Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_77A409CF-85BC-4EBF-8A2E-C87E71E103EB~~

Manylion y swydd

Cynhelir cyfarfodydd y bwrdd unwaith y mis mewn amrywiol leoliadau.
£9,360 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi esblygu, dros y ddau ddegawd diwethaf, i fod yn un o'r gwasanaethau ambiwlans mwyaf datblygedig yn glinigol yn y byd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwasanaethu dros dair miliwn o bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i  ystod amrywiol o gymunedau ar draws ardal o ryw 8,000 milltir sgwâr.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymateb i 2000 o alwadau brys bob dydd, ac yn ychwanegol at ddefnyddio'r ambiwlans argyfwng traddodiadol neu gerbyd ymateb cyflym, mae'n gallu cynnig cyngor yn fwyfwy dros y ffôn neu driniaeth yn y lleoliad neu yn y cartref. Mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd dimau sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau mwy cymhleth neu ddigwyddiadau mawr. 

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol ymysg pethau eraill, yn:-

Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei rheoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol. 

Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw

Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn.  

Gallu cyfrannu at brosesau  ‘llywodraethu ac ariannu’ yr Ymddiriedolaeth, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Mae'n hanfodol bod Cyfarwyddwyr Anweithredol yn dangos y priodoleddau canlynol:-

 

Gwybodaeth a Phrofiad

Deall problemau a blaenoriaethau iechyd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;

Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Y Ddeddf Diogelu Data.

 

Dyddiadau cyfweliadau

3 Hydref 2019
3 Hydref 2019

Dyddiad cau

13/09/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus  PublicAppointments@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol, cysylltwch â Martin Woodford, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. E-bost: Martin.Woodford@wales.nhs.uk  

 

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gallwch fynd i'w gwefan: http://www.ambulance.wales.nhs.uk/.

 

Anogir ymgeiswyr posibl hefyd i ddysgu mwy am Wasanaeth Ambiwlans Cymru trwy gysylltu'n uniongyrchol â'r Ymddiriedolaeth. Byddant yn cynnig y cyfle i chi ddod i un o'u gorsafoedd ambiwlans neu fangre arall, mewn lle sy'n lleol ichi lle bo modd, i gyfarfod ag aelodau'r Bwrdd a staff allweddol eraill. Dylai ymgeiswyr cysylltu â naill ai Martin.Woodford@wales.nhs.uk neu keith.cox@wales.nhs.uk

 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar 03000 616095, neu e-bost: publicappointments@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-25546c74a314/candidate/register

 

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Cyfarwyddwr Anweithredol (3 swydd) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac yna cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf y gwnewch gais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy'ch cyfrif.

 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu cael gweld y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i'r adran 'Rhesymau dros ymgeisio' ar y ffurflen gais ar-lein.  Y datganiad personol yw eich cyfle chi i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a manyleb y person. 

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.