Swydd Wag -- Penodi Aelodau Bwrdd

Manylion y swydd

Gofal Cymdeithasol Cymru
Bydd y Bwrdd yn parhau i gyfarfod yn rhithwir ar gyfer y rhan fwyaf o gyfarfodydd Pwyllgor a mwyafrif o gyfarfodydd y Bwrdd. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd yn bennaf ond weithiau cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru.
£282 y dydd a gall aelodau hawlio costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
2
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyd-gyfrifol am sicrhau bod cyfeiriad strategol Gofal Cymdeithasol Cymru’n canolbwyntio ar nodau llesiant Cymru, egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016. Disgwylir i’r Bwrdd gydymffurfio â saith egwyddor Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus a dangos gwerthoedd arweiniad Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. 

Mae’r Bwrdd, drwy’r Cadeirydd, yn atebol i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i drefniadau llywodraethu effeithiol drwy gynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus Cymru a hybu hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru. 

Mae ein Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd ac 14 aelod ar y mwyaf, i gyd yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae’r Bwrdd yn cynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, sy’n cyflogi gweithwyr gofal, sy’n gweithio ym myd addysg, neu’n aelodau o’r cyhoedd sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru.

Mae angen i’r holl aelodau fod yn ymroddedig i sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru’n gweithio’n dda fel bod gan bobl sy’n gweithio mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol y sgiliau a’r hyfforddiant priodol.

Disgrifiad o'r swydd

Mae’n rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod y nodau a’r amcanion a bennwyd gan Weinidogion Cymru’n cael eu cyflawni. Mae’n rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn atebol.

Fel Aelod byddwch yn:

  • sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru’n gweithio’n unol â gweithdrefnau a pholisïau;
  • sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru’n gwario arian yn dda ac yn y ffordd briodol;
  • gwrando, gofyn cwestiynau, ymuno â thrafodaethau a chyfrannu at syniadau ynghylch beth fydd Gofal Cymdeithasol Cymru’n ei wneud yn y dyfodol a sut gellir gwneud hyn;
  • gwneud penderfyniadau fel rhan o’r Bwrdd a bod yn gyfrifol am y penderfyniadau hyn;
  • gweithio’n angerddol a brwdfrydig gydag Aelodau eraill y Bwrdd a staff Gofal Cymdeithasol Cymru;
  • cynrychioli Gofal Cymdeithasol Cymru gyda’i gwsmeriaid, sefydliadau eraill a chymunedau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

I fod yn Aelod lleyg o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru mae’n rhaid i chi allu:

  • ymrwymo i Gofal Cymdeithasol Cymru am ddau ddiwrnod y mis;
  • cydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd;
  • Deall materion cyfredol sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol a sectorau blynyddoedd cynnar
  • bod yn angerddol a brwdfrydig i wella gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru;
  • meddu ar ddealltwriaeth o faterion gofal cymdeithasol yng Nghymru;
  • dirnad a gwneud synnwyr o wybodaeth gymhleth sy’n anghyson ar adegau;
  • gwneud penderfyniadau ac esbonio sut rydych wedi dod i’r penderfyniad hwnnw;
  • darparu her adeiladol a dal swyddogion i gyfrif am eu gweithredoedd;
  • gweithio ag eraill mewn tîm, yn ogystal ag ar eich pen eich hun;
  • bod â sgiliau cyfathrebu da er mwyn cymryd rhan mewn cyfarfodydd a gweithredu fel llysgennad dros Gofal Cymdeithasol Cymru;
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig yng nghyd-destun gofal cymdeithasol.

Mae gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn ganolog i sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithredu. Fel Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, bydd disgwyl i chi:

  • weithio gydag eraill i gyflawni amcanion a rennir;
  • dysgu o lwyddiannau a chamgymeriadau a defnyddio’r profiad a’r wybodaeth i sicrhau canlyniadau gwell;
  • cynnal agweddau realistig a chadarnhaol at heriau, adfyd a newid a chefnogi eraill i wneud yr un peth;
  • cyfathrebu’n agored â phobl i ennyn eu hymddiriedaeth a’u hyder.

Dyddiadau cyfweliadau

14 Chwefror 2022
18 Chwefror 2022

Dyddiad cau

11/11/21 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol cysylltwch â’r:

Uned Penodiadau Cyhoeddus

Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl aelod Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru cysylltwch â Llinos Bradbury, Ysgrifennydd y Bwrdd, Gofal Cymdeithasol Cymru:

Ffôn: 029 2078 0540

E-bost: llinos.bradbury@gofalcymdeithasol.cymru 

Os ydych chi angen rhagor o gymorth wrth ymgeisio am y rôl hon cysylltwch â  penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.