Swydd Wag -- Penodi 2 Aelod o’r Bwrdd - Cyfoeth Naturiol Cymru (Hanfodol Cymraeg)

Manylion y swydd

Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliadau ym mhob rhan o Gymru
£350 y dydd a threuliau rhesymol
36
blwyddyn

Rôl y corff

Mae’r adnoddau naturiol sydd gennym yng Nghymru – ein coed, moroedd, bryniau, caeau, dŵr a bywyd gwyllt – yn hanfodol ar gyfer ein dyfodol. Hebddynt, ni fyddai gennym aer glân i’w anadlu na dŵr i’w yfed. Maent yn un o brif ysgogwyr ein heconomi ac yn helpu i gynnal iechyd a llesiant ein pobl ac yn denu ymwelwyr i Gymru.

 

Mae galw cynyddol ar yr adnoddau hyn – gan ffactorau amgylcheddol fel newid yn yr hinsawdd, a chan ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Mae’n hanfodol felly sicrhau y caiff ein hadnoddau amgylcheddol eu rheoli yn y modd gorau posibl, i sicrhau gwerth am arian a chyflawni’r canlyniadau gorau. Mae angen gwneud hyn mewn ffyrdd sy’n gynaliadwy, er mwyn peidio â gwastraffu asedau naturiol Cymru ac er mwyn eu cynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad cyntaf yn y byd sy’n tynnu ynghyd yr offer sydd eu hangen i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol. Sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 1 Ebrill 2013 pan unwyd cyfrifoldebau, asedau a staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a Comisiwn Coedwigaeth Cymru dan enw Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn sgil hynny, hwn yw’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

 

Ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gyfrifoldebau gweithredu a rheoleiddio, Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r prif ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar adnoddau naturiol.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru trwy’r Gweinidogion Noddi (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar hyn o bryd) ac yn destun craffu gan Bwyllgorau perthnasol y Cynulliad. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am sut y mae’n cyflawni o’i gymharu â’r llythyr cylch gwaith blynyddol.

 

Swyddogaeth y Bwrdd

 

Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i ofynion statudol a rheolaeth ariannol wrth wneud penderfyniadau, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd masnachol yn llawn. Mae polisïau a gweithredoedd y Bwrdd yn cefnogi’r polisïau a’r gweithredoedd strategol ehangach a bennir gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflawni dyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Penodir Bwrdd CNC gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy.  Mae’n gyfrifol am ddatblygu, cymeradwyo a monitro strategaeth tymor hir ar gyfer CNC er budd ysgwyddo’i ddyletswyddau statudol.  

 

Bydd y Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd ac un ar ddeg o aelodau, ac un ohonynt yw’r Prif Weithredwr. Mae’n darparu arweinyddiaeth effeithiol, yn diffinio ac yn datblygu cyfeiriad strategol ac yn pennu amcanion heriol. Mae’r Bwrdd hefyd yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae’n sicrhau y cyflawnir gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithlon ac yn effeithiol, trwy fonitro perfformiad Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ei fod yn bodloni ei ddyletswyddau statudol, ac yn cyrraedd ei nodau, amcanion a thargedau perfformiad.

Mae’r Bwrdd, ar y cyd ac yn unigol, yn cadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan, sef:

  • Uniondeb;
  • Anhunanoldeb;
  • Gwrthrychedd;
  • Atebolrwydd;
  • Bod yn agored;
  • Gonestrwydd; ac
  • Arweinyddiaeth.

 

Yn ogystal ag egwyddorion Nolan, bydd angen i’r Bwrdd sicrhau hefyd bod y sefydliad yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf yn rhoi ar waith ddyletswydd llesiant, sef i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

Mae elfennau allweddol hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod y sefydliad yn pennu amcanion llesiant, i gyfrannu at y saith nod llesiant sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf, ac yn cymryd camau (gan gynnwys trwy ddyrannu adnoddau) i fodloni’r amcanion hyn;
  • Sicrhau bod y sefydliad yn ystyried yr Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy trwy wneud penderfyniadau ar gyfer y tymor hir, ystyried dulliau o atal, ystyried dulliau integredig, cydweithredu â sefydliadau eraill a chynnwys rhanddeiliaid allweddol.

 

Ar y cyd, dylai’r Bwrdd feddu ar gyfuniad o sgiliau sy’n diwallu anghenion busnes presennol Cyfoeth Naturiol Cymru a’u nodau ar gyfer y dyfodol. Yn ddelfrydol, mae aelodau’r Bwrdd yn bobl ymarferol a strategol, a chanddynt meddwl cadarn, sy’n gallu cynnig adolygiad beirniadol, ac sy’n fedrus wrth roi arweiniad ac adborth uniongyrchol, yn ogystal â chefnogaeth pan fo’i hangen. Maen nhw’n mynegi eu barn ac yn cwestiynu yn hytrach na derbyn; maen nhw’n ddigon dewr i ofyn cwestiynau anodd mewn modd adeiladol ond gan fod yn ymwybodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad mawr a chymhleth y mae angen ei arwain o ddydd i ddydd gan y Weithrediaeth. Felly mae’n rhaid i aelodau’r Bwrdd fod â diddordeb mewn gwneud cyfraniad ystyrlon i ddatblygiad sefydliadol a gallu ymdopi â’r pwysau o weithredu yn llygad y cyhoedd.

 

Dylai’r Bwrdd weithredu fel tîm a phan fydd penderfyniadau wedi’u gwneud mae’n rhaid i aelodau unigol ymddwyn yn golegol a chefnogi penderfyniadau’r Bwrdd yn ei gyfanrwydd a’r swyddogion Gweithredol wrth iddyn nhw roi cyfarwyddyd y Bwrdd ar waith, ni waeth beth fo’r heriau.

 

Mae bod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig cyfle i chi weithio gyda, ac ar ran pobl sy’n angerddol ynglŷn ag adnoddau naturiol Cymru ac rydym yn ceisio gwella’n barhaus i greu sefydliad sy’n perfformio’n dda ac sy’n cyflawni ei ddiben pwrpasol. I bob pwrpas, rydym yn chwilio am bobl ag uchelgais, egni a syniadau ac a all ymrwymo i fod yn bresennol mewn chwe chyfarfod Bwrdd y flwyddyn.
Disgwylir i aelodau'r Bwrdd hefyd fod yn aelodau o is-bwyllgorau statudol sy'n cwrdd 4 - 6 gwaith y flwyddyn. Caiff y cyfarfodydd eu cynnal yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ym mhob rhan o Gymru, ac mae’n bosibl y bydd angen llety dros nos ar gyfer rhai. Bydd cyfarfodydd Bwrdd eraill yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn a fydd yn galluogi’r Bwrdd i ddatblygu fel tîm ac i drafod materion ar gam datblygu â’r swyddogion Gweithredol, er y caiff y rhain eu trefnu er mwyn lleihau’r goblygiadau teithio cymaint â phosibl i'r Bwrdd cyfan.

 

Disgrifiad o'r swydd

Rydyn ni’n chwilio hefyd am bobl sydd â’r sgiliau canlynol ar lefel uwch: 

  • Cyllid/masnachol
  • Gwyddoniaeth
  • Cyfathrebu / marchnata / gwasanaethu cwsmeriaid
  • Cadwraeth/bioamrywiaeth amgylcheddol
  • Rheoli tirwedd 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol

Manyleb y person

Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar y sgiliau ac arfer yr ymddygiadau canlynol:
 

  • Parchu a deall egwyddorion atebolrwydd a llywodraethiant da
  • Ymwybyddiaeth o’i hun a’r sefydliad
  • Pwyso a mesur wrth benderfynu ar faterion cymhleth
  • Meddwl yn strategol
  • Gwrando mewn ffordd weithredol
  • Meddwl agored a meddwl annibynnol
  • Bod yn flaengar a threiddgar, yn rhesymegol ac yn greadigol
  • Profiad o roi cyngor ar sail eich profiad eich hun, ond yn gyfforddus ac yn hyderus cynnal trafodaeth ar amrywiaeth eang o bynciau
  • Ymrwymiad amlwg i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Hanes o ffurfio perthynas gref a chydweithredol ag unigolion a chyrff

Y Gymraeg

  • Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y 2 swydd hon.

Dyddiadau cyfweliadau

8 Hydref 2018
10 Hydref 2018

Dyddiad cau

09/08/18 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Ffeithiau allweddol am y swydd

Lleoliad:                                             Lleoliadau ym mhob rhan o Gymru

Ymrwymiad Amser:                          36 diwrnod y flwyddyn

Cyfnod y swydd:                              Penodiad cychwynnol o 2 neu 4 blynedd

Cydnabyddiaeth:                             £350 y dydd a threuliau rhesymol

 

Cymhwysedd

 

Caiff unigolyn ei ddatgymhwyso o’i benodi os yw:

a)    Wedi’i farnu’n euog o unrhyw drosedd yn y 5 mlynedd flaenorol yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw ac wedi’i ddedfrydu i garchar (wedi’i atal ai peidio) am gyfnod o dri mis neu fwy heb fod dewis o ddiryw;

 

b)    Yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdalu neu orchymyn dros dro neu wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant â chredydwyr;

 

  1.           i.    unigolion sydd wedi cael swydd flaenorol â chorff gwasanaethau iechyd wedi’i therfynu’n gynnar oherwydd nad oedd yn fanteisiol i fuddiannau neu reolaeth dda y corff fod yr unigolyn yn parhau yn y swydd

 

  1.          ii.    unigolyn sydd wedi methu â mynd i gyfarfod y corff deirgwaith yn olynol

 

  1.         iii.    unigolyn sydd wedi methu â datgan buddiant ariannol neu dynnu yn ôl o ystyried mater sy’n ymwneud â mater y mae gan yr unigolyn fuddiant ariannol ynddo

 

  1.         iv.    camymddwyn neu fethu â chyflawni dyletswyddau

 

  1.          v.    unrhyw un sy’n destun gorchymyn datgymhwyso o dan Ddeddf Datgymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986;

 

c)    Yn un o gyflogeion Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dylid datgan unrhyw wybodaeth arall a allai effeithio’n sylweddol ar eich cais am benodiad ar y ffurflen gais yn yr adran Gwrthdaro Buddiannau.

Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy’n ymddwyn bob amser mewn modd a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.

 

Dylai ymgeiswyr nodi hefyd fod bod yn aelod o’r Corff yn eu datgymhwyso rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Datgymhwyso) 2015. http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/1536/contents/made

 

Gwrthdaro Buddiannau

Gofynnir i chi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sydd gennych a allai, neu y canfyddir eu bod yn gwrthdaro â swyddogaeth a chyfrifoldebau aelod o Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddogaethau ag awdurdod y tu hwnt i’r swyddogaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Caiff unrhyw wrthdaro buddiannau eu harchwilio yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd yn rhaid i chi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i’r cyhoedd.

 

Safonau bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus, ac mae’r ddogfen hon ar gael yn: 

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.