses benderfynu.
Dylai buddiannau defnyddwyr gwasanaeth fod o'r pwys mwyaf yn hyn o beth.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol er mwyn
sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau mor wybodus â phosibl.
Goruchwylio’r broses o stiwardio adnoddau’n effeithiol, gan sicrhau bod y broses
o ddyrannu a defnyddio’r adnoddau’n agored a bod atebolrwydd ynghylch hynny
Lle mae gan Gyfarwyddwyr Anweithredol bortffolio penodol, adlewyrchu barn
rhanddeiliaid y portffolio hwnnw ar lefel y Bwrdd.
Cyflawni’r rôl yn unol ag Egwyddorion Nolan a Chod Ymddygiad Bwrdd Iechyd
Cyhoeddus Cymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
amgylchedd Digidol a Data. Mae’n hanfodol eich bod yn deall ac yn gwerthfawrogi
materion sy’n ymwneud ag iechyd y boblogaeth yng Nghymru a sut y gallwn
fanteisio’n well ar atebion digidol a’r defnydd o ddata yn y cyd-destun hwn, fel rhan
o’r system iechyd a gofal ehangach.
Er mwyn i chi gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y
sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.
Meini prawf Penodol ar gyfer y Swydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu agenda uchelgeisiol i gynyddu i’r eithaf
ein cyfleoedd digidol a data ein hunain yn ogystal â’r cyfleoedd yr ydym yn eu
cyhoeddi ac yn eu rhannu â’n partneriaid a’r cyhoedd yng Nghymru. Ein nod yw
sicrhau bod hyn yn helpu i wella ein gwasanaethau ein hunain a gwasanaethau
iechyd y cyhoedd ehangach yng Nghymru. Rydym felly yn awyddus i dderbyn
ceisiadau gan bobl sy’n meddu ar wybodaeth a phrofiad o weithio ar agenda digidol a
data ar lefel strategol er mwyn cyflwyno’r persbectif hanfodol hwn i’r Bwrdd.
Yn eich cais, bydd angen i chi ddangos:
Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl data a thrawsnewidiad digidol yng Nghymru;
Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion digidol a
data mewn amgylchedd Bwrdd strategol – yn ddelfrydol yn deillio o’ch profiad
uniongyrchol o arwain neu reoli sefydliad ar raddfa fawr yn y meysydd digidol
a data;
Dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â data a thechnoleg ddigidol sy’n effeithio
ar y GIG yn genedlaethol (yng Nghymru) a’r gallu i weithio’n strategol er mwyn
helpu i gyflawni canlyniadau iechyd gwell i bobl Cymru;
Profiad o weithio ar lefel uwch swyddog gweithredol neu ar lefel Bwrdd.
Mae iechyd a llesiant y cyhoedd yn bwysig i bawb yng Nghymru ac rydym yn
croesawu ceisiadau gan bobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog y boblogaeth.
Meini Prawf Dymunol
Yn ddelfrydol, byddwch wedi gwasanaethu fel swyddog anweithredol neu
ymddiriedolwr, ar lefel genedlaethol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.