Swydd Wag -- Cyngor Partneriaeth y Gymraeg Penodi Aelodau (hyd at 4)

Manylion y swydd

Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
O ganlyniad i COVID-19, caiff cyfarfodydd eu cynnal dros Microsoft Teams ar hyn o bryd. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal eto, a hynny ym Mae Caerdydd gan amlaf ond gallant fod mewn lleoliadau eraill hefyd ledled y wlad.
Di-dâl, ond telir costau teithio a chynhaliaeth a threuliau rhesymol eraill.
3
blwyddyn

Rôl y corff

Sefydlwyd y Cyngor Partneriaeth cyntaf ym mis Ebrill 2012 er mwyn cefnogi’r Llywodraeth i weithredu’i strategaeth Iaith fyw: iaith byw – Strategaeth y Gymraeg 2012–2017 a'r set gyntaf o Safonau Iaith Gymraeg.

Cafodd strategaeth iaith Gymraeg gyfredol y Llywodraeth ei lansio yn ystod haf 2017 sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, law yn llaw â Rhaglen Waith ar gyfer 2017-21. Byddwn yn paratoi rhaglen waith newydd y flwyddyn nesaf er mwyn i’r llywodraeth nesaf barhau ar y daith tuag at y miliwn.


Rôl y Cyngor

Bydd y Cyngor Partneriaeth yn cyfrannu at y gwaith o weithredu strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr drwy gynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru. Hefyd, bydd disgwyl i aelodau hyrwyddo’r strategaeth gyda'r sefydliadau a'r sectorau y maent yn eu cynrychioli.



Disgrifiad o'r swydd

Fel Aelod o’r Cyngor, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o weithredu strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr drwy gynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru. Hefyd, bydd disgwyl i chi hyrwyddo’r strategaeth gyda'r sefydliadau a'r sectorau yr ydych yn eu cynrychioli.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad. 

Er mwyn i’r Cyngor Partneriaeth allu gweithredu’n effeithiol, bydd angen i'w Aelodau fod ag amrywiaeth eang o brofiadau mewn materion sy'n ymwneud â'r Gymraeg, o bob maes a sector yng Nghymru a hynny o bob cwr o’r wlad. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad canlynol:

  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Bod yn gyfathrebwr effeithiol a pherswadiol, sy'n gallu gwneud cyfraniad perthnasol a phriodol mewn cyfarfodydd.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Meini Prawf Hanfodol 

Yn ogystal, bydd angen i Aelodau ddangos sut maent yn bodloni pob un o'r tri maen prawf canlynol:

  • Bod â phrofiad a / neu wybodaeth am faterion sy’n ymwneud â'r Gymraeg yn ogystal ag arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
  • Addysg
  • Cydraddoldeb
  • Cynllunio ieithyddol
  • Cynyddu defnydd iaith yn y gymuned a / neu yn y gweithle
  • Economi a byd busnes
  • Iechyd a gofal
  • Marchnata neu dechnegau newid ymddygiad
  • Seilwaith ieithyddol (gan gynnwys technoleg, corpws, geiriadura).
  • Bod â phrofiad a / neu wybodaeth am o leiaf ddau o'r canlynol:

    • Cynllunio strategol a rheoli newid
    • Datblygu cyngor ynghylch polisi, a’r cyngor hwnnw’n gytbwys, ac yn seiliedig ar dystiolaeth
    • Dylanwadu ar eraill mewn sefydliad, gan gynnwys dylanwadu ar uwch-aelodau y sefydliad
    • Bod â phrofiad a / neu wybodaeth am y graddau y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio gan drigolion Cymru.

Yr iaith Gymraeg

Rydym eisiau denu chwe aelod sydd ag amrywiol brofiadau o faterion y Gymraeg. 

Mae'n bwysig bod y Cyngor Partneriaeth yn cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd ac o bob rhan o Gymru, ac rydym felly'n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg hyderus, siaradwyr newydd a'r rheini sydd ddim yn siarad yr iaith.

Rydym yn awyddus i ddenu aelodau o gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd i ymuno â'r Cyngor Partneriaeth, boed yn siaradwyr newydd, neu'n bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol.

 

Cynhelir y cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen i bedwar o'r chwech aelod newydd siarad Cymraeg yn hyderus, a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael mewn cyfarfodydd yn ôl y galw.


Dyddiadau cyfweliadau

23 Chwefror 2021
25 Chwefror 2021

Dyddiad cau

01/02/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Diolch am fynegi diddordeb yn y broses benodi hon ar gyfer Aelodau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Rydym yn gobeithio penodi chwe aelod i ymuno â’r chwech sydd eisoes ar y Cyngor. Os bydd mwy na chwe ymgeisydd yn gymwys i gael eu penodi, mae’n bosibl y byddwn yn cadw manylion yr ymgeiswyr cymwys nas penodir ar restr wrth gefn am hyd at 12 mis. 

Bydd Aelodau yn cyfrannu at weithredu strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, drwy gynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru. Mae'r Atodiadau amgaeedig yn rhoi manylion ynghylch rôl yr Aelodau a manyleb y person, rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor Partneriaeth a'r broses ddethol. 

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-643606d0a1d8/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/ 

Yno, cliciwch ar y swydd (“Aelodau Cyngor Partneriaeth y Gymraeg”) ac yna dewis y botwm “Gwneud Cais” ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd gyda Llywodraeth Cymru, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru i gael mynediad at system ceisiadau ar-lein y Llywodraeth. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill y byddwch yn eu hanfon drwy eich cyfrif. 

Ar ôl cofrestru, bydd modd ichi weld y ffurflen gais sy’n rhaid ei llenwi ar gyfer y swydd. Fel rhan o’ch cais, bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV hefyd i adran “Rhesymau dros ymgeisio” y ffurflen gais ar-lein.

Datganiad Personol 

Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut ydych chi’n bodloni pob un o’r meini prawf a nodir ym manyleb y person. Cewch chi benderfynu sut i gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut y mae eich gwybodaeth a'ch profiadau yn cyd-fynd â phob maen prawf, ac sy'n disgrifio beth oedd eich rôl / swyddogaeth chi wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.

Ni ddylai'r datganiad personol fod yn hwy na dwy dudalen. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn.

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf a'ch dyddiadau yn y swydd honno. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol presennol neu flaenorol.

Geirdaon

Rhowch ddau enw cyswllt y gallwn gysylltu â nhw i ofyn am eirda (geirda cyflogwr a geirda personol). Dim ond ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus y byddwn yn cysylltu â’r unigolion hyn.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.