Swydd Wag -- Aelodau - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Manylion y Swydd

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC” neu “y Cyngor”) yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 ("Deddf 1992”).

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am ariannu addysg uwch yng Nghymru ac mae'n gweinyddu'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn prifysgolion yng Nghymru ynghyd ag addysgu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu cyllid ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol mewn colegau addysg bellach. Mae CCAUC hefyd yn gyfrifol am fynd i'r afael ag agweddau ar gymorth i fyfyrwyr.

Y Cyngor sydd hefyd yn gyfrifol am ariannu cyrsiau hyfforddi athrawon ac am achredu darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru. Caiff y cyfrifoldebau hyn eu cynnwys yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2012 ac yn Neddf Addysg 2005.

Mae Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2011-12, y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2013-14 hyd 2015-16, ynghyd â llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 ar gael ar wefan CCAUC http://www.hefcw.ac.uk.

Rôl y Cyngor

Nod y Cyngor yw datblygu a chynnal addysg uwch rhagorol ar lefel ryngwladol yng Nghymru, er lles unigolion, y gymdeithas a'r economi yng Nghymru a thu hwnt.

Prif dasg y Cyngor ar hyn o bryd yw dyrannu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu addysg ac ymgymryd ag ymchwil gan sefydliadau addysg uwch (SAU) yng Nghymru.    Mae gan CCAUC gyllideb o oddeutu £362 miliwn ar gyfer 2014-15.  Mae telerau ac amodau ynghlwm wrth y grantiau a ddarperir i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid i'r Cyngor gydymffurfio â hwy, fel yr amlinella'r Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer 2014-15.  Eto i gyd, bydd y Bil Addysg Uwch sydd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn newid rôl y Cyngor i rôl rheoleiddio, a fydd yn golygu newidiadau sylweddol i'r modd y mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â'i ddyletswyddau. Golyga hyn ddatblygu dulliau eraill o gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor yn darparu cyngor arbenigol ac mae'n benodol gyfrifol am asesu ansawdd. Mae'r Prif Weithredwr yn cyflawni rôl Swyddog Cyfrifyddu er mwyn rheoli'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r diwygiadau i gyllid myfyrwyr ac addysg uwch a gyhoeddwyd yn 2010 ynghyd â datganiad polisi Llywodraeth Cymru ar addysg uwch yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer dyfodol addysg uwch yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr Addysg Uwch a CCAUC er mwyn cyflawni'r uchelgais a rennir ar gyfer system addysg uwch o'r radd flaenaf ar gyfer dysgwyr yng Nghymru a'r genedl ei hun yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Strategaeth Gorfforaethol CCAUC (2013-14 hyd 2015-16) yn nodi'r themâu strategol allweddol y mae angen i'r Cyngor eu hystyried dros y tair blynedd nesaf. Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol yw addysg uwch o'r radd flaenaf ar lefel ryngwladol yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac yn gwbl hygyrch.

Nod y Cyngor yw:

• sicrhau profiad rhagorol ac o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr addysg uwch ynghyd ag ymchwil rhagorol o safon ryngwladol;

• hybu cyfraniad addysg uwch yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol;

• galluogi darparwyr addysg uwch i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau'r DU ar gyfer addysg uwch;

• hysbysu a llywio polisi'r Llywodraeth er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn briodol i'w gyflenwi gan ddarparwyr addysg uwch;

er mwyn:

• gwella cyfiawnder cymdeithasol;

• sicrhau economi sy'n ffynnu.

Nodau Strategol

Nodau strategol y Cyngor wrth gyflawni ei gyfrifoldebau yw:

• EHANGU MYNEDIAD –  sicrhau cynhwysiant, cynnydd a llwyddiannau ym maes addysg uwch;

• PROFIAD MYFYRWYR – sicrhau addysg uwch a phrofiadau o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr, gan sicrhau gwell llais i fyfyrwyr;

• SGILIAU, CYFLOGADWYEDD a MENTERGARWCH – sicrhau graddedigion sy'n barod ar gyfer bywyd a gwaith, ynghyd â phrifysgolion sy'n cyfrannu at weithlu  mwy medrus;

• ARLOESI AC YMGYSYLLTU – sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chymhwyso a'i defnyddio er mwyn cyflawni cyfiawnder cymdeithasol ac economi lewyrchus;

• YMCHWIL - sicrhau ymchwil o safon ryngwladol er mwyn cyflawni economi lewyrchus a chefnogi cyfiawnder cymdeithasol.

Bydd yr egwyddorion allweddol canlynol hefyd yn sail i waith y Cyngor:

• AD-DREFNU A CHYDWEITHREDU – cyflawni system addysg uwch o'r newydd gyda darparwyr cadarn a fydd yn cynnig cyfleoedd addysg uwch mwy hygyrch, drwy waith partneriaeth, ac yn arbennig ar lefel ranbarthol. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd addysg uwch mwy hygyrch a gwell darpariaeth o safbwynt Addysg Uwch ar draws Cymru;

• LLYWODRAETHU – cyflawni gwelliannau parhaus o ran safon llywodraethu a chynaliadwyedd hirdymor y system addysg uwch;

• EFFEITHIOLRWYDD TREFNIADOL -  bod yn sefydliad cost effeithiol sy'n cael ei redeg yn dda ac a fydd yn cydweithio mewn modd adeiladol â Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg uwch, yn unigol ac ar y cyd.

Disgwylir i'r Aelodau:

• gydweithio'n agos â'r Cadeirydd ac â'r Prif Weithredwr wrth roi cyngor ac anogaeth i CCAUC wrth ysgogi, datblygu a gweithredu polisi ac wrth gyflawni'r cyfrifoldebau statudol;

• mynychu cyfarfodydd y Cyngor a bydd disgwyl iddynt hefyd gyfrannu at benderfyniadau allweddol ynghylch strategaeth y Cyngor;

• darparu cyngor awdurdodol ac amserol i Lywodraeth Cymru, ar lefel gyfyngedig, rhwng cyfarfodydd;

• cadeirio pwyllgorau'r Cyngor, neu fod yn aelodau ohonynt, fel y bo angen;

• cynnal, a hynny'n amlwg, y safonau uchaf posibl o ran uniondeb a didueddrwydd;

• ennyn parch tuag at waith y Cyngor

• gallu ymdrin yn hyderus â Llywodraeth Cymru ac â'r sector addysg uwch yng Nghymru.

Wrth benodi Aelodau'r Cyngor, mae gofyn  i Weinidogion Cymru, o dan adrannau 62(4) o Ddeddf 1992:

(a) ystyried dymunoldeb cynnwys personau yr ymddengys fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch, ac sydd wedi dangos capasiti i wneud hynny, neu sydd wedi meddu ar unrhyw swydd lle roedd cyfrifoldeb am ddarparu addysg uwch, ac wedi dangos capasiti i wneud hynny. Wrth benodi personau o'r fath, bydd gofyn ystyried dymunoldeb y ffaith eu bod eisoes yn ymwneud â darparu addysg uwch neu'n meddu ar gyfrifoldeb am ddarpariaeth o'r fath, ac

(b) ystyried dymunoldeb cynnwys personau yr ymddengys fod ganddynt brofiad o faterion diwydiannol, masnachol neu ariannol, ac sydd wedi dangos capasiti i wneud hynny, neu sy'n arfer unrhyw broffesiwn'.


Bydd y Gweinidog yn ystyried y gofynion hyn wrth benodi aelodau i'r Cyngor. Bydd angen i chi ddangos:


• Eich bod yn ymwybodol o'r ffaith bod y sector addysg uwch yn newid a dylech hefyd ddeall yr heriau y mae'n eu hwynebu o fewn y DU ac yn rhyngwladol;

• Eich bod yn gallu herio syniadau cyfredol a chyfathrebu’n effeithiol ac mewn modd argyhoeddiadol;

• Eich bod yn gallu bod yn aelod effeithiol o fwrdd;

• Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a'r gallu i herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol

• Dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus.


Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus iawn i gynnwys aelodau sy'n meddu ar brofiad helaeth yn un  neu fwy o'r meysydd canlynol:


• profiad o fewn Sefydliadau Addysg Uwch sy'n ymgymryd â llawer o waith ymchwil; 

• profiad o fewn busnes sy'n rhan o'r sector preifat ac sy'n ymwneud yn benodol â gwybodaeth ynghyd â phrofiad o recriwtio graddedigion.

• profiad o reoli/gweithredu newidiadau sefydliadol.


Ni chaiff ymgeisydd llwyddiannus sy'n gweithio i sefydliad addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd, neu sydd wedi gweithio i sefydliad o'r fath, gynrychioli buddiannau'r sefydliad hwnnw tra'n aelod o'r Cyngor, ond bydd disgwyl iddo/iddi fynegi barn ddiduedd a holistaidd ynghylch yr heriau y mae pob rhan o'r sector addysg uwch yng Nghymru yn eu hwynebu.

Wrth wneud penderfyniadau terfynol ynghylch aelodaeth, bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ceisio sicrhau Cyngor cwbl gytbwys sy'n adlewyrchu'r heriau amrywiol y mae addysg uwch yng Nghymru yn eu hwynebu.

Caerdydd
Bydd yr Aelodau'n derbyn tâl o £5,076 y flwyddyn.
2
mis

Yr Iaith Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyddiadau cyfweliadau

16 Chwefror 2014
20 Chwefror 2014

Dyddiad Cau

12/12/14 16:00
Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.